Neidio i'r prif gynnwy

Sut gall dylunwyr cynnwys, arbenigwyr pwnc a chyfieithwyr gydweithio i greu cynnwys ar gyfer LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manteision

Ysgrifennu mewn pâr, neu ysgrifennu pâr, yw pan fydd arbenigwyr pwnc a dylunwyr cynnwys yn cydweithio i ysgrifennu cynnwys. Mae'n helpu:

  • i lunio cynnwys clir a chywir
  • i leihau'r amser a dreulir yn mynd yn ôl ac ymlaen, gan gyflymu a hwyluso'r broses o gymeradwyo cynnwys
  • y rhai sy'n cymryd rhan i rannu dealltwriaeth a sgiliau

Mae ysgrifennu mewn triawd, neu ysgrifennu triawd, yn ychwanegu cyfieithydd sy'n helpu:

  • i sicrhau bod y cyfieithiad yn glir ac yn gywir
  • i wella'r ddwy iaith (os yw'n anodd ei gyfieithu yna efallai nad yw'n glir yn y naill iaith neu'r llall)

Pwy sy'n cymryd rhan

Dim ond 2 ddylai fod mewn sesiwn ysgrifennu pâr. Dylunydd cynnwys ac arbenigwr pwnc. Mae hyn yn helpu i gynnal llif y sesiwn ysgrifennu.

Mewn sesiwn ysgrifennu triawd mae 3 yn cymryd rhan. Dylunydd cynnwys, arbenigwr pwnc a chyfieithydd.

Gwnewch yn siŵr bod gan yr arbenigwr pwnc yr wybodaeth a'r awdurdod i gymeradwyo'r cynnwys.

Yr hyn y mae angen ichi ei wneud

Dylech gael sgwrs fer i drafod pa gynnwys sydd ei angen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn glir o ran beth yw nod y cynnwys, beth yw anghenion y defnyddwyr, ac erbyn pryd y mae ei angen.

Cynllunio

Dylech gael sgwrs cyn cyfarfod i wneud yn siŵr eich bod i gyd yn cytuno ar sut bydd yn gweithio.

Dylech gytuno ar anghenion y defnyddwyr a meini prawf derbyn ar y cam hwn.

Mae anghenion y defnyddwyr yn dilyn y templed hwn:

Fel... [pwy yw'r defnyddiwr?]

Rwyf angen... [beth mae'r defnyddiwr eisiau ei wneud?]

Fel y gallaf... [pam mae'r defnyddiwr eisiau gwneud hyn?]

Rhestr o’r pethau sydd angen eu gwneud er mwyn bodloni anghenion y defnyddwyr yw meini prawf derbyn.

Dylech gytuno ar sut, pryd a ble byddwch yn cwrdd, a beth yw'r disgwyliadau.

Y sesiwn ysgrifennu

Yn ystod y sesiwn bydd un person yn teipio, tra bydd y lleill yn gofyn cwestiynau ac yn gwneud awgrymiadau. Byddwch i gyd yn teipio yn eich tro. Dylech newid bob ryw 15 munud, a chadw'r sesiwn i awr neu lai.

Cofiwch fynd yn ôl yn rheolaidd at anghenion y defnyddwyr a'r meini prawf derbyn.

Awgrymiadau posibl:

  • beth wyt ti'n ei olygu wrth hynny?
  • ydy pobl yn deall y gair hwnnw?
  • wyt ti'n meddwl y bydd dy gynulleidfa'n deall...
  • paid poeni gormod am y manylion ar hyn o bryd, rho bopeth ar y dudalen, ac fe wnawn ni ei olygu wedyn
  • gallwn ni gywiro'r gramadeg wedyn, gwell inni nodi'r pwyntiau hynny i gyd ar hyn o bryd
  • noda hynny i'n hatgoffa
  • fe wna i nodyn o hynny... be' ddywedes di eto?
  • os hoffech awgrymu rhywbeth: fyddai X yn gweithio yma?
  • efallai fod angen inni esbonio'r gair hwn

Wrth ysgrifennu mewn triawd, mae'r cyfieithydd yn cyfrannu drwy gydol y sesiwn. Mae'n gwneud sylwadau ar unrhyw agwedd ar y cynnwys ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn deall er mwyn sicrhau bod y cyfieithiad yn gweithio'n dda. Dyma ragor o wybodaeth am ysgrifennu triawd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Mae'n bwysig nodi'r holl ffeithiau ar y cam hwn. Gellir golygu fformat a chynllun y cynnwys yn nes ymlaen.

Cwblhau'r cynnwys

Bydd y dylunydd cynnwys wedyn yn golygu'r cynnwys, yn penderfynu ar y math o gynnwys ac yn gorffen fformatio.

Yna dylid anfon y cynnwys yn ôl at yr arbenigwr pwnc i wirio'r ffeithiau cyn iddo gael ei gyfieithu a'i gyhoeddi yn LLYW.CYMRU.