Neidio i'r prif gynnwy

Sut gall dylunwyr cynnwys ac arbenigwyr polisi gydweithio i greu cynnwys ar gyfer LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ysgrifennu fel pâr yw pan fod arbenigwyr polisi a dylunwyr cynnwys yn cydweithio ysgrifennu cynnwys. Gall dorri lawr ar fynd yn ôl ac ymlaen, a gwneud y broses cadarnhau cynnwys yn gynt ac yn haws.

Nid yw ysgrifennu fel pâr yn briodol ar gyfer pob cynnwys. Mae'n ddefnyddiol cael trafodaethau cynnar i wneud yn siŵr fod pawb yn gweithio tuag at yr un amcan.

Pwy sy'n rhan o ysgrifennu fel pâr

Dim ond 2 berson ddylai fod mewn sesiwn ysgrifennu fel pâr. Dylunydd cynnwys ac arbenigwr polisi. Mae yn cadw'r sesiwn i lifo.

Gwnewch yn siŵr fod gan yr arbenigwr polisi y wybodaeth a'r awdurdod priodol i gymeradwyo'r cynnwys.

Beth sydd angen i ni wneud

Dylech gael sgwrs fer ynghylch pa gynnwys sydd ei angen. Byddwch yn glir ar amcan y cynnwys, a beth yw'r anghenion defnyddwyr, a phryd mae angen y cynnwys.

Cynllunio

Dylech gael sgwrs cyn cyfarfod i ysgrifennu, i wneud yn siŵr eich bod yn cytuno ar sut fydd yn gweithio yn ymarferol.

Dylech gytuno ar anghenion defnyddwyr a'r meini prawf derbyn ar y pwynt yma.

Mae anghenion defnyddwyr yn dilyn y templed yma:

Fel... [pwy yw'r defnyddiwr?]
Rwyf angen... [beth mae'r defnyddiwr eisiau ei wneud?]
Fel y gallaf... [pam mae'r defnyddiwr eisiau gwneud hyn?]

Meini prawf derbyn yw rhestr o’r pethau sydd angen eu gwneud i ddiwallu anghenion y defnyddiwr.

Cytunwch sut, pryd a ble i gwrdd, a beth yw'r disgwyliadau.

Y sesiwn ysgrifennu fel pâr

Yn ystod y sesiwn bydd un person yn teipio, a'r llall yn gofyn cwestiynau a phwyntiau trafod. Byddwch yn cymryd eich tro i deipio. Dylech newid bob 15 munud, a chadw'r sesiwn i tua awr.

Cofiwch gadw mynd yn ôl at angen y defnyddiwr, a'r meini prawf derbyn.

Cwestiynau a phwyntiau trafod posibl:

  • beth wyt ti'n golygu gan hynny?
  • yw pobl yn deall y gair yna?
  • wyt ti'n credu bydd y gynulleidfa'n deall...
  • paid â phoeni’n ormodol am y manylion nawr, rho bopeth ar y dudalen, wnawn ni ei olygu wedyn
  • allwn ni gywiro'r gramadeg wedyn, rho'r pwyntiau yna lawr
  • rho hwnna fel nodyn i'w gofio
  • nai ysgrifennu hwnna lawr... beth ddwedais di?
  • os oes rhywbeth gyda chi i'w awgrymu: 'fyddai x yn gweithio fan hyn?'
  • efallai bod angen i ni esbonio'r gair yma

Mae'n bwysig cael yr holl ffeithiau ar y pwynt yma. Gall fformat a gosodiad y cynnwys gael ei addasu wedyn.

Gorffen y cynnwys

Bydd y dylunydd cynnwys yn golygu'r cynnwys, yn penderfynu ar y math o gynnwys a gorffen fformatio.

Dylai'r cynnwys gael ei anfon yn ôl at yr arbenigwr polisi ar y pwynt yma i wirio'r ffeithiau cyn ei gyfieithu a'i gyhoeddi ar LLYW.CYMRU.