Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru a'r rhaglen Cymru Fyd-eang, a arweinir gan Brifysgolion Cymru, wedi cyhoeddi partneriaethau newydd â'r rhaglenni ysgoloriaethau rhyngwladol uchel eu parch Fulbright a Gilman.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cytundebau yn ariannu symudiadau myfyrwyr ac ymchwilwyr rhwng y ddwy wlad, gyda'r nod o ddatblygu cysylltiadau addysgol hirdymor.

Lansiwyd y partneriaethau yn swyddogol neithiwr yng Nghynhadledd Flynyddol NAFSA 2019 yn Washington D.C., sef y gynhadledd addysg ryngwladol fwyaf yn y byd. Mae Cymru Fyd-eang yn mynychu'r gynhadledd ochr yn ochr â phrifysgolion Cymru. Eu nod yw datblygu partneriaethau rhyngwladol ein prifysgolion, denu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol i Gymru ac annog mwy o fyfyrwyr o Gymru i astudio dramor. Mae dros 20,000 o fyfyrwyr tramor yn astudio ym mhrifysgolion Cymru bob blwyddyn ar hyn o bryd. 

Nod cytundeb Fulbright yw atgyfnerthu cysylltiadau rhwng prifysgolion yn yr Unol Daleithiau a Chymru a chynyddu'r cyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a syniadau rhyngddynt. Bydd myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr o Gymru yn astudio yn yr Unol Daleithiau, tra bydd lleoedd cyfatebol ar gael i fyfyrwyr o America ym mhrifysgolion Cymru. 

Yn dilyn ymweliad y Gweinidog Addysg Kirsty Williams â'r Unol Daleithiau y llynedd, cytunodd Comisiwn Fulbright a'r Sefydliad er Addysg Ryngwladol i hyrwyddo sefydliadau ymchwil Cymru ledled yr Unol Daleithiau. Mae'r Gweinidog wedi cytuno y bydd Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, hefyd yn gwarchod buddiannau Cymru ar Fwrdd Comisiwn Fulbright.   

Mae Rhaglen Ysgoloriaethau Rhyngwladol Benjamin A. Gilman ar gyfer myfyrwyr galluog o'r Unol Daleithiau o gefndiroedd difreintiedig na fyddai fel arall yn cael cyfleoedd i astudio dramor. Bydd y cytundeb yn darparu lleoedd astudio ac yn cyfrannu tuag at gostau byw hyd at ddeg o fyfyrwyr is-raddedig o America i astudio ym mhrifysgolion Cymru. 

Nod y partneriaethau yw datblygu ar sail y cysylltiadau presennol rhwng prifysgolion yng Nghymru ac America, megis drwy Seren, sef y rhwydwaith sy'n cefnogi myfyrwyr ysgol uwchradd o Gymru i wneud cais ar gyfer rhai o brifysgolion gorau'r byd, gan gynnwys Harvard ac Yale yn yr Unol Daleithiau, ac i fynd i'r prifysgolion hynny. 

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: 

“Gan fy mod wedi treulio blwyddyn yn y brifysgol ym Missouri, mae gen i brofiad uniongyrchol o werth astudio dramor. Bydd y cytundebau hyn yn galluogi rhai o'r myfyrwyr ac academyddion mwyaf disglair o Gymru i gael profiad o astudio yn yr Unol Daleithiau, a chywain gwybodaeth werthfawr y gallant ei throsglwyddo yn ôl i Gymru. 

“Sefydlwyd rhai o brifysgolion mawr America, megis Brown ac Yale, gyda chymorth gan bobl o Gymru. Yn unol â’r un ysbryd arloesol, rydym yn gwahodd pobl ifanc o America i astudio yng Nghymru, dysgu am ein gwlad ac, yn bwysicaf oll, i fwynhau'r profiad o fyw ac astudio yma, ac rwy'n siŵr y byddant yn dychwelyd adref fel cenhadon dros Gymru, gan annog mwy o'u cyd-wladwyr i astudio yn un o brifysgolion rhagorol Cymru.  

“Rwy'n credu'n angerddol bod addysg yn ddull o ddatblygu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. Oherwydd ein gwaith ymchwil blaenllaw ac ansawdd bywyd myfyrwyr sydd ymhlith y gorau yn y DU, rwy'n gobeithio y bydd llawer o'n ffrindiau o'r Unol Daleithiau yn dewis byw, gweithio neu astudio yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Cadeirydd Bwrdd Cymru Fyd-eang:

“Rwyf wrth fy modd bod yr ysgoloriaethau uchel eu parch hyn wedi eu sefydlu gyda rhaglenni adnabyddus Fulbright a Gilman. 

“Mae'r cytundebau hyn yn cefnogi ein nod cyffredin o ddatblygu ymhellach ar sail y cydberthnasau addysgol pwysig sy'n bodoli eisoes rhwng y ddwy wlad. Bydd y cyfle i gael mwy o gyfnewid myfyrwyr ac ymchwilwyr rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau o fudd mawr i'n prifysgolion a'n campysau, yn ogystal ag i'r unigolion dan sylw. 

“Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn galluogi mwy o fyfyrwyr o'r Unol Daleithiau i gael profiad o ddarpariaeth addysg ragorol Cymru, a bydd hyn yn cyfoethogi ac yn rhyngwladoli ystafelloedd dosbarth Cymru ymhellach. At hynny, edrychwn ymlaen at gynnal cydberthnasau hirdymor gydag ysgolorion Fulbright a Gilman ar ôl iddynt raddio, gan ddatblygu cydberthnasau hirhoedlog ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol ar ran Swyddfa Materion Addysgol a Diwylliannol yr Unol Daleithiau Marie Royce, wrth sôn am y bartneriaeth newydd hon i gefnogi Rhaglen Ysgoloriaethau Rhyngwladol Benjamin A. Gilman: 

“Drwy'r bartneriaeth rhwng Gilman a Chymru Fyd-eang, bydd gan fwy o fyfyrwyr o America o bob cefndir y cyfle i astudio dramor neu dreulio amser fel intern dramor a rhannu amrywiaeth gyfoethog ein gwlad fel dinasyddion-genhadon. Mae'r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein cydymdrechion i gael mwy o fyfyrwyr o America, a mwy o fyfyrwyr o America o gefndiroedd amrywiol, i astudio dramor, ac mae'n gadarnhad o'r cydweithio agos rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru.