Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgyblion o ysgolion ledled Cymru wedi ymuno â'r Gweinidog Addysg a'r Prif Weinidog i ddathlu llwyddiant diwedd cyfnod cyntaf y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid cyflenwi yn buddsoddi £3.7 biliwn mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru.
  • Yn ystod y cyfnod cyntaf, buddsoddwyd dros £1.4 biliwn dros y 5 mlynedd diwethaf, gan gymeradwyo cyllid ar gyfer 170 o brosiectau.
  • Bydd yr ail gyfnod yn gweld buddsoddiad pellach o £2.3 biliwn i adeiladu ac adnewyddu mwy o ysgolion a cholegau a'u trawsnewid yn ganolfannau cymunedol.

Mae disgyblion o ysgolion ledled Cymru wedi ymuno â'r Gweinidog Addysg a'r Prif Weinidog i ddathlu llwyddiant diwedd cyfnod cyntaf y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

Yn ystod y digwyddiad, fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg gyfres o fideos a grëwyd mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau ledled Cymru i dynnu sylw at y cyfleusterau newydd anhygoel a ddarperir drwy'r buddsoddiad.

Roedd hefyd gyfle i’r Gweinidogion glywed gan y disgyblion eu hunain am y gwahaniaeth y mae'r cyfleusterau newydd yn ei wneud i’w haddysg.

Caiff y Rhaglen ei disgrifio fel y rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf uchelgeisiol ers y 1960au gyda buddsoddiad o £3.7 biliwn dros ddau gyfnod a 170 o brosiectau eisoes wedi'u cymeradwyo.

Yn ystod y digwyddiad, fe lansiodd y Gweinidog Addysg ail gyfnod y rhaglen yn swyddogol. Mae ail gyfnod y rhaglen wedi'i ail-frandio fel Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, a bydd yn gweld buddsoddiad pellach o £2.3 biliwn.

Ffocws allweddol ar gyfer ail gyfnod y rhaglen fydd trawsnewid ysgolion a cholegau yn ganolfannau ar gyfer dysgu ehangach a gweithgareddau lleol. Bydd hefyd yn herio a chefnogi ysgolion, colegau a chymunedau dros Gymru i gydweithio i roi'r cyfleusterau hyn wrth wraidd eu cymunedau.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Roedd y digwyddiad heddiw yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd a dathlu'r cyfnod cyntaf o fuddsoddiad, a chlywed gan athrawon a dysgwyr am effaith y buddsoddiad arnynt.

“Rwy'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yn hyn drwy gydweithio a’n partneriaid cyflenwi.

“Nod ein cenhadaeth genedlaethol yw creu system addysg y gallwn ymfalchïo ynddi. Bydd yr adeiladau dysgu ar gyfer yr 21ain ganrif rydyn ni’n eu creu drwy'r Rhaglen hon yn chwarae rhan allweddol yn hyn o beth, gan weithio ochr wrth ochr â’n cwricwlwm newydd, ac athrawon a dysgwyr rhagorol.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fydd cymunedau, ysgolion, awdurdodau lleol, colegau a Llywodraeth Cymru yn cydweithio.

“Yn rhy aml, dydyn ni ddim yn rhoi digon o sylw i’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni yng Nghymru. Mae heddiw yn gyfle gwych i ni ddathlu llwyddiant y cyfnod cyntaf ac edrych i'r dyfodol at gam nesaf y Rhaglen.”

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd Addysg CLlLC:

“Ar adeg lle mae pwysau ariannol ar awdurdodau lleol, mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio. Mae'n fuddsoddiad hirdymor sylweddol sy'n creu cymunedau addysgol sy'n addas ar gyfer yr oes fodern ac a fydd yn gwella profiad dysgu ein disgyblion.

“Mae llywodraeth leol yn ymwybodol iawn o'r rôl allweddol sydd gan adeiladau ysgolion i’w chwarae, nid yn unig fel lleoedd i addysgu ein plant, ond hefyd fel canolfannau i'w defnyddio gan gymunedau ehangach. Bydd awdurdodau lleol yn awr yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru yn ystod ail gam y Rhaglen hon a fydd yn parhau i drawsnewid yr ystâd ysgolion ledled Cymru.”

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg:

“Bydd ail gyfnod y buddsoddiad yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn prosiectau sy'n gosod ysgolion a cholegau wrth wraidd cymunedau lleol, gan greu mannau dysgu amlbwrpas sy'n gweithredu fel canolfannau cymunedol.

“Credaf yn gryf fod creu ardaloedd o fewn ein hysgolion sy'n annog cydweithio gyda'r gymuned leol yn galluogi ein plant a'n dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad o berthyn, ac yn codi eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gellir gwylio’r fideos sydd yn dathlu llwyddiant y cyfnod cyntaf o fuddsoddiad yma.