Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i ddysgu ac addysgu mewn ysgolion o 29 Mehefin 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Pryd fydd ysgolion Cymru yn agor i fwy o ddisgyblion?

Bydd ysgolion yn dechrau ar y cam nesaf ar 29 Mehefin.

Sut bydd ysgolion yn ailagor?

Bydd pob ysgol yn gweithredu fesul cam. Bydd y blynyddoedd ysgol yn cael eu rhannu’n grwpiau, gan gyrraedd yr ysgol a chael egwyl ar adegau gwahanol. Disgwylir y bydd hyn yn golygu mai traean, ar y mwyaf, o’r disgyblion fydd yn bresennol ar unrhyw adeg, er ei bod yn bosib y bydd angen amser ar ysgolion i gyrraedd y lefel honno.

Bydd y dosbarthiadau yn llawer llai, gan roi amser penodol, diogel penodol i’r disgyblion gyda’u hathrawon a chyd-ddisgyblion. Bydd yr amser hwn yn cynnwys profiad dosbarth ar-lein a phersonol, gan baratoi plant a staff ar gyfer profiad tebyg ym mis Medi. 

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau manwl i ysgolion i roi gwybodaeth ynghylch rheoli eu cyfleusterau a threfniadau ymarferol, gan gynnwys adeiladau, adnoddau, glanhau a thrafnidiaeth. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau i wasanaethau gofal plant a gwybodaeth i ddarparwyr addysg bellach.

Bydd ysgolion yn gwneud eu trefniadau yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain, ac yn rhoi gwybod i rieni am drefniadau penodol ar gyfer eu disgyblion.

Pam gwneud y penderfyniad hwn nawr?

Ers y penderfyniad i gau ysgolion ar gyfer darpariaeth statudol, mae ein dealltwriaeth o’r feirws a’i effeithiau hirdymor wedi parhau i ddatblygu. Rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni fyw gyda’r feirws am gryn dipyn o amser, ac mai dyma fydd ein her fwyaf yn y dyfodol agos.

Rydym yn creu cyfle i ddisgyblion Ddod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu a Pharatoi ar gyfer Mis Medi. Drwy wneud hyn nawr, bydd yn rhoi amser cyswllt hanfodol i blant cyn gwyliau’r haf, a fydd yn arwain at fanteision pwysig yn gymdeithasol ac o ran dysgu a’r bwlch cyrhaeddiad. Bydd hyn yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer yr amser cyswllt fydd ar gael iddynt ar ôl gwyliau’r haf, ac yn caniatáu i ysgolion brofi eu dulliau gweithredu cyn yr hydref.

Ar gyfer rhieni ac athrawon hefyd, dyma gyfle pwysig i brofi’r mesurau diogelwch sydd yn eu lle a chael hyder ynddynt. Diogelwch staff a dysgwyr sydd flaenaf. Erbyn 29 Mehefin bydd y cynllun profi, olrhain a diogelu wedi bod yn weithredol am fis cyfan.

Mae papur gan y Grŵp Cynghori Technegol ar COVID-19, sy’n cynnig ein dealltwriaeth ddiweddaraf o’r feirws mewn perthynas â phlant ac addysg.

Rwy’n rhiant/warcheidwad sy’n gwarchod fy hun. A ddylwn i anfon fy mhlentyn/plant yn ôl i’r ysgol ddiwedd mis Mehefin?

Os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad sy’n gwarchod eich hun, nid oes disgwyl i chi anfon eich plentyn/plant yn ôl i’r ysgol ddiwedd mis Mehefin. Ni fydd rhieni yn cael eu dirwyo am gadw eu plentyn/plant gartref. Bydd y plant yma yn parhau i gael cymorth gan eu hysgolion mewn ffyrdd gwahanol, ond dylai teuluoedd barhau i gadw mewn cysylltiad â’r ysgol er mwyn iddynt ddeall pam nad ydynt yn bresennol.

Mae fy mhlentyn yn cael ei warchod. A fydd rhaid i fy mhlentyn ddychwelyd i’r ysgol ddiwedd mis Mehefin?

Os yw eich plentyn yn cael ei (g)warchod, ni ddylai ddychwelyd i’r ysgol ddiwedd mis Mehefin na defnyddio’r sesiynau ailgydio sy’n cael eu cynnig. Bydd plant sy’n cael eu gwarchod yn parhau i gael cymorth gan eu hysgolion mewn ffyrdd gwahanol.

Rwy’n athro ac yn byw gyda pherson a warchodir. Oes disgwyl i mi ddychwelyd i’r ysgol?

Os ydych yn byw gyda pherson a warchodir, ond nad ydych chi’n berson a warchodir eich hun, gallwch ddychwelyd i’r ysgol cyn belled â’ch bod yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a’ch bod chi a’ch aelwyd hefyd yn gallu dilyn y cyngor ar gyfer y rheini sy’n byw  gyda pherson a warchodir. Yn ymarferol, gall hyn fod yn anodd i rai teuluoedd, gan gynnwys y rheini sydd â phlant bach. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch presenoldeb yn y canllawiau gweithredol i leoliadau addysg.

Rwy’n ddysgwr ac yn byw gyda pherson a warchodir. Oes disgwyl i mi ddychwelyd i’r ysgol?

Os ydych yn byw gyda pherson a warchodir, ond nad ydych chi’n berson a warchodir eich hun, gallwch ddychwelyd i’r ysgol cyn belled â’ch bod yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a’ch bod chi a’ch aelwyd hefyd yn gallu dilyn y cyngor ar gyfer y rheini sy’n byw  gyda pherson a warchodir. Yn ymarferol, gall hyn fod yn anodd i rai teuluoedd, gan gynnwys y rheini sydd â phlant bach. Mewn achosion o’r fath, nid ydym yn disgwyl i’r plant hynny fynd i’r ysgol, ac fe ddylid eu cynorthwyo i ddysgu gartref. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch presenoldeb yn y canllawiau gweithredol i leoliadau addysg.

Rwy’n athro sy’n gwarchod fy hun. Oes disgwyl i mi ddychwelyd i’r gwaith ddiwedd mis Mehefin?

Nid oes disgwyl i chi ddychwelyd i’r gwaith os ydych chi’n gwarchod eich hun. Byddwch yn derbyn llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol erbyn 15 Mehefin, a bydd modd i chi rannu’r llythyr hwnnw gyda’ch cyflogwr fel prawf nad oes modd i chi fynd i’r gwaith yn ystod y cyfnod y byddwch yn gwarchod eich hun.

A fydd disgwyl i staff neu ddysgwyr agored i niwed ddychwelyd i’r ysgol?

Yng nghyd-destun COVID-19, mae unigolion agored i niwed yn glinigol mewn perygl uwch na’r cyfartaledd o COVID-19. Mae’r categori hwn yn cynnwys pobl dros 70 oed, pobl feichiog a’r rhai sydd ag amrywiol gyflyrau iechyd cronig. Cynghorir menywod beichiog yn benodol i weithio o’u cartrefi ar ôl 28 wythnos o feichiogrwydd.

Gall pobl sydd yn y categori hwn fynd allan i weithio, ond dylent weithio o’u cartrefi os yw hynny’n bosibl. Os bydd staff neu ddysgwyr yn bresennol, rhaid cymryd gofal ychwanegol er mwyn sicrhau bod unigolion agored i niwed, a’r rhai o’u cwmpas, yn cadw’n gaeth at y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol. O ran dysgwyr, rydym ond yn disgwyl iddynt fod yn bresennol pan fo rhieni/gofalwyr yn cytuno i hynny.

Ceir canllawiau pellach ynghylch presenoldeb yn y ddogfen Canllawiau Gweithredol i Ysgolion a Lleoliadau Addysg.

Diogelwch staff a dysgwyr sydd flaenaf. Dylai athrawon ofyn am gyngor iechyd a chysylltu â’r pennaeth os oes angen rhagor o gymorth.

A fydd rhieni yn cael dirwy am beidio ag anfon eu plentyn i’r ysgol?

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd rhieni yn cael dirwy am gadw eu plentyn/plant gartref. Bydd y plant hyn yn parhau i gael cymorth gan eu hysgolion mewn ffyrdd gwahanol, ond dylai teuluoedd barhau i gadw mewn cysylltiad â’r ysgol er mwyn iddynt ddeall pam nad ydynt yn bresennol.

A fydd yr holl staff a dysgwyr yn cael eu profi am COVID-19?

Gweler ein canllawiau ar brofion mewn lleoliadau addysg.

Gall pob aelod o’r cyhoedd sy’n arddangos symptomau, gan gynnwys gweithwyr hanfodol a phlant, archebu prawf coronafeirws.

A fydd yr holl staff addysg yn gymwys i gael prawf gwrthgyrff?

Mae'r staff addysg sy’n gweithio yn ein hybiau yn cael blaenoriaeth yn y rhaglen profion gwrthgyrff newydd. I ddechrau byddwn yn profi sampl o staff sydd wedi bod yn gweithio yn yr hybiau, yn cynorthwyo plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed yn ystod y pandemig. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall faint o bobl sydd wedi cael COVID-19 ac yn gwella ein dealltwriaeth o’r haint, gan fod yr wyddoniaeth o ran imiwnedd yn anhysbys. Bydd y sampl o staff â blaenoriaeth ar gyfer y prawf hwn yn/wedi cael eu hysbysu gan eu bwrdd iechyd lleol.

Nes bydd y gwyddonwyr yn dysgu mwy am yr haint, yr unig beth y gall prawf gwrthgyrff positif ei ddweud yw eich bod fwy na thebyg wedi cael y feirws. Ni fydd yn golygu bod gennych imiwnedd, neu nad oes modd i chi basio’r feirws ymlaen i eraill. Ni fydd yn golygu chwaith eich bod wedi’ch eithrio neu’n gallu anwybyddu cyngor diweddaraf y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol neu’r ymyriadau eraill i reoli lledaeniad y feirws.

Gweler ein canllawiau ar brofion mewn lleoliadau addysg.

Profi, Olrhain, Diogelu

Fe gafodd y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, a gyhoeddwyd ar 13 Mai, ei roi ar waith ledled Cymru o 1 Mehefin ymlaen, ac fe fydd yn elfen hanfodol ar gyfer ehangu gweithrediad ysgolion.

Mae’r strategaeth hon yn gosod y cam nesaf yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r coronafeirws; profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rhai sydd wedi dod i gysylltiad agos gyda phobl sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws, ac amddiffyn teulu, ffrindiau a’n cymunedau drwy hunanynysu.

Gweler ein canllawiau ar brofion mewn lleoliadau addysg.

Ceir rhagor o wybodaeth am Profi, Olrhain, Diogelu ar geal.

Mae pecyn cymorth ac asedau i helpu cyflogwyr gweithwyr hanfodol i gyfathrebu am y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu ar gael.

 

 

A fydd athrawon sy’n methu mynd i’r gwaith dros dymor yr haf yn dal i gael eu talu?

Os nad oes modd i athrawon neu aelodau eraill o staff fynd i’r gwaith, rhaid iddynt siarad gyda’u cyflogwyr a chytuno ar drefniadau rhesymol i weithio o’r cartref. Bydd athrawon sy’n methu mynd i’r gwaith yn parhau i gael eu talu fel arfer.

Beth yw ystyr ‘dal i fyny’?

Mae ‘dal i fyny’ yn golygu rhoi cyfle i bob disgybl weld eu hathrawon wyneb yn wyneb, er mwyn asesu eu lles a gweld pa gymorth sydd ei angen arnynt. Gall athrawon ddarparu cymorth i ddisgyblion gyda’u sgiliau craidd, gan ddefnyddio cymysgedd o ddysgu ar-lein a phersonol, mewn dosbarthiadau llai gyda chymorth penodol.

Nid oes disgwyl i athrawon gynnal rhaglen lawn dan yr amgylchiadau presennol ac o fewn yr amserlen hon.

A oes disgwyl i staff ysgolion addysgu wyneb yn wyneb ac o bell o 29 Mehefin ymlaen?

Wrth i ni symud ymlaen i’r cam nesaf, bydd dysgwyr yn cael eu helpu i ddysgu yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol. Mae canllawiau ynghylch dysgu dros dymor yr haf wedi cael eu cyhoeddi i helpu ysgolion.

Oes modd i deuluoedd neu neiniau a theidiau ddarparu gofal plant?

O ddydd Llun 6 Gorffennaf ymlaen, gall dwy aelwyd uno i ffurfio aelwyd estynedig. Pan fo teuluoedd yn ffurfio aelwyd estynedig, gallant fynd i mewn i gartrefi ei gilydd, aros dros nos yno, ac nid oes rhaid iddynt gadw pellter cymdeithasol. Bydd hyn o gymorth i ddarparu gofal plant anffurfiol.

Dan y mesurau cadw pellter cymdeithasol presennol, rhaid i aelodau teuluoedd y tu hwnt i’r aelwyd estynedig gadw pellter o 2 fetr. Caiff y sefyllfa ei hadolygu bob 3 wythnos, ac fe fyddwn yn tynnu sylw at unrhyw newidiadau i’r canllawiau cyn gynted ag y bo’n briodol.

A fydd cludiant ar gael i’r ysgol?

Dylid ystyried y canllawiau diweddaraf ar gludiant. Lle bynnag y bo’n bosibl, dylai rhieni a gofalwyr deithio gyda’u plant i’r ysgol ac yn ôl, yn ddelfrydol ar droed, neu ar feic, sgwter neu deithio egnïol o fath arall. Dylid cadw pellter cymdeithasol ar y daith i’r ysgol ac yn ôl. Ni ddylai pobl o wahanol aelwydydd deithio gyda’i gilydd oni bai bod modd cadw pellter cymdeithasol.

Gydag unrhyw gludiant i’r ysgol, dylid rhoi blaenoriaeth i’r rhai fyddai’n methu bod yn bresennol hebddo. Dylai dysgwyr osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os oes modd.

Mae ein Canllawiau Gweithredol yn cynnwys gwybodaeth ynghylch rheoli cyfleusterau a threfniadau ymarferol, gan gynnwys cludiant i’r ysgol ac adref.

Ceir rhagor o wybodaeth am wasanaethau cludiant ysgolion.

Gwisg ysgol

Mater ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion unigol yw penderfyniadau ynghylch gwisg ysgol, ac fe ddylech gysylltu â’r ysgol os oes gennych unrhyw bryderon. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i ysgolion weithredu mewn ffordd bragmatig ynghylch gwisgo gwisg ysgol ar hyn o bryd. Rydym yn awgrymu, fel canllaw, mae’r brif ystyriaeth yw gwisgo rhywbeth sy’n gysurus ac yn hawdd ei olchi.

A fydd ysgolion ar agor dros wyliau’r haf i blant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed?

Nid oes disgwyl i ysgolion barhau i gynnig darpariaeth yr hybiau yn ystod gwyliau’r haf. Efallai y bydd awdurdodau lleol am gynnig darpariaeth mewn ffordd wahanol, ond nid oes disgwyl i hyn gael ei reoli gan staff ysgolion.

Sut y dylai ysgolion a lleoliadau gofnodi presenoldeb yng Nghymru o 29 Mehefin?

O 29 Mehefin, dylai ysgolion a lleoliadau addysg gadw cofnod o bresenoldeb a dylai teuluoedd hysbysu eu lleoliad os nad yw eu plant yn gallu bod yn bresennol. Bydd hyn yn helpu ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol i gynllunio a deall unrhyw rwystrau sy’n atal plant rhag dychwelyd i’r ysgol, a nodi unrhyw gymorth pellach sydd ei angen.

Nid ydym yn disgwyl i deuluoedd anfon eu plant i’r ysgol yn erbyn eu hewyllus, ac ni fydd rhieni’n cael dirwy os nad ydynt yn anfon eu plentyn i’r ysgol.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion a lleoliadau ar sut i gofnodi presenoldeb a’r codau a fydd yn berthnasol yn ystod y cyfnod hwn.

Pryd fydd rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch yr hyn fydd yn digwydd o fis Medi ymlaen?

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a’r canllawiau gwyddonol diweddaraf, a sicrhau iechyd a diogelwch ein holl staff a dysgwyr mewn ysgolion yw’r ystyriaeth flaenaf. Mae gwaith cynllunio ar gyfer mis Medi eisoes yn mynd rhagddo, ac elfen allweddol o’r penderfyniad i gynyddu capasiti mewn ysgolion o 29 Mehefin ymlaen yw galluogi ysgolion a dysgwyr i brofi’r drefn newydd, gan ddefnyddio’r profiad hwnnw wrth gynllunio’r camau nesaf erbyn tymor yr hydref. Bydd ysgolion a rhieni/gofalwyr yn cael gwybod am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Beth fydd yn digwydd os bydd achos o’r coronafeirws yn cael ei gadarnhau yn ysgol neu leoliad fy mhlentyn?

Nid yw prawf cadarnhaol ar y safle yn golygu bod rhaid cau’r safle. Mae’r broses o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ ac os bydd ysgolion a lleoliadau yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, ni fydd achos i boeni.

Os bydd sawl achos o COVID-19 mewn ysgol, bydd arbenigwyr o bob cwr o’r GIG a llywodraeth leol yn cydweithio i atal trosglwyddo achosion o fewn yr ysgol. Bydd hyn yn golygu adnabod unrhyw blentyn neu aelod staff risg uwch sydd wedi dod i gysylltiad â’r feirws, a darparu cyngor penodol ynghylch rheoli’r haint. Ar ôl asesu pob sefyllfa unigol, bydd cyngor yn cael ei ddarparu i helpu’r ysgol i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach. Bydd y broses yn sensitif ac yn gyfrinachol. Ceir rhagor o wybodaeth a chwestiynau ac atebion am Profi, Olrhain, Diogelu ar wefan Llywodraeth Cymru.

A fydd prydau ysgol ar gael i blant a phobl ifanc sy’n bresennol yn yr ysgol?

Yr ysgolion fydd yn penderfynu ar eu trefniadau ar gyfer prydau ysgol, gan ddibynnu ar yr amserlen sy’n cael ei datblygu ar gyfer eu dysgwyr. Byddant yn hysbysu’r rhieni/gofalwyr am y trefniadau hynny. Gan ddibynnu ar yr amserlen, efallai y bydd ysgolion a lleoliadau yn penderfynu nad oes angen darparu cinio, neu y dylai dysgwyr ddod â bwyd eu hunain i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws. Ceir rhagor o gyngor i ysgolion yn y Canllawiau Gweithredol.

Os bydd staff ysgolion neu ddysgwyr yn teithio y tu allan i’r DU ddiwedd mis Awst, a fydd rhaid iddynt dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd?

Os byddwch yn cyrraedd i’r DU ar neu ar ôl 8 Mehefin 2020, ni fydd hawl gennych i adael y man lle’r ydych yn aros am eich 14 diwrnod cyntaf yn y DU (hynny yw ‘hunanynysu’). Y rheswm am hyn yw y gall gymryd hyd at 14 diwrnod i symptomau’r coronafeirws ddod i’r amlwg.

Gall y sefyllfa newid, ac rydym yn argymell y dylai staff fwrw golwg ar y canllawiau diweddaraf cyn trefnu unrhyw deithiau o fewn y DU a thu hwnt.

A fydd disgwyl i ysgolion uwchradd gynnal gweithgareddau pontio ar gyfer y garfan newydd o ddisgyblion blwyddyn 7 (blwyddyn 6 ar hyn o bryd)?

Nid oes disgwyl i ysgolion uwchradd gynnal gweithgareddau pontio wyneb yn wyneb gyda disgyblion blwyddyn 6 yn ystod tymor yr haf – dylid defnyddio’r amser hwn i gadw mewn cysylltiad â’r disgyblion presennol. Fodd bynnag, rydym yn annog ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo i ddefnyddio ffyrdd amgen o gysylltu â’u disgyblion newydd a dechrau cynllunio sut i groesawu dysgwyr yn nhymor yr hydref.

A fydd yn rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i’r ysgol?

A oes canllawiau ar gael i gyrff llywodraethu ynghylch helpu ysgolion i gynyddu eu gweithrediadau?

Er mwyn cynyddu capasiti i alluogi dysgwyr i gadw pellter cymdeithasol yn effeithiol, oes modd i ni ddefnyddio adeiladau dros dro?

Wrth ystyried defnyddio adeiladau dros dro a/neu adeiladau ychwanegol, bydd angen ystyried pa mor fforddiadwy yw hyn wrth werthuso opsiynau. Nid oes cyllidebau canolog wedi’u pennu ar gyfer hyn.

Beth fydd yn digwydd i’r ddarpariaeth yn yr hybiau ar gyfer plant gweithwyr hanfodol?

O 29 Mehefin ymlaen dylai plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed fod yn dychwelyd i’w hysgolion eu hunain, gydag awdurdodau lleol yn symud oddi wrth fodel yr hybiau sydd ganddynt ar hyn o bryd. Disgwylir yn gyffredinol i ysgolion y dysgwyr eu hunain sicrhau bod darpariaeth ychwanegol yr hybiau ar gael i’r plant sydd ei angen, wrth ochr y sesiynau dysgu y mae ganddynt hawl i’w dderbyn yn ystod gweddill tymor yr haf. Bydd penderfyniadau ynghylch rheoli hynny’n ymarferol yn cael eu gwneud yn lleol, ar sail capasiti ysgolion unigol a’r modelau sydd gan awdurdodau lleol ac ysgolion yn eu lle. Bydd ysgolion yn cysylltu â rhieni/gofalwyr i’w hysbysu am y trefniadau.

Dylai ysgolion gydweithio’n agos gyda rhieni/gofalwyr ac awdurdodau lleol i ddeall beth sydd ei angen. Efallai y bydd angen i blant staff dysgu gael lle yn eu hysgolion neu leoliadau eu hunain er mwyn medru caniatáu i staff fod yn bresennol. Bydd awdurdodau lleol yn cydweithio gydag ysgolion a lleoliadau sy’n gweithredu fel hybiau i drefnu’r cyfnod pontio.

Byddwn yn egluro’r disgwyliadau tu hwnt i dymor yr haf yn y man.

A fydd plant gweithwyr hanfodol sy’n defnyddio darpariaeth yr hybiau yn medru manteisio ar sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’?

Mae’r canllawiau gweithredol yn dweud yn glir bod gan y rhai sy’n defnyddio darpariaeth yr hybiau yr hawl i fanteisio ar y sesiynau dysgu sy’n cael eu cynnig i ddysgwyr eraill wrth ochr unrhyw ddarpariaeth y maent yn ei dderbyn yn yr hybiau. Mae’r canllawiau yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion wneud penderfyniadau i ddiogelu dysgwyr, staff a theuluoedd, ond byddem yn disgwyl i’r holl ddysgwyr gael cyfle i ddysgu yn ystod y cyfnod hwn.

Beth ddylai ysgolion ei wneud os bydd y galw am ddarpariaeth yr hybiau yn effeithio ar allu’r ysgol i ddarparu sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’?

Wrth baratoi i gynyddu eu gweithrediadau bydd angen i ysgolion unigol ystyried amrywiol ffactorau gan gynnwys y staff sydd ar gael, y gofod sydd ar gael, y galw gan deuluoedd am sesiynau ailgydio, dal i fyny a pharatoi, a nifer y dysgwyr sydd ar hyn o bryd yn defnyddio darpariaeth yr hybiau. Mewn rhai achosion bydd ysgolion yn cyrraedd eu capasiti gyda dysgwyr gweithwyr hanfodol yn unig, ond mae’n debygol mai eithriadau fydd rheiny gan ystyried lefelau presennol y defnydd ohonynt.

Disgwylir i ysgolion fod yn rhagweithiol wrth fynd at y teuluoedd nad ydynt yn manteisio ar ddarpariaeth yr hybiau ar hyn o bryd i gadarnhau a ydynt am i’w plant fynd i sesiwn ailgydio, dal i fyny a pharatoi. Pan fydd ysgolion wedi cadarnhau’r galw am y sesiynau hyn, bydd yr wybodaeth honno, ynghyd â gwybodaeth presenoldeb yr hybiau ar hyn o bryd, yn eu galluogi i baratoi ar gyfer y cyfnod o 29 Mehefin tan ddiwedd y tymor. Os bydd nifer dysgwyr yr hybiau mewn ysgolion unigol yn effeithio ar  eu gallu i ddarparu sesiynau ailgydio, dal i fyny a pharatoi i’r holl ddysgwyr eraill, dylai’r pennaeth drafod gyda’r awdurdod lleol i weld a oes modd cynnig darpariaeth ar wahân i’r hybiau, ee mewn canolfannau hamdden.

A fydd plant sy’n defnyddio darpariaeth yr hybiau yn medru rhyngweithio gyda’u cyd-ddisgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol?

Mae cyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol yn elfen bwysig ar gyfer lleihau’r tebygrwydd o nifer fawr o achosion o’r feirws. Mae’n bwysig i ni barhau i gyfyngu ar unrhyw gymysgu rhwng pobl a grwpiau o bobl. Bydd cadw pobl mewn grwpiau bach, cyson o oedolion a phlant, sy’n aros yr un fath drwy’r wythnos, ac ar wahân i grwpiau eraill, yn helpu i wneud hynny ac osgoi trosglwyddo’r feirws ar hyd cadwyni. Wrth ddychwelyd i’r ysgol, dylai plant fynd i un lleoliad yn unig os yw hynny’n bosibl, ac aros o fewn yr un grŵp bach, cyson yn y lleoliad hwnnw. Bydd hyn yn helpu i leihau’r tebygrwydd o weld y feirws yn symud rhwng grwpiau o fewn yr un lleoliad hwnnw, neu rhwng grwpiau mewn gwahanol leoliadau.

Yn ein Canllawiau Gweithredol rydym wedi darparu canllawiau i’r ysgolion ynghylch sut y dylai staff a dysgwyr ryngweithio â’i gilydd i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ynghylch y mesurau y gall ysgolion eu cymryd i leihau’r risg o drosglwyddo rhwng grwpiau a chyfyngu ar effaith unrhyw hunanynysu gofynnol os bydd aelod o’r staff neu ddysgwr yn cael prawf positif dan Profi, Olrhain, Diogelu

Os bydd plentyn yn mynd i fwy nag un lleoliad, er enghraifft ysgol a gofal cofleidiol neu allan o’r ysgol, dylai’r plentyn aros yn yr un grŵp bach ar draws y ddau leoliad os yw hynny’n bosibl. Nid yw cymysgu plant o grwpiau gwahanol, neu ysgolion wahanol, yn gyson â’r angen i gyfyngu ar gysylltiadau gymaint â phosib. Bydd angen i rieni a lleoliadau drafod y risgiau ac ystyried sut i’w rheoli er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Bydd hyn yn golygu rhieni, ysgolion a lleoliadau yn cydweithio yn unol â’r canllawiau a ddarperir.

Mae’n ddealladwy bod staff, dysgwyr a rhieni/gofalwyr yn teimlo’n bryderus am beryglon rhyngweithio, ond mae’n bwysig cofio y bydd ysgolion yn ddiogel os byddant yn cadw at y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, hylendid a hunanynysu’r rhai sy’n arddangos symptomau, neu sy’n byw gyda rhywun sy’n arddangos symptomau.

A fydd awdurdodau lleol yn darparu gwasanaeth Meithrin Cyfnod Sylfaen yn ystod tymor yr haf?

Yr awdurdodau lleol eu hunain fydd yn penderfynu a fydd addysg feithrin a dosbarthiadau derbyn yn ailgychwyn cyn diwedd tymor yr haf, fel sydd hefyd yn wir am y grwpiau blynyddoedd eraill; byddem yn disgwyl i bob plentyn sy’n rhan o’r byd addysg gael cyfle i ailgydio.

A fydd dysgwyr sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn dychwelyd i’w darpariaeth ar 29 Mehefin?

Dylai’r cynlluniau ar gyfer cynyddu gweithrediadau ysgolion o 29 Mehefin ymlaen gael eu cymhwyso hefyd ar gyfer dysgwyr sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol gan gynnwys, ymysg pethau eraill, Unedau Cyfeirio Disgyblion, lleoliadau cymunedol a dysgu gartref. Mae’r Canllawiau Gweithredol i ysgolion yn darparu fframwaith eang ar gyfer cynyddu gweithrediadau y gellir ei gymhwyso i leoliadau eraill.

Sut bydd ysgolion yn cael eu staffio?

Yr awdurdodau lleol a’r ysgolion sydd yn y lle gorau i bennu eu anghenion staffio, a sut i lenwi unrhyw anghenion cyflenwi ychwanegol. Wrth i ysgolion baratoi i agor ar gyfer mwy o ddisgyblion, byddant yn gwybod faint o’u haelodau staff parhaol sydd ar gael i weithio. Gall nifer y staff gofynnol ym mhob ysgol amrywio, yn seiliedig ar nifer y plant sy’n bresennol. Os nad oes gan ysgolion ddigon o staff ar gael ar gyfer y nifer o blant sydd yn yr ysgol, bydd angen iddynt ystyried sut i ddiwallu’r cyfraddau staffio. Gellid diwallu’r anghenion drwy awdurdodau lleol, asiantaethau cyflenwi, neu efallai bod staff ar gael mewn ysgolion eraill allai gynnig cyflenwi dros dro. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol gyfeirio at y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a hylendid a diogelwch wrth ystyried recriwtio neu unrhyw drefn arall ar gyfer staffio dros dro.  

A ddylai asesiadau risg gael eu cynnal ar gyfer pob lleoliad lle mae darpariaeth dysgu amgen yn cael ei ddarparu?

Pan fo disgyblion yn cael addysg heblaw yn yr ysgol, ac yn defnyddio darpariaeth dysgu amgen, er enghraifft dysgu seiliedig ar waith, unedau cyfeirio disgyblion neu adeiladau cymunedol, dylid gwneud asesiadau risg ar sail unigol i gadarnhau beth fyddai’n ymarferol dan yr amgylchiadau, Er enghraifft, os bydd dysgwr yn cael ei addysgu gartref, galla hyn arwain at wersi un i un ar-lein yn hytrach na gwersi wyneb yn wyneb, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

A fydd disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael cinio ysgol o 29 Mehefin ymlaen?

Rydym yn deall mor bwysig yw prydau ysgol am ddim i’r plant a’r bobl ifanc sy’n eu derbyn, ac rydym wedi cydweithio’n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod disgyblion cymwys yn parhau i gael prydau ysgol am ddim drwy gydol y pandemig. Bydd disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i’w cael drwy weddill tymor yr haf a gwyliau’r haf.

O 29 Mehefin ymlaen, bydd ysgolion yn gwneud penderfyniadau ynghylch eu trefniadau cinio, gan ddibynnu ar yr amserlen sy’n cael ei datblygu ganddynt i ddiwallu anghenion eu lleoliadau unigol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd ysgolion a lleoliadau o’r farn nad oes angen darparu cinio, neu y dylai dysgwyr ddod â chinio eu hunain er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws. Mewn achosion o’r fath, bydd trefniadau amgen i ddisgyblion a fyddai’n gymwys i gael pryd ysgol am ddim. Bydd modd i’ch ysgol a’ch awdurdod lleol roi manylion i chi ynghylch yr hyn sy’n digwydd yn lleol i helpu teuluoedd sy’n cael prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod pontio wrth gynyddu gweithrediadau a thrwy gydol gwyliau’r haf.

Beth yw dyddiadau tymor yr haf a hanner tymor yr hydref?

Ar gyfer ysgolion sy’n agor am dair wythnos, diwrnod ola’r tymor i ddysgwyr fydd 17 Gorffennaf, ac fe fydd gwyliau hanner tymor yr hydref yn wythnos, fel y trefnwyd. Ar gyfer ysgolion sy’n agor am bedwaredd wythnos ychwanegol, diwrnod ola’r tymor fydd 24 Gorffennaf, gyda phythefnos o wyliau hanner tymor yr hydref.

A fydd ysgolion yn parhau i gynnal diwrnodau HMS?

Nid oes disgwyl i ysgolion gynnal diwrnodau HMS yn ystod y cyfnod o gynyddu gweithrediadau o 29 Mehefin ymlaen.

Mae 6 diwrnod HMS ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21, sef 5 diwrnod traddodiadol a 6ed diwrnod HMS Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol y dylid ei gynnal yn ystod tymor yr haf 2021.

ut fyddwch chi’n sicrhau iechyd a diogelwch y staff sy’n gweithio mewn ysgolion?

Iechyd a lles ein dysgwyr a’n gweithlu addysg sydd flaenaf wrth baratoi i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion. At y diben hwn, gan weithio gyda CLlLC a’r Undebau sy’n cynrychioli staff cymorth ysgolion, rydym wedi rhoi rhagor o sicrwydd ynghylch asesiadau risg; y galw uwch am staff glanhau; profion gwrthgyrff a’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu mewn datganiad ar y cyd.

A fydd y rhestr o weithwyr hanfodol yn un derfynol, yn agored i’w dehongli, ac yn cael ei hadolygu?

Cyhoeddwyd canllawiau ynghylch cymhwysedd ar gyfer darpariaeth i y mae eu rhieni yn hanfodol i’r ymateb i Covid-19, ar 20 Mawrth 2020.

Rydym wedi llunio categorïau cyffredinol o bobl y mae eu gwaith yn hanfodol i’r ymateb i Covid-19, sy’n gyson â rhai Llywodraeth y DU. Bydd y rhestr hon, fel pob agwedd arall o’r ymateb i Covid-19, yn cael ei hadolygu’n gyson.

Mae canllawiau pellach ar ddarpariaeth i blant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed ar gael.

A fydd dal angen i ysgolion ddarparu adroddiadau ysgrifenedig i rieni a gofalwyr am weddill y flwyddyn academaidd hon?

Mae’n bwysig i benaethiaid barhau i ddarparu adroddiadau perthnasol a defnyddiol ar gynnydd i rieni (a disgyblion sy’n oedolion) ar gyfer pob disgybl eleni, pan fo modd iddyn nhw a’r athrawon sy’n cyfrannu at adroddiadau wneud hynny. Bydd y Rheoliadau yn cael eu haddasu i fod yn seiliedig ar ‘ymdrech resymol’ er mwyn rhoi hyblygrwydd o ran fformat, cynnwys ac amseriad yr adroddiadau.

Bydd darparu adroddiad i’r rhai sy’n gadael yr ysgol yn parhau i fod yn ofyniad statudol er mwyn sicrhau nad yw’r dysgwyr hynny dan anfantais mewn unrhyw ffordd. Er bod rhaid darparu adroddiad i’r dysgwyr hynny, nid oes rhaid iddynt fod yn adroddiadau llawn o reidrwydd, a bydd y fformat, y cynnwys a’r amseriad yn ddarostyngedig i ystyriaethau ‘ymdrech resymol’. Ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 10 i 13, gan gofio y bydd graddau TGAU, UG a Safon Uwch yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio graddau wedi’u hasesu gan ganolfannau a phroses safoni, rydym yn cynghori’n gryf na ddylid cynnwys graddau tybiedig a na chanlyniadau ffug arholiadau. Mae hyn er mwyn osgoi creu dryswch neu godi disgwyliadau am y radd y bydd y dysgwr yn ei derbyn yn y pen draw.

Beth os nad oes gan plant a phobl ifanc fynediad at liniadur neu lechen yn eu cartref?

Mae platfform dysgu digidol Hwb yn darparu mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau a chynnwys digidol y gellir eu defnyddio i gynorthwyo gyda dysgu o bell. Mae modd cyrraedd at Hwb o amrywiol ddyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r we, gan gynnwys ffonau clyfar.

Rydym wedi sicrhau bod £3 miliwn ychwanegol ar gael i helpu dysgwyr sydd wedi eu ‘hallgau yn ddigidol’ yn ystod y pandemig coronafeirws. Fel rhan o raglen ‘Cadw’n Ddiogel, Dal Ati i Ddysgu’, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu dysgwyr sydd wedi’u hallgau yn ddigidol yn ystod y pandemig presennol.

Dysgwr sydd wedi’i ‘allgau yn ddigidol’ yw myfyriwr heb fynediad at ddyfais priodol cysylltiedig â’r we er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ar-lein o’r cartref.

Mae awdurdodau lleol, gan weithio’n agos gyda’u hysgolion, wedi defnyddio’r cyllid i addasu dyfeisiau ysgol at ddibenion gwahanol a darparu’r dyfeisiau hynny a chysylltiad 4G MiFi i ddysgwyr sydd wedi’u hallgau yn ddigidol lle bo angen. Yna bydd rhaglen seilwaith ehangach Hwb yn ariannu dyfeisiau eraill yn eu lle i’r ysgolion.

Mae ysgolion yn adnabod dysgwyr sydd wedi’u hallgau’n ddigidol drwy gysylltu â rhieni a gwarcheidwaid. Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol wedi gweld pa ddyfeisiau y gellid eu haddasu gyda’r meddalwedd diweddaraf.

A fydd cyfarpar diogelu personol ar gael i staff addysg?

Cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a hylendid anadlol (peswch neu disian mewn hances neu orchuddio’r ceg a’r trwyn gyda’r penelin neu lawes) yw’r ffyrdd gorau o hyd i atal y coronafeirws rhag lledaenu.

Felly nid oes angen defnyddio cyfarpar diogelu personol wrth gyflawni gweithgareddau cyffredinol yn yr ystafell ddosbarth neu’r ysgol.

Mae’r Canllawiau Gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg yn rhoi rhagor o wybodaeth am ddefnyddio cyfarpar diogelu personol.

Beth ddylai ysgolion fod yn ei wneud i warchod iechyd a lles dysgwyr a staff?

Wrth i weithrediadau ysgolion gynyddu, lles y dysgwyr a’r staff ddylai fod flaenaf. Gwirionedd cadw pellter cymdeithasol yw y bydd dysgwyr yn parhau i dreulio cryn dipyn o amser yn dysgu o bell.

Pan fyddwn yn cyfeirio at iechyd a lles, nid ydym yn cyfeirio at beryglon corfforol COVID-19 yn unig. Ar gyfer dysgwyr, bydd goblygiadau corfforol, meddylion ac emosiynol ehangach cadw pellter cymdeithasol, y cyfyngiadau ar symud, a phrofedigaeth o bosib yn llawer mwy perthnasol.  

Mae canllawiau ar gefnogi iechyd a lles ar gael yn ein gwybodaeth i ysgolion a lleoliadau addysg ynghylch cynyddu gweithrediadau yn ystod tymor yr haf.

Beth ddylai penaethiaid ei wneud os ydynt yn pryderu am y cyflenwad o nwyddau hylendid yn eu hysgolion?

Rydym yn rhyddhau £30 miliwn i awdurdodau lleol er mwyn ysgwyddo’r pwysau sy’n codi yn sgil COVID-19; gellir defnyddio’r arian hwn i helpu i brynu nwyddau hylendid lle bo angen.

Rydym yn deall bod rhai awdurdodau lleol yn dal i gynnal gwasanaeth caffael, ac mae’n bosib bod rhaid i ysgolion ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, dylai penaethiaid fedru defnyddio cyflenwyr penodol mewn argyfwng lle bo angen.

Dylai penaethiaid drafod gyda’r swyddog yn yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch neu reoli haint mewn ysgolion os oes ganddynt unrhyw bryderon ynghylch y cyflenwad o nwyddau glanhau a diheintio.

Yn fwy cyffredinol, mae’n bwysig nodi’r cyngor iechyd cyhoeddus bod golchi dwylo yn drylwyr gyda dŵr a sebon yn fwy effeithiol na defnyddio hylif diheintio dwylo. Dylid defnyddio hylif diheintio dwylo yn ogystal â golchi dwylo, nid yn lle golchi dwylo.

Sut all rhieni a gofalwyr helpu eu plant gyda’r Gymraeg yn y cartref?

Mae ein fframwaith dysgu ar gyfer y cyfnod hwn, sef Cadw’n Ddiogel, Dal Ati i Ddysgu, yn cynnwys cymorth penodol i ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg nad yw eu teuluoedd yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys cyngor i rieni a gofalwyr ynghylch sut i helpu’r plant i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref. Byddwn yn rhannu syniadau am weithgareddau anffurfiol ar Hwb ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, felly edrychwch ar y dudalen yn gyson.

A oes unrhyw gymorth ar gael i’r gweithlu addysg?

Mae cymorth ar gael i’r gweithlu addysg drwy’r Bartneriaeth Cymorth Addysg, elusen sy’n cefnogi iechyd a lles staff addysg. 

Mae’r Bartneriaeth Cymorth Addysg wedi bod yn datblygu adnoddau digidol i roi cymorth pellach i staff addysg yn ystod y cyfnod heriol iawn sydd ohoni. Maent yn seiliedig ar themâu allweddol sef pryder, galar ac ynysigrwydd.

Mae’r Bartneriaeth hefyd yn cynnig cymorth emosiynol cwbl gyfrinachol i staff 24/7. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 08000 562561 neu ewch i educationsupport.org.uk/helpline

Gall y bartneriaeth hefyd ddarparu cymorth ariannol drwy wasanaeth grantiau.

Rhannu’r dudalen hon