Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i ddysgu ac addysgu mewn ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trefniadau dychwelyd i'r ysgol a'r coleg o fis Ionawr

Beth yw'r trefniadau ar gyfer dysgwyr sy'n dychwelyd i'r ysgol ym mis Ionawr?

Yn dilyn adolygiad ffurfiol o'r cyfyngiadau presennol, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 8 Ionawr y byddwn yn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau ar ysgolion a cholegau yn cyd-fynd ag amserlen adolygu tair wythnos Llywodraeth Cymru, sef 29 Ionawr. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr yn parhau i ddysgu o bell a bydd plant agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol yn gallu manteisio ar ddarpariaeth ar safle’r ysgolion ynghyd â dysgwyr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau hanfodol, tan hynny.

Bryd hynny, oni bai bod cyfraddau trosglwyddo cymunedol yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol erbyn 29 Ionawr, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr mewn ysgolion a cholegau yn parhau i weithio o bell tan hanner tymor mis Chwefror.

Pam ydych chi wedi gwneud y penderfyniad hwn?

Gwyddom fod ysgolion a cholegau wedi bod yn amgylcheddau diogel drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yng Nghymru a ledled y DU yn parhau'n ddifrifol iawn. Ar 4 Ionawr, cytunodd pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU fod y DU bellach ar y lefel uchaf o risg, sef  lefel 5 y Cyd-gyngor Bioddiogelwch. Yn dilyn adolygiad ffurfiol o'r cyfyngiadau presennol, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 8 Ionawr y bydd myfyrwyr ysgolion a cholegau yn parhau i ddysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror, oni bai bod gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o’r coronafeirws cyn 29 Ionawr, sef dyddiad yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau.

Mae'n amlwg felly mai dull cenedlaethol o ddysgu ar-lein yw'r ffordd orau ymlaen. Rydym yn hyderus bod gan ysgolion a cholegau ddarpariaeth ddysgu ar-lein ar waith ar gyfer y cyfnod hwn. Mae Cymru yn parhau i fod yn y lefel uchaf o gyfyngiadau. Rhaid i bawb aros gartref.

A fydd ysgolion ar agor i unrhyw ddysgwyr?

Bydd ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy’n agored i niwed, yn ogystal â dysgwyr sydd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol.

A fydd ysgolion arbennig ar agor?

Dylai ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion barhau i fod ar agor os yw hynny’n bosibl er mwyn cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed.

Rwy’n fyfyriwr prifysgol, beth ddylwn ei wneud?

Mae prifysgolion yng Nghymru eisoes wedi cytuno ar ddechrau graddol i’r tymor. Ni ddylai myfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb hyd nes y cânt eu hysbysu y dylent wneud hynny.

Beth yw’r trefniadau ar gyfer prydau ysgol am ddim?

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod modd parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant cymwys. Dylech gysylltu â’ch ysgol neu’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.

A fydd meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant yn parhau i fod ar agor?

Gall pob lleoliad gofal plant aros ar agor, ond dylent barhau i ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru ar weithredu’n ddiogel.

Pa ysgolion fydd yn cynnig darpariaeth hwb ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol?

Disgwyliwn y bydd ysgolion unigol yn darparu addysg wyneb yn wyneb ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol.

Beth yw dysgu cyfunol?

Mae dysgu cyfunol yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau y gellid eu categoreiddio’n fras fel hyn:

  • Amser wyneb yn wyneb gyda’r dysgwyr
  • Dysgu ar-lein, e.e. drwy HWB, gwersi wedi’u recordio, dysgu gwrthdro (disgyblion yn gweithio ar dasgau gartref cyn eu trafod yn y dosbarth); a ffrydio’n fyw
  • Defnyddio gwerslyfrau ac adnoddau ffisegol eraill i weithio gartref

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau a chanllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau ac ar gefnogi dysgu o bell.

Gweithrediadau ysgol

Pan fydd ysgolion ar gau ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb, pa blant a phobl ifanc fydd yn gallu mynychu ysgolion prif ffrwd oherwydd eu bod yn agored i niwed?

Rhaid i berchnogion ysgolion nodi’r plant a ddylai fynychu’r ysgol oherwydd eu bod yn agored i niwed. Rhaid i berchnogion ysgolion wneud trefniadau ar gyfer plant sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n agored i niwed er mwyn iddynt allu mynychu’r ysgol at ddiben addysg, ar y trydydd diwrnod ysgol a phob diwrnod ysgol dilynol yn y cyfnod pan fydd yr ysgol ar gau. Wrth nodi’r plant, rhaid i berchnogion ysgolion ystyried yr egwyddorion a ganlyn:

  • rhaid i bob plentyn a pherson ifanc fod yn ddiogel a chael eu gweld, eu clywed, eu bwydo a chael cyfle i ddatblygu  
  • yn yr amgylchiadau hyn, dylai ysgolion weithio gyda’i gilydd i nodi’r dysgwyr agored i niwed a ddylai fynychu’r ysgol
  • dylai’r penderfyniad ystyried effaith unrhyw gyfyngiadau ar iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol y plentyn neu’r person ifanc, ac ar ei ddatblygiad addysgol 
  • dylai’r penderfyniad ystyried sut y gellid lliniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â pheidio â mynd i’r ysgol drwy gynnig y cymorth mwyaf priodol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc
  • dylai’r penderfyniad ystyried y rheini sy’n ei chael yn anodd ymgymryd ag addysg o bell gartref (er enghraifft oherwydd diffyg dyfeisiau neu fan tawel i astudio)
  • dylai’r penderfyniad ystyried safbwyntiau’r plentyn neu’r person ifanc a’u rhieni/gofalwyr, fel y gellir deall eu hanghenion a’u diwallu drwy gynnig y cymorth mwyaf priodol    
  • dylai plant a phobl ifanc gael eu blaenoriaethu i gael cymorth yn unol â phenderfyniadau ynghylch eu risgiau a’u manteision
  • dylai rhieni a gofalwyr gael eu hysbysu o’r penderfyniad
  • dylai’r risgiau i blant a phobl ifanc gael eu hadolygu’n rheolaidd a’u monitro gan sawl asiantaeth

Mae’n hanfodol bod yr ysgol yn parhau i ymgysylltu â’r dysgwyr o bell os nad ydynt yn mynychu’r ysgol ac mae canllawiau ar ddysgu ar gael i gefnogi ysgolion a lleoliadau i wneud hynny.

Mae canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais wedi eu cyhoeddi a gallent helpu i nodi a chefnogi dysgwyr a all elwa ar gymorth ychwanegol.  

Sut mae'r Awdurdod Lleol yn nodi pwy sy'n weithiwr hanfodol?

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y rhestr ganlynol wrth benderfynu pwy sy'n cyfrif fel gweithwyr hanfodol. Wrth benderfynu pwy sy'n weithwyr hanfodol, bydd awdurdodau lleol hefyd am ystyried y mathau o gyflogaeth a’r effeithiau cysylltiedig yn eu hardal.

Dim ond un rhiant sydd angen bod yn weithiwr hanfodol er mwyn i’r rhwymedigaeth i wneud trefniadau fod yn berthnasol yn ôl y gyfraith.

Nid yw cael eich cynnwys ar y rhestr uchod yn golygu y gall plant yr holl weithwyr yn y categorïau hyn barhau i anfon eu plant i'r ysgol. Efallai y bydd llawer o rieni sy'n gweithio yn y sectorau hyn yn gallu sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gadw gartref. Dylai pob plentyn y gellir gofalu amdano'n ddiogel gartref aros gartref. Fodd bynnag, os yw gwaith rhiant / gofalwr yn hanfodol i’r ymateb i COVID-19 neu os yw mewn sector allweddol fel iechyd a gofal cymdeithasol ac na ellir cadw'r plentyn / plant yn ddiogel gartref, yna dylid rhoi blaenoriaeth iddynt ar gyfer darpariaeth addysg barhaus.

Beth yw'r trefniadau ar gyfer dysgwyr sydd i fod i sefyll arholiadau ym mis Ionawr?

Yn dilyn penderfyniad polisi'r Gweinidog Addysg i ganslo arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru CBAC yn haf 2021, mae arholiadau uned TGAU a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr mewn Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Gymraeg a TGCh wedi'u tynnu'n ôl. Fodd bynnag, mae arholiadau TGAU Economeg y Cartref: Datblygiad Plant a TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'u cadw gan mai dyma'r cyfle olaf i gael ardystiad yn y pynciau hyn cyn iddynt gael eu tynnu'n ôl.

O ran Cymwysterau Galwedigaethol, disgwylir i arholiadau CBAC ym mis Ionawr ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ogstal ag arholiadau BTEC, fynd rhagddynt fel y trefnwyd. O ganlyniad, ar gyfer yr arholiadau sy'n mynd rhagddynt yng nghyfres mis Ionawr, byddem yn disgwyl i ddysgwyr sy'n rhan o'r arholiadau hyn allu cael mynediad i'w hysgolion neu golegau.

O ran y trefniadau asesu amgen sy'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch a gymeradwywyd gan Cymwysterau Cymru, rydym wedi dweud yn glir nad oes disgwyl i unrhyw asesiadau gael eu cynnal cyn hanner tymor y Gwanwyn. Mae'r cyfnod asesu mewnol yn rhedeg rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill i roi hyblygrwydd i athrawon a darlithwyr ymgorffori'r asesiadau hyn yn eu cynlluniau addysgu a dysgu a sicrhau bod eu dysgwyr yn cael eu paratoi, ac i alluogi digon o amser i gwblhau asesiadau rhag ofn y bydd tarfu pellach.

A oes rhaid i staff ysgolion fod yn gorfforol bresennol ar safle ysgol i ddarparu dysgu o bell?

Bydd gan ysgolion y rhyddid i benderfynu, gan sicrhau bod digon o staff yn yr ysgol i gefnogi’r dysgwyr sy'n mynychu. Fodd bynnag, wrth wneud trefniadau ar gyfer dysgu o bell bydd angen i ysgolion ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru.

Beth yw'r trefniadau ar gyfer teithio i'r ysgol o fis Medi? 

Gweler ein Canllawiau Gweithredol a'n cwestiynau cyffredin penodol ar deithio i'r ysgol am y trefniadau o fis Medi ymlaen.

Gwisg ysgol

Corff llywodraethu ysgol sy’n gyfrifol am benderfynu ynghylch gwisg ysgol a dylech gysylltu gyda’ch hysgol os oes gennych unrhyw bryderon. Fodd bynnag, byddem yn annog pob ysgol i ddychwelyd at eu polisïau arferol ar wisg ysgol yn nhymor yr hydref. Gall gwisg ysgol chwarae rhan werthfawr wrth gyfrannu at ethos ysgol a gosod naws briodol.

Os bydd corff llywodraethu’n penderfynu llacio ei bolisi gwisg ysgol, dylid mabwysiadu agwedd sy’n ymwybodol o dlodi, gan gofio ei bod yn gallu bod yn anodd i rai teuluoedd brynu dillad penodol neu ychwanegol. Dylid hyrwyddo’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, ymysg teuluoedd cymwys. 

A fydd ysgolion yn parhau i gynnal diwrnodau HMS?

Mae 6 diwrnod HMS ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021, sef 5 diwrnod traddodiadol a 6ed diwrnod HMS Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol y dylid ei gynnal yn ystod tymor yr haf 2021.

Mae cadw pellter cymdeithasol yn anodd iawn i blant iau, sut allwn ddisgwyl iddyn nhw beidio â chymysgu gyda'u cyfoedion a staff addysgu?

Mae angen i ni sicrhau cyn lleied o gyswllt â phosibl rhwng pob unigolyn lle bynnag y bo'n bosibl. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall hyn fod yn anodd i ddysgwyr iau. Dyna pam y bydd pwyslais mewn ysgolion ar ffurfio grwpiau o ddysgwyr a sicrhau bod y grwpiau hynny ar wahân. Yn achos dysgwyr hŷn, bydd y pwyslais ar gadw pellter cymdeithasol/corfforol. Felly, dylai lleoliadau weithredu'r mesurau cadw pellter cymdeithasol a chymysgu mewn lleoliadau gofal plant a nodir yn y canllawiau diwygiedig Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel er mwyn cyfyngu ar nifer y cysylltiadau a gaiff plant ac oedolion pan fyddant y tu fewn, gan sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn cael gofal da.

Dylai staff sy'n gyfrifol am ddysgwyr iau aros gyda'r un grŵp yn hytrach na symud rhwng grwpiau gwahanol/nifer o grwpiau. Dylai pob aelod o staff gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol/corfforol cyhyd ag y bo modd gyda dysgwyr iau, ond dylent gadw at y mesurau hynny bob amser yn eu rhyngweithiadau â dysgwyr hŷn, staff eraill ac ymwelwyr â'r ysgol.

Sut fyddwch chi’n sicrhau iechyd a diogelwch y staff sy’n gweithio mewn ysgolion?

Iechyd a lles ein dysgwyr a’n gweithlu addysg sydd flaenaf wrth baratoi i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion. At y diben hwn, gan weithio gyda CLlLC a’r Undebau sy’n cynrychioli staff cymorth ysgolion, rydym wedi rhoi rhagor o sicrwydd ynghylch asesiadau risg; y galw uwch am staff glanhau; profion gwrthgyrff a’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu mewn datganiad ar y cyd.

A fydd cyfarpar diogelu personol ar gael i staff addysg?

Cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a hylendid anadlol (peswch neu disian mewn hances neu orchuddio’r ceg a’r trwyn gyda’r penelin neu lawes) yw’r ffyrdd gorau o hyd i atal y coronafeirws rhag lledaenu.

Felly nid oes angen defnyddio cyfarpar diogelu personol wrth gyflawni gweithgareddau cyffredinol yn yr ystafell ddosbarth neu’r ysgol.

Mae’r Canllawiau Gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg yn rhoi rhagor o wybodaeth am ddefnyddio cyfarpar diogelu personol.

Beth ddylai penaethiaid ei wneud os ydynt yn pryderu am y cyflenwad o nwyddau hylendid yn eu hysgolion?

Rydym yn rhyddhau £30m i awdurdodau lleol er mwyn ysgwyddo’r pwysau sy’n codi yn sgil Covid-19; gellir defnyddio’r arian hwn i helpu i brynu nwyddau hylendid lle bo angen.

Rydym yn deall bod rhai awdurdodau lleol yn dal i gynnal gwasanaeth caffael, ac mae’n bosib bod rhaid i ysgolion ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, dylai penaethiaid fedru defnyddio cyflenwyr penodol mewn argyfwng lle bo angen.

Dylai penaethiaid drafod gyda’r swyddog yn yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch neu reoli haint mewn ysgolion os oes ganddynt unrhyw bryderon ynghylch y cyflenwad o nwyddau glanhau a diheintio.

Yn fwy cyffredinol, mae’n bwysig nodi’r cyngor iechyd cyhoeddus bod golchi dwylo yn drylwyr gyda dŵr a sebon yn fwy effeithiol na defnyddio hylif diheintio dwylo. Dylid defnyddio hylif diheintio dwylo yn ogystal â golchi dwylo, nid yn lle golchi dwylo.

A ddylai ysgolion a cholegau gynnal nosweithiau rhieni a nosweithiau agored yn ystod?

Oherwydd y mesurau ymbellhau cymdeithasol presennol, rydym yn argymell nad yw ysgolion yn cynnal y nosweithiau rhieni traddodiadol (sef pan fo rhieni’n mynd i’r ysgol i gyfarfod athrawon y plentyn a thrafod ei gynnydd, naill ai gyda’r plentyn yn bresennol neu hebddo) na nosweithiau agored wyneb i wyneb am y tro. Dylai ysgolion a cholegau barhau i sicrhau eu bod ar gael i drafod unrhyw bryderon sydd gan rieni, ac ymgysylltu â rhieni drwy ddulliau eraill, megis e-bost, dros y ffôn neu apiau ysgolion, lle bo’n briodol. Os nad yw hyn yn bosibl a’i bod yn angenrheidiol cael cyfarfod wyneb yn wyneb, yna dylid rhoi mesurau priodol yn eu lle, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol o 2m.

O ran nosweithiau agored dylai ysgolion a cholegau ystyried cynnal digwyddiadau o’r fath mewn modd rhithwir. 

A fydd ysgolion yn ailgychwyn eu trefniadau arlwyo?

Ni fydd modd i bob ysgol ailgychwyn eu trefniadau arlwyo ar ddechrau tymor yr hydref. Mae amrywiol resymau am hyn, gan gynnwys iechyd a diogelwch disgyblion a staff. Bydd rhai ysgolion yn medru cynnig bwydlen lawn gyda phrydau poeth o ddechrau’r tymor, ac eraill ond yn medru cynnig dewis cyfyngedig. Hyd yn oed os na fydd ysgol yn ailgychwyn ei threfniadau arlwyo o gwbl, bydd y ddyletswydd i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys (a’r rhai sy’n cael eu diogelu yn ystod y cyfnod pontio) yn parhau.

Bydd y mwyafrif llethol o ysgolion eisoes wedi ysgrifennu at y rhieni er mwyn eu hysbysu am y trefniadau arlwyo yn ystod y tymor newydd. Dylai rhieni neu warcheidwaid sydd heb gael clywed eto gysylltu â’r ysgol i holi pa ddarpariaeth sydd ar gael. Mae rhai ysgolion, lle nad yw’r cyfleusterau arlwyo yn ailgychwyn, yn gofyn i rieni ddarparu pecyn bwyd i’w plant.

A fydd dysgwyr sy’n arfer derbyn prydau ysgol am ddim yn parhau i’w derbyn pan fydd dysgwyr yn dychwelyd i’r ysgol yn nhymor yr hydref?

Bydd dyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud â darparu prydau ysgol am ddim yn gymwys pan fydd ysgolion yn ailagor i bob dysgwr ym mis Medi. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion barhau i ddarparu cinio i ddysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (gan gynnwys y rhai sy’n cael eu diogelu yn ystod y cyfnod pontio). Yn ystod pythefnos gyntaf tymor yr hydref, hyd yn oed os bydd ysgol yn penderfynu na fydd disgwyl i ddysgwr sy’n cael prydau ysgol am ddim fod yn bresennol ar ddiwrnod penodol gan fod dyddiadau cychwyn y tymor yn amrywio, neu os na fydd cyfleusterau arlwyo’r ysgol yn ailagor, rhaid cyflawni’r ddyletswydd i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r dysgwr hwnnw.

A oes angen cadw pellter cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth?

Nid oes cyfyngiad wedi’i osod ar nifer y plant fesul ystafell ddosbarth.

Mae’r brif egwyddor yn ein canllawiau gweithredol yn dal i fod yn gymwys, sef gostwng nifer y cysylltiadau rhwng dysgwyr a staff a chadw pellter cymdeithasol cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol.

Darparu dŵr yfed mewn ysgolion

Mae Adran 5 Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i sicrhau bod dŵr yfed ar gael, yn rhad ac am ddim, ar fangre unrhyw ysgol a gynhelir. Mae'r ddyletswydd hon yn dal yn gymwys. Dylid annog disgyblion i ddod â'u poteli o ddŵr yfed, y gellir eu hail-lenwi, eu hunain gyda nhw ond, dylid parhau i ddarparu dŵr ar gyfer y rhai nad ydynt wedi gwneud hynny neu sydd angen eu hail-lenwi. Os na fydd cyfarpar oeri dŵr neu ffynhonnau yfed ar gael i’r disgyblion, gellir darparu jygiau o ddŵr, gydag aelod o staff a enwebwyd yn arllwys dŵr i ddisgyblion sydd ei angen.

Yn unol â'r ddyletswydd i ddarparu dŵr am ddim, mae angen i ysgolion ystyried y ffordd orau o ddarparu dŵr i ddisgyblion os ydynt yn anghofio dod â'u poteli eu hunain i mewn, neu os oes angen iddynt ail-lenwi eu poteli. Ni ddylai fod yn ofynnol i ddisgyblion brynu potel o ddŵr.

Staff a dysgwyr a ddiffinnir fel rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol – a elwid gynt yn 'gwarchod'

Rwy'n athro/athrawes neu'n aelod o staff sydd wedi bod yn gwarchod. Oes disgwyl i mi ddychwelyd i'r ysgol?

Mae'r cyngor i'r rhai sy'n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinidol wedi newid. Fe'ch cynghorir na ddylech bellach fynd i weithio y tu allan i'ch cartref. Mae’r term bod yn Eithriadol o Agored i Niwed yn golygu pobl yng Nghymru sydd ag un o’r cyflyrau sydd ar restr penodol iawn o gyflyrau iechyd difrifol sy’n bodoli eisoes ac yn hirdymor. Mae canllawiau newydd wedi cael eu datblygu ar ddiogelu pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19) – a elwid gynt yn 'gwarchod'. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar yr hyn a olygwn wrth Eithriadol o Agored i Niwed.

Dylai staff nad ydynt yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol, ond sy'n byw yn yr un cartref â rhywun sydd yn, barhau i fynd i’r gwaith.

Rwy'n ddysgwr a oedd yn gwarchod. Oes disgwyl i mi ddychwelyd i'r ysgol?

Mae'r cyngor i'r rhai sy'n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol wedi newid. Fe'ch cynghorir na ddylech bellach fynychu'r ysgol y tu allan i'ch cartref. Mae’r term Eithriadol o Agored i Niwed yn golygu pobl yng Nghymru sydd ag un o’r cyflyrau sydd ar restr penodol iawn o gyflyrau iechyd difrifol sy’n bodoli eisoes ac yn hirdymor Mae canllawiau newydd wedi cael eu datblygu ar gyfer amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19) – a elwid gynt yn 'gwarchod'. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar yr hyn a olygwn wrth Eithriadol o Agored i Niwed.

Dylai plant a phobl ifanc y mae eu rhieni, eu gofalwyr neu eu brodyr a'u chwiorydd yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol, barhau i fynd i'r ysgol.

Dwi’n aelod o staff sy'n cael fy ystyried fel rhywun sydd mewn ‘mwy o berygl' o ddal y feirws. Beth yw fy opsiynau o ran mynd i’r gwaith?

Yng nghyd-destun COVID-19 mae unigolion sydd mewn 'mwy o berygl' mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19. Mae'r categori hwn yn cynnwys pobl dros 70 oed, y rhai sy’n feichiog a phobl sydd ag ystod o gyflyrau iechyd cronig. Mae'r cyngor i staff yn y grŵp hwn yr un fath ag ydyw i'r boblogaeth ehangach. Dylai'r grŵp yma barhau i ddilyn y canllawiau ar ymbellhau cymdeithasol a hylendid dwylo ac anadlol yn ofalus.

Dylai oedolion yn y categori yma barhau i fynd i’r gwaith cyn belled â bod y gweithle’n ddiogel o ran COVID, ond dylent barhau i weithio gartref os gallant. Dylai staff wneud yn siŵr eu bod yn fodlon â’r mesurau diogelwch rhag COVID y mae eu cyflogwr wedi'u rhoi ar waith yn y gweithle a dylent ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a chorfforol yn ofalus. Gan weithio gyda'r awdurdod lleol dylai pob ysgol barhau i gynnal asesiadau risg, ac fe'u hanogir i ddefnyddio’r adnodd asesu risg COVID-19 Cymru gyfan ar gyfer y gweithle a rhoi rheolaethau ar waith i leihau'r risgiau hynny, megis yr angen am olchi dwylo'n aml ac yn drylwyr, hylendid a glanhau arwynebau a systemau unffordd a oedd wedi gweithio'n dda ar ddiwedd tymor yr haf. Os oes gan unrhyw un bryderon, dylent drafod y rhain gyda'u cyflogwr, eu swyddog iechyd galwedigaethol a'u meddyg teulu.

Mae astudiaethau o’r DU yn dangos nad yw menywod beichiog yn ddim mwy tebygol o fynd yn ddifrifol wael yn sgil y coronafeirws, ond maent wedi’u cynnwys ar y rhestr o bobl sydd mewn risg uwch er mwyn bod yn ofalus. Dylai menywod beichiog ddilyn canllawiau diweddaraf y llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol, gan osgoi unrhyw un sydd â symptomau tebyg i symptomau’r coronafeirws. Os ydych yn nhri mis olaf eich beichiogrwydd (yn feichiog ers dros 28 o wythnosau) dylech fod yn ofalus iawn o ran cadw pellter cymdeithasol. Mae’r canllawiau Coronavirus (COVID-19): advice for pregnant employees wedi’u cyhoeddi. Byddant yn eich helpu i drafod â’ch rheolwr llinell a’ch tîm iechyd galwedigaethol sut mae sicrhau iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Delio â coronafeirws

Pwy ddylai ysgolion eu hysbysu os bydd dysgwr neu aelod o staff yn arddangos symptomau COVID-19? 

Dylai unrhyw un sy’n arddangos symptomau Covid-19 gael ei anfon adref, a’i gynghori i drefnu prawf a chadw at y canllawiau ar hunan-ynysu. Ar gyfer dysgwyr, dylai rhieni gael eu cynghori i drefnu prawf ar gyfer eu plentyn. Os bydd canlyniad y prawf yn bositif, bydd y system olrhain cysylltiadau yn cychwyn ar gyfer yr achos hwnnw.  Os bydd canlyniadau y prawf yn negyddol, ni fydd yn ofynnol i'r unigolyn sydd â symptomau i gwblhau'r cyfnod hunan-ynysu yn llawn, cyn belled â bod pawb arall sydd yn byw gyda nhw hefyd wedi cael prawf negyddol.

Nid yw'n ofynnol i unigolion i ddarparu tystiolaeth o unrhyw brawf negyddol wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol.

Mae’r broses olrhain cysylltiadau yn ddienw yn awtomatig. Bydd swyddogion olrhain cysylltiadau yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi’i adnabod fel person ddaeth i gysylltiad ag achos positif, heb ddatgelu pwy yw’r person hwnnw heb ganiatâd. Os bydd swyddogion olrhain cysylltiadau o’r farn bod dysgwyr eraill neu aelodau o staff yn cyfrif fel cysylltiadau (gan ddefnyddio’r diffiniad o gysylltiadau), byddant yn gofyn am yr wybodaeth honno gan yr ysgol, a caiff cysylltiadau wybod eu bod yn gysylltiadau, a bydd yn ofynnol i bobl nad ydynt wedi bodloni'r diffiniad cyswllt i ddychwelyd i'r ysgol pan fydd y broses hon wedi dod i ben.

Nid yw’n briodol i ysgolion rannu gwybodaeth am achosion posibl o Covid-19 yn yr ysgol gyda’r staff, y disgyblion na’r rhieni. Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), dyma wybodaeth iechyd bersonol sy’n hynod o sensitif ac ni ddylid ei rhannu’n eang. O safbwynt olrhain cysylltiadau, daw gweithredoedd swyddog olrhain cysylltiadau dan erthygl iechyd penodol GDPR, a dyna pam mae modd iddynt ofyn am yr wybodaeth honno o ffynonellau fel ysgolion (a thrafod gwybodaeth o’r fath mewn ffordd briodol a sensitif mewn systemau penodol ar gyfer iechyd).

Bydd swyddogion olrhain cysylltiadau yn cysylltu ag ysgol os bydd amheuaeth o glwstwr posibl o achosion, gan ofyn am wybodaeth gan yr ysgol ynghylch pwy oedd yn y dosbarth, os bydd angen.

Dylai disgyblion a staff ofyn am brawf ddim ond os ydynt yn arddangos symptomau, ac nid os ydynt yn amau iddynt ddod i gysylltiad ag achos positif posibl.

Pa fesurau y bydd ysgolion a lleoliadau'n eu cymryd i leihau trosglwyddiad y feirws?

Er nad yw'n bosibl sicrhau amgylchedd cwbl ddi-risg, mae canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru, sydd wedi'u diweddaru, yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am y mesurau diogelu y dylai ysgolion eu rhoi ar waith i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws.

A fydd yr holl staff a dysgwyr yn cael eu profi am COVID-19?

Cyhoeddwyd datganiad ar 29 Medi gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi'r blaenoriaethu ar gyfer profi yng Nghymru sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodir yn ein strategaeth brofi.  

Mae'n bwysig nodi mai dim ond staff ysgol sydd yn dangos symptomau o’r feirws sydd angen cymryd prawf. Rydym wedi darparu canllawiau profi ar gyfer lleoliadau addysg sy'n cynnwys y camau y mae angen iddynt eu cymryd os bydd aelod o staff neu ddisgybl yn dechrau arddangos symptomau.  Mae pob ysgol yng Nghymru wedi derbyn pecynnau profi. Hefyd o gymorth i ysgolion unigol lle bo’r angen fydd profi cyflym gan Wasanaeth Iechyd Cymru.

Mae pob aelod o'r cyhoedd sy’n arddangos symptomau, gan gynnwys gweithwyr allweddol a phlant, yn awr yn gallu archebu prawf ar gyfer y feirws.  Rydym wedi ehangu’r capasiti profi yn sylweddol ac yn darparu £32m i gynyddu'r capasiti hwnnw yng Nghymru, sy'n cynnwys ymestyn oriau gweithredu ein labordai rhanbarthol i 24 awr y dydd a chwe 'labordy poeth' newydd mewn ysbytai ledled Cymru.  Mae hyn yn yn ychwanegol at waith rhwydwaith Ehangach ‘Lighthouse Lab’ y DU sy'n ategu’r ddarpariaeth brofi ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr allweddol.

Beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf ar brofi cysylltiadau mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru?

Rydyn ni wedi cael trafodaethau da gyda’r sector addysg ar brofion ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru, ac mae ysgolion a cholegau wedi dangos parodrwydd i gyflwyno profion cyn gynted a phosib. Rydym yn parhau i weithio gydag ysgolion i baratoi ar gyfer cyflwyno’r profion.

Gallai profi cysylltiadau yn ddyddiol fod yn gyfle i leihau effaith COVID-19 ar ddysgu mewn person, ond ni fydd hyn yn cael ei gyflwyno oni bai ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Rydym yn cael ein harwain gan yr wybodaeth wyddonol ddiweddaraf, ac mae’n iawn i ni ystyried eto a yw’r amrywiolyn newydd yn effeithio ar y risgiau mewn perthynas â defnyddio profion dyddiol.

Byddwn yn parhau i weithio gydag Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y DU, Public Health England, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’n Grŵp Cynghori Technegol i ddeall yr hyn y mae’r data diweddaraf yn ei ddweud wrthym er mwyn i ni ystyried effaith hyn ar ein dull o gynnal profion yn ysgolion a cholegau Cymru.

Mae’n bwysig pwysleisio nad yw profion wrth eu hunain yn ateb yr holl heriau sy’n ymwneud â Covid. Rhaid parhau i ddefnyddio’r prif fesurau sydd eisoes yn eu lle fel cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, ynghyd ag unrhyw drefniadau profi.

Beth fydd yn digwydd os bydd achos o’r coronafeirws (COVID-19) yn cael ei gadarnhau yn ysgol neu leoliad fy mhlentyn?

Nid yw prawf cadarnhaol ar y safle yn golygu bod rhaid cau’r safle. Mae’r broses o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ ac os bydd ysgolion a lleoliadau yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, ni fydd achos i boeni.

Os bydd sawl achos o COVID-19 mewn ysgol, bydd arbenigwyr o bob cwr o’r GIG a llywodraeth leol yn cydweithio i atal trosglwyddo achosion o fewn yr ysgol. Bydd hyn yn golygu adnabod unrhyw blentyn neu aelod staff risg uwch sydd wedi dod i gysylltiad â’r feirws, a darparu cyngor penodol ynghylch rheoli’r haint. Ar ôl asesu pob sefyllfa unigol, bydd cyngor yn cael ei ddarparu i helpu’r ysgol i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach. Bydd y broses yn sensitif ac yn gyfrinachol. Ceir rhagor o wybodaeth a chwestiynau ac atebion am Profi, Olrhain, Diogelu ar wefan Llywodraeth Cymru.

Sut ddylai ysgolion neu leoliadau gofal plant ddelio â phlant sydd â symptomau posib o’r coronafeirws os bydd eu rhieni yn gwrthod mynd â nhw adref?

Os bydd plant, neu staff, yn mynychu er bod ganddynt symptomau ac yna’n gwrthod gadael, cysylltwch â’r swyddog iechyd yr amgylchedd lleol.

Gorchuddion wyneb

Sut mae’r polisi ar orchuddion wyneb wedi newid?

Mewn ysgolion uwchradd, dylai oedolion a disgyblion wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Dylai disgyblion blwyddyn 7 ac i fyny hefyd wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant penodedig i’r ysgol.

Dylai ymwelwyr â’r ysgol/lleoliad wisgo gorchudd wyneb hefyd, gan gynnwys rhieni sy’n gollwng neu’n casglu dysgwyr.

Pam newid y cyngor ar orchuddion wyneb pan fo ysgolion ar fin ailagor?

Rydym yn diweddaru ein canllawiau yn gyson wrth i ni ddysgu mwy am COVID-19. Cyhoeddwyd cyngor ychwanegol Sefydliad Iechyd y Byd ar orchuddion wyneb ar 21 Awst.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU ac ar draws y byd, wedi bod yn ystyried y cyngor diwygiedig.

Cyhoeddodd Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ar COVID-19 ‘Cyngor ar Orchuddion Wyneb ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (o dan 18 oed) mewn lleoliadau Addysg’.

Dywedodd y Gell Cyngor Technegol “Ymddengys mai ychydig iawn o werth ychwanegol sydd i orchuddion wyneb ymysg plant o dan 11 oed, gan fod y dystiolaeth yn awgrymu cyfraddau isel o haint symptomatig a throsglwyddo yn y grŵp oedran hwn”.

Mae’n cynghori “y dylai pob lleoliad addysg uwchradd gynnal asesiad risg o ystâd yr ysgol, ac y dylai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion, lleoliadau a gweithredwyr trafnidiaeth fel y bo angen i gynnal asesiad risg ar gyfer cludiant ysgolion penodedig i nodi meysydd risg lle gallai fod angen ychwanegu gorchuddion wyneb at gynlluniau diogelwch Covid ysgolion".    

Pam nad yw gorchuddion wyneb yn cael eu gwneud yn orfodol mewn ysgolion?

Mae ysgolion a lleoliadau eisoes yn gosod nifer o fesurau effeithiol ar waith i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws a sicrhau amgylchedd diogel rhag covid i’w dysgwyr a’u staff.

Y mesurau rheoli pwysicaf o hyd yw hylendid dwylo a chadw pob arwynebedd yn lân, cadw carfanau o fyfyrwyr a staff ar wahân, osgoi sgyrsiau agos wyneb yn wyneb, cyfyngu ar unrhyw gysylltiadau a chadw pellter cymdeithasol gymaint â phosib. 

Mae modd i nifer o ysgolion a cholegau gadw pellter cymdeithasol a chadw ‘grwpiau cyswllt’ ar wahân mewn ardaloedd cyffredin. Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl, rydym yn argymell y dylai ysgolion ystyried dechrau defnyddio gorchuddion wyneb yn yr ardaloedd hynny.

Bydd effaith gyfunol y dulliau rheoli a’r mesurau sydd yn eu lle yn cael eu hystyried wrth greu asesiad risg lleol o ran a oes angen mesurau ychwanegol, er enghraifft mewn ardaloedd cyffredin fel coridorau.

Beth os yw aelod o staff neu ddisgybl yn dymuno gwisgo gorchudd wyneb at ddibenion iechyd?

Os yw disgyblion neu staff yn dymuno gwisgo gorchudd am resymau personol yna dylid caniatáu iddynt wneud hynny. Gall hyn fod o fudd i rai unigolion o ran hwyluso lles ehangach, lleihau pryder a darparu tawelwch meddwl ychwanegol, ochr yn ochr â mesurau lliniarol eraill.

Mewn asesiadau risg lleol, rhaid rhoi blaenoriaeth i fuddiannau cyffredinol aelodau o staff a dysgwyr ac ni ddylai fod unrhyw risg iddynt gael eu gwahardd o gludiant i'r ysgol neu leoliad, nac o fynychu'r ysgol neu leoliad, os argymhellir i orchuddion wyneb gael eu defnyddio yn lleol.

Dylid trin, gwisgo a storio unrhyw orchudd wyneb mewn modd briodol.

Pa fath o orchuddion wyneb dylid eu defnyddio?

Dylai gorchuddion wyneb gynnwys tair haen, yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, ond nid oes angen iddynt fod yn fygydau wyneb meddygol.

Gorchuddion wyneb: cwestiynau cyffredin

 

A yw gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell yn yr ystafell ddosbarth?

Mewn ystafelloedd dosbarth lle mae grwpiau cyswllt a mesurau rheoli eraill yn eu lle, rhaid pwyso a mesur y manteision ymylol o ddefnyddio gorchuddion wyneb yn erbyn yr effaith negyddol debygol ar y profiad dysgu   gan gynnwys clyw a chyfathrebu cymdeithasol. Felly nid yw gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell yn yr ystafell ddosbarth, yn unol â'r cyngor gweithredol i ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref.

A yw'r newid i'r cyngor ar orchuddion wyneb yn gymwys i bob plentyn a pherson ifanc oedran ysgol?

Nac ydy. Cyhoeddodd Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ar COVID-19 ddogfen 'Cyngor ar Orchuddion Wyneb i Blant a Phobl Ifanc (o dan 18) mewn Lleoliadau Addysg'. Mae'r cyngor yn wahanol i ddisgyblion cynradd a disgyblion uwchradd. Mae'r cyngor diwygiedig ond yn berthnasol i ysgolion uwchradd.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi dweud yn glir mai gwan yw'r dystiolaeth i gefnogi gwisgo gorchuddion wyneb anfeddygol yn gyffredinol yn y gymuned, yn arbennig pan fo cyfraddau'r haint yn isel.

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn argymell y dylid defnyddio gorchuddion wyneb yn unol ag asesiadau risg mewn ysgolion uwchradd mewn amrywiol leoliadau lle na ellir defnyddio mesurau corfforol eraill neu lle nad yw’n debygol y byddant yn cael eu cynnal, ond nid yw’n gorfodi hynny. Er bod ystafelloedd dosbarth yn cael eu hystyried yn ddiogel rhag covid gyda'r rheolaethau a'r mesurau yn eu lle, yn unol â'r canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref, mae'n bosibl y byddai gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell i ddisgyblion uwchradd mewn ardaloedd cymunedol eraill lle na ellir cynnal mesurau rheoli o'r fath i'r un graddau. Bydd hyn yn benderfyniad lleol i'r ysgol neu leoliad gan ddibynnu ar eu hasesiad o'r risg a chyd-destun yr amgylchiadau lleol.

A fydd cyfrifoldeb lleol yn arwain at wahanol drefniadau ar draws Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir ein bod yn argymell gorchuddion wyneb i ddisgyblion uwchradd dan amgylchiadau lle na ellir cynnal mesurau rheoli eraill. Ysgolion sy'n deall eu hanghenion a'u sefyllfaoedd lleol orau, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn credu y byddai'n briodol nac yn fanteisiol mynnu un dull gweithredu sy'n addas i bawb, ar sail y dystiolaeth a ddaeth i law gan Sefydliad Iechyd y Byd a Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru.

Dylai pob lleoliad addysg gynnal asesiad risg o'u hystâd, ac fe ddylai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion a lleoliadau i gynnal asesiad risg i nodi ardaloedd lle efallai y dylid ychwanegu gorchuddion wyneb at gynlluniau diogelwch covid y lleoliadau. Bydd yr asesiadau yn wahanol gan y byddant yn adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau'r ysgol neu leoliad penodol. Dylai'r asesiad risg nodi'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer y penderfyniad i ddechrau ac atal y defnydd o orchuddion wyneb.

Pwy fydd yn penderfynu a oes angen gorchuddion wyneb, a ble y dylid eu gwisgo?

Bydd y penderfyniadau yn cael eu gwneud gan yr ysgolion uwchradd a'r lleoliadau a'u hawdurdodau lleol i bennu o dan ba amgylchiadau y bydd yn ofynnol gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliad addysg unigol.

Bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yng nghyd-destun canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru a chyngor gan ein Grŵp Cynghori Technegol a Sefydliad Iechyd y Byd, ac mewn ymateb i anghenion ac amgylchiadau lleol.

Pa mor effeithiol yw gorchuddion wyneb ar gyfer atal trosglwyddiad y feirws?

Mae gorchudd wyneb yn diogelu eraill drwy gyfyngu ar drosglwyddiad COVID-19 drwy'r awyr. Nid yw'n amddiffyn y sawl sy'n ei wisgo rhag cael ei heintio gan eraill.

Y cyngor o hyd yw mai'r ffyrdd gorau o reoli'r haint yw hylendid dwylo a chadw pob arwynebedd yn lân, cyfyngu ar unrhyw gysylltiadau a chadw pellter cymdeithasol. Nid yw gorchuddion wyneb yn medru cymryd lle'r mesurau hyn, ond gellid eu defnyddio fel mesur ychwanegol i ostwng y risg lle nad oes modd cadw at fesurau rheoli presennol neu lle nad yw hynny'n debygol.

Gan y bydd gofyn gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, a fydd yn orfodol gwisgo gorchudd wyneb ar gludiant o'r cartref i'r ysgol?

Dylai dysgwyr ysgolion uwchradd a cholegau wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant o’r cartref i’r ysgol.

Mae fy ysgol yn argymell y dylwn i wisgo gorchudd wyneb, ond dwi ddim am wneud am resymau personol. A fyddaf yn cael teithio ar gludiant i'r ysgol a mynychu'r ysgol?

Os bydd penderfyniad lleol i'w gwneud yn ofynnol i ddysgwyr wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i'r ysgol ac yn yr ysgol, mae'n bwysig i ddisgyblion gydymffurfio â'r trefniant. Bydd ysgolion wedi cynnal asesiad risg cynhwysfawr i ddod i'r penderfyniad hwn. Os bydd gennych ragor o bryderon am wisgo gorchudd wyneb, trafodwch y mater gyda'ch ysgol neu leoliad.

Mae ystyriaethau eraill a all eithrio dysgwyr rhag gwisgo gorchudd wyneb. Mae lles y dysgwyr yn hanfodol wrth ystyried a ddylai staff neu ddysgwyr wisgo gorchuddion wyneb. Ni ddylai unrhyw un sy'n methu trin a thrafod gorchuddion wyneb yn unol â'r cyfarwyddyd eu gwisgo gan y gallai hynny gynyddu'r risg o drosglwyddo'r feirws yn anfwriadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref.  

Os bydd fy ysgol yn argymell y dylid gwisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol, pwy fydd yn eu darparu?

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ar 7 Medi fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo dros £2.3 miliwn i ddarparu gorchuddion wyneb i’r holl ddisgyblion uwchradd neu mewn lleoliadau addysg bellach. Cysylltwch â’ch ysgol neu awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Sut alla i ddangos nad yw'n ofynnol i mi wisgo gorchudd wyneb?

Gall rhai amgylchiadau godi lle na fydd disgybl neu aelod o staff yn gallu gwisgo gorchudd wyneb. Nid yw bob amser yn amlwg a oes gan rywun esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb. Bydd angen i ysgolion fod yn ystyriol a pharchu amgylchiadau o'r fath, gan nodi efallai nad oes modd i rai pobl wisgo gorchudd wyneb am resymau nad ydynt yn amlwg i eraill.

Ni ddylai'r rhai sydd â rheswm dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb oherwydd oedran, iechyd neu anabledd orfod darparu tystiolaeth ysgrifenedig o hyn yn rheolaidd. Nid oes angen i ddisgyblion a staff ofyn am gyngor na gofyn am lythyr gan weithiwr meddygol proffesiynol am eu rheswm dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb

Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus yn dangos rhywbeth sy'n dweud nad oes rhaid iddynt wisgo gorchudd wyneb. Gallai hyn fod ar ffurf cerdyn eithrio, bathodyn neu hyd yn oed arwydd a wnaed gartref. Mae nifer o sefydliadau wedi creu cardiau y gellir eu lawrlwytho o'u gwefannau a'u hargraffu, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae cario cerdyn eithrio yn ddewis personol ac nid yw’n orfodol yn ôl y gyfraith.

Oes rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn yr awyr agored ar iard yr ysgol?

Ddim mewn ysgolion cynradd nac ysgolion arbennig.

Ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd, dylid gwisgo gorchuddion wyneb y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Yr unig eithriad yw pan fyddant y tu allan, oni bai bod asesiad risg yr ysgol yn dangos bod angen mesurau ychwanegol, er enghraifft ar iard ysgol lle mae nifer fawr o ddisgyblion mewn lle cymharol fach heb fedru gwahanu grwpiau cyswllt (e.e. wrth aros i fynd i mewn i'r ysgol). Nid yw gwisgo a thynnu gorchuddion wyneb yn aml yn cael ei argymell, gan y gall hyn arwain at berygl o halogi dwylo ac wynebau. Os yw disgyblion y tu allan am gyfnod byr efallai y byddai'n haws parhau i wisgo gorchuddion wyneb. Ni ddylai dysgwyr wisgo gorchuddion wyneb wrth redeg o gwmpas, chwarae pêl-droed neu chwarae gemau corfforol eraill.

Oes rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn gwersi addysg gorfforol yn yr awyr agored?

Na. Mae gwersi addysg gorfforol, boed o dan do neu yn yr awyr agored, yn estyniad o’r ystafell ddosbarth, a dylai mesurau lliniaru eraill fod yn eu lle.

Sut ddylwn i storio a gofalu am fy ngorchudd wyneb amldro?

Mae gwybodaeth ynghylch sut i storio a gofalu am eich gorchudd wyneb amldro ar gael.

Wrth gynnal asesiadau risg lleol, dylai ysgolion a lleoliadau ystyried defnydd diogel a threfniadau storio gorchuddion wyneb.

Os nad oes modd cadw pellter cymdeithasol llym yn yr ystafell ddosbarth, a ddylid defnyddio gorchuddion wyneb yn gyffredinol?

Mae'n canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref yn amlinellu sut y gellir cynllunio ystafelloedd dosbarth i fod yn ddiogel rhag covid, gyda llai o gysylltiad, newidiadau i gynllun y dosbarth a chadw pellter cymdeithasol digonol gymaint â phosib.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd yn bosibl cadw pellter cymdeithasol llym rhwng dysgwyr bob tro, ac os bydd mesurau rheoli eraill fel grwpiau cyswllt a hylendid dwylo yn parhau, yn ôl ein canllawiau ni, ni ddylai gorchuddion wyneb fod yn ofynnol yn yr ystafelloedd dosbarth.

Mae'n bwysig cofio y bydd angen i unrhyw fesurau rheoli bwyso a mesur amrywiol beryglon. Mewn ystafelloedd dosbarth lle mae grwpiau cyswllt yn bodoli a mesurau rheoli eraill ar waith, mae'n rhaid cydbwyso'r budd ymylol a geir o ddefnyddio gorchuddion wyneb â'r effaith negyddol debygol ar y profiad dysgu, gan gynnwys clyw a chyfathrebu cymdeithasol.

A ddylai fod yn ofynnol i rieni ac ymwelwyr â'r ysgol neu leoliad wisgo gorchudd wyneb ar eiddo'r ysgol?

Dylai ymwelwyr â’r ysgol wisgo gorchudd wyneb, gan gynnwys rheini sy’n gollwng neu’n casglu dysgwyr.

Cwestiynau eraill

Mae pryderon y bydd rhai disgyblion o bosib wedi syrthio ar ei hôl hi gyda’u dysgu. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi sylw i hyn o fis Medi ymlaen?

Rydym yn deall y bydd dychwelyd i drefn yn parhau i fod yn heriol i rai dysgwyr, ac mae’n bosibl y bydd y cyfnod clo wedi cael effaith sylweddol ar eu dysgu a’u cysylltiad ag addysg yn yr ysgol. Mae’r amser y bydd dysgwyr yn ei dreulio yn yr ysgol yn ystod mis Mehefin/Gorffennaf 2020 yn canolbwyntio’n benodol ar les a pharatoi i ddychwelyd i ddysgu yn hydref 2020. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £29 miliwn i ysgolion i hybu’r cymorth i ddysgwyr ar adegau hanfodol bwysig yn eu haddysg o fis Medi ymlaen.

Bydd yr hyn sy’n cyfateb i 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr dysgu yn cael eu recriwtio drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf, gan dargedu cymorth ychwanegol at Flynyddoedd 11, 12 ac 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oed. Bydd hyn yn helpu dysgwyr sy’n sefyll arholiadau Safon Uwch a TGAU yn 2021 a’r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf. Bydd y camau gweithredu hyn yn bwysig tu hwnt i ddyfodol y bobl ifanc yma.

Bydd adnoddau dysgu proffesiynol yn cael eu darparu i gefnogi’r athrawon newydd a’r rhai sydd eisoes yn eu swyddi, wrth baratoi ar gyfer mis Medi. Bydd staff yn cael eu recriwtio ar gontract blwyddyn o dymor penodol a disgwylir iddynt symud i swyddogaethau addysgol yn y flwyddyn academaidd nesaf. Gallai’r pecyn cymorth, sy’n cael ei ddarparu ar lefel yr ysgol, gynnwys cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu personol ac amser ac adnoddau ychwanegol ar gyfer disgyblion mewn blynyddoedd sy’n sefyll arholiadau. Bydd amrywiol ddulliau dysgu yn berthnasol, gan gynnwys dysgu cyfunol.

Profi, Olrhain, Diogelu

Fe gafodd y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, a gyhoeddwyd ar 13 Mai, ei roi ar waith ledled Cymru o 1 Mehefin ymlaen, ac fe fydd yn elfen hanfodol ar gyfer ehangu gweithrediad ysgolion.

Mae’r strategaeth hon yn gosod y cam nesaf yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r coronafeirws; profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rhai sydd wedi dod i gysylltiad agos gyda phobl sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws, ac amddiffyn teulu, ffrindiau a’n cymunedau drwy hunanynysu.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar brofion mewn lleoliadau addysg

Ceir rhagor o wybodaeth am Profi, Olrhain, Diogelu yma.

Mae pecyn cymorth ac asedau i helpu cyflogwyr gweithwyr hanfodol i gyfathrebu am y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu ar gael yma.

Os bydd staff ysgolion neu ddysgwyr yn teithio y tu allan i’r DU, a fydd rhaid iddynt dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd?

Gan ddibynnu o ba wlad yr ydych yn teithio ohoni, mae’n bosibl y bydd gofyn i chi hunanynysu ar ôl i chi ddychwelyd i’r DU.

Gall y sefyllfa newid, ac rydym yn argymell y dylech fwrw golwg ar y canllawiau diweddaraf cyn trefnu unrhyw deithiau o fewn y DU a thu hwnt.

A oes unrhyw gymorth ar gael i’r gweithlu addysg?

Mae cymorth ar gael i’r gweithlu addysg drwy’r Bartneriaeth Cymorth Addysg, elusen sy’n cefnogi iechyd a lles staff addysg. 

Mae’r Bartneriaeth Cymorth Addysg wedi bod yn datblygu adnoddau digidol i roi cymorth pellach i staff addysg yn ystod y cyfnod heriol iawn sydd ohoni. Maent yn seiliedig ar themâu allweddol sef pryder, galar ac ynysigrwydd.

Mae’r Bartneriaeth hefyd yn cynnig cymorth emosiynol cwbl gyfrinachol i staff 24/7. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 08000 562561 neu ewch i educationsupport.org.uk/helpline

Gall y bartneriaeth hefyd ddarparu cymorth ariannol drwy wasanaeth grantiau. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

A fydd athrawon ac ymarferwyr y mae angen iddynt hunanynysu yn dal i gael eu talu a gallu gweithio gartref?

Os na fydd athrawon neu aelodau eraill o’r staff yn gallu mynd i’r gwaith am eu bod yn gorfod hunanynysu, dylent siarad â’u cyflogwr a chytuno ar drefniadau rhesymol ar gyfer gweithio gartref, os ydynt yn ddigon da i wneud hynny. Caiff athrawon na allant fynd i’r gwaith eu talu fel arfer.

Lle mae staff yn darparu cymorth unigol neu grŵp i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA), a all ysgolion ad-drefnu'r trefniadau cymorth er mwyn lleihau'r cyswllt rhwng grwpiau?

Nid yw dyletswyddau a rhwymedigaethau statudol awdurdodau lleol ac ysgolion sy'n ymwneud ag AAA wedi newid, ac mae’r rhain yn dal mewn grym, gan gynnwys y ddyletswydd i drefnu darpariaeth fel y nodir mewn datganiad.

Yn unol â’r canllawiau blaenorol, byddem yn annog dull ymarferol a hyblyg o sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu tra'n lleihau'r cyswllt rhwng grwpiau, a dylid ystyried hyn fel rhan o unrhyw asesiad risg.  Er enghraifft, gall creu amserlen a threfnu darpariaeth gymorth 1:1 dros gylch hirach, er mwyn cynnal lefelau cyffredinol o gymorth tra'n lleihau cysylltiad staff a dysgwyr â gwahanol grwpiau neu unigolion fod yn briodol.

Dylai ysgolion barhau i ymgynghori â rhieni a gofalwyr ynghylch anghenion cymorth penodol, a defnyddio eu disgresiwn yn hyblyg wrth gytuno ar y ffordd ymlaen i ddysgwyr penodol.

Argyfyngau meddygol yn yr ysgol

Mewn argyfwng meddygol, dylai plant a phobl ifanc gael triniaeth brydlon a phriodol bob amser. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd a Defnyddio chwistrellwyr adrenalin awtomatig brys mewn ysgolion. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut y dylai ysgolion ymateb i ddisgyblion sydd mewn perygl o ddioddef anaffylacsis a thriniaethau brys. Dylai’r canllawiau barhau i arwain ysgolion ar sut i ymateb mewn sefyllfaoedd brys drwy gydol y pandemig. 

Mewn argyfwng meddygol, disgwylir y bydd angen i bobl fod llai na dwy fetr oddi wrth ei gilydd, ac efallai y bydd rhywun yn darparu gofal meddygol brys heb gyfarpar diogelu personol. Ni ddylai fod unrhyw oedi yn yr ymateb i argyfwng meddygol er mwyn gwisgo cyfarpar diogelu personol. Mae fersiwn ddiweddaraf y Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref yn dweud yn glir nad yw bob amser yn bosibl glynu at reoliadau cadw pellter cymdeithasol yn yr ysgol, yn arbennig wrth weithio gyda dysgwyr sydd angen gofal drwy gysylltiad agos. 

Dylai’r defnydd o gyfarpar diogelu personol gan staff o fewn lleoliadau addysg fod yn seiliedig ar asesiad clir o’r risg, gan ystyried pob lleoliad unigol ac anghenion dysgwyr unigol. Mae gan ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol weithdrefnau asesu risg yn eu lle eisoes, y dylid eu defnyddio i bennu’r angen i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol.

A fydd dysgwyr sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn parhau i dderbyn darpariaeth

Disgwyliwn i ysgolion unigol barhau i ddarparu dysgu wyneb yn wyneb i ddysgwyr sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol.

Gall Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion barhau i fod ar agor i gefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed os oes modd.

Os oes gennyf bryderon ynghylch fy mhlentyn yn dychwelyd i'r ysgol, a fyddaf yn cael hysbysiad cosb benodedig os nad oeddent yn bresennol?

Mae mynychu’r ysgol yn orfodol, ond rydym yn cydnabod y bydd rhai teuluoedd yn fwy pryderus am bresenoldeb eu plant yn yr ysgol tra bo COVID-19 yn peri risg. Byddwn yn disgwyl i rieni drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt â’r ysgol er mwyn sicrhau bod pawb yn dychwelyd i’r ysgol ar y cyfle cyntaf. Bydd hyn yn helpu'r ysgolion, y lleoliadau a’r awdurdodau lleol i ddeall a chynllunio ar gyfer unrhyw rwystrau sy'n atal dysgwyr rhag dychwelyd i'r ysgol, a nodi unrhyw gymorth pellach sydd ei angen. Fodd bynnag, os nad yw eich plentyn wedi dychwelyd i'r ysgol, mae Llywodraeth Cymru o’r farn na fyddai'n briodol i awdurdod lleol/ysgol roi hysbysiad cosb benodedig o dan yr amgylchiadau. Bydd Llywodraeth Cymru'n monitro'r sefyllfa ac yn parhau i adolygu ei safbwynt.

A fydd darpariaeth frecwast a darpariaeth ar ôl ysgol ar gael pan fydd yr ysgolion yn dychwelyd?

Rhaid i awdurdodau lleol, gan weithio gyda'u hysgolion, ystyried ailddechrau cynlluniau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, a dylent hefyd ystyried ailddechrau unrhyw ddarpariaeth frecwast arall a darpariaeth ar ôl ysgol p'un a yw'n cael ei chynnig gan yr ysgol neu gan ddarparwr preifat. Os yw dysgwr yn mynychu mwy nag un lleoliad, megis ysgol a darpariaeth gofleidiol neu ar ôl ysgol, dylai'r dysgwr aros yn yr un grŵp bach yn y ddau leoliad lle bynnag y bo'n bosibl.

Os nad yw hyn yn bosibl, dylent aros mewn grwpiau bach cyson yn y ddau leoliad. Os oes angen i ddysgwyr fynychu mwy nag un lleoliad, bydd angen i rieni, ysgolion a lleoliadau drafod y risgiau hynny ac ystyried sut i'w rheoli. 

Dylai awdurdodau lleol gefnogi ysgolion a bydd angen i ddarparwyr weithio mewn partneriaeth agos i ystyried sut y gallant gynnig darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol ochr yn ochr â'u mesurau diogelu ehangach.

Beth os nad oes gan plant a phobl ifanc fynediad at liniadur neu lechen yn eu cartref?

Mae platfform dysgu digidol Hwb yn darparu mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau a chynnwys digidol y gellir eu defnyddio i gynorthwyo gyda dysgu o bell. Mae modd cyrraedd at Hwb o amrywiol ddyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r we, gan gynnwys ffonau clyfar.

Rydym wedi sicrhau bod £3 miliwn ychwanegol ar gael i helpu dysgwyr sydd wedi eu ‘hallgau yn ddigidol’ yn ystod y pandemig coronafeirws. Fel rhan o raglen ‘Cadw’n Ddiogel, Dal Ati i Ddysgu’, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu dysgwyr sydd wedi’u hallgau yn ddigidol yn ystod y pandemig presennol.

Dysgwr sydd wedi’i ‘allgau yn ddigidol’ yw myfyriwr heb fynediad at ddyfais priodol cysylltiedig â’r we er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ar-lein o’r cartref.

Mae awdurdodau lleol, gan weithio’n agos gyda’u hysgolion, wedi defnyddio’r cyllid i addasu dyfeisiau ysgol at ddibenion gwahanol a darparu’r dyfeisiau hynny a chysylltiad 4G MiFi i ddysgwyr sydd wedi’u hallgau yn ddigidol lle bo angen. Yna bydd rhaglen seilwaith ehangach Hwb yn ariannu dyfeisiau eraill yn eu lle i’r ysgolion.

Mae ysgolion yn adnabod dysgwyr sydd wedi’u hallgau’n ddigidol drwy gysylltu â rhieni a gwarcheidwaid. Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol wedi gweld pa ddyfeisiau y gellid eu haddasu gyda’r meddalwedd diweddaraf. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

Er mwyn cynyddu capasiti i alluogi dysgwyr i gadw pellter cymdeithasol yn effeithiol, oes modd i ni ddefnyddio adeiladau dros dro?

Nid ydym yn credu bod angen i ysgolion a lleoliadau wneud addasiadau mawr i’w safle er mwyn iddynt allu croesawu’r holl ddysgwyr yn ôl. Fodd bynnag, cydnabyddir efallai y bydd angen ymestyn amserau cinio i sicrhau bod disgyblion yn cael amser i fwyta. 

Mae hi’n annhebygol iawn y bydd angen i ysgolion ddarparu unrhyw ran o’u haddysg mewn safleoedd eraill (megis canolfannau cymunedol/neuaddau pentref) oherwydd bydd modd glanhau’r ardaloedd a fydd yn cael eu defnyddio gan fwy nag un dosbarth neu grŵp rhwng pob dosbarth neu grŵp. 

Dylid paratoi pob asesiad risg sy’n ymwneud ag adeiladau drwy ymgynghori â’r undebau llafur lleol. Ar ôl gwneud asesiad risg, efallai y bydd rhai ysgolion yn penderfynu bod angen gwneud mân addasiadau i’w safle, fel gosod basnau ychwanegol i olchi dwylo. Bydd hyn yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn yr ysgol/lleoliad unigol, ar sail yr amgylchiadau penodol.

A all plant fynd i’r ysgol os oes annwyd arnyn nhw?

Os oes gan blant symptomau tebyg i annwyd sydd ar ffurf ysgafn, dylen nhw fynd i’r ysgol, os ydyn nhw’n teimlo’n ddigon iach i wneud hynny. Prif symptomau COVID-19 y mae angen ichi fod yn ymwybodol ohonyn nhw yw:

  • peswch cyson newydd
  • gwres/tymheredd uchel
  • colli synnwyr arogli neu flasu, neu unrhyw newid i’r synhwyrau hynny

Ond, os nad oes gan blant symptomau COVID-19, ac mae ganddyn nhw symptomau eraill tebyg i annwyd, fel trwyn sy’n rhedeg, nid oes angen iddyn nhw gael eu profi ac nid oes angen iddyn nhw na chi hunanynysu. Gall eich plentyn fynd i’r ysgol os yw’n ddigon iach i wneud hynny.

Beth yw barn Llywodraeth Cymru am oedran priodol i blant gael eu gadael gartref ar eu pennau eu hunain i hunanynysu? Os nad yw'n briodol, beth all rhieni ei wneud os ydynt yn gweithio?

Mae lles pob plentyn o'r pwys mwyaf. Er nad oes unrhyw oedran penodol yn cael ei bennu y gyfraith, nid yw'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) yn argymell bod plant 12 oed ac iau yn cael eu gadael adref ar eu pennau eu hunain. Fodd bynnag, mae gan bob plentyn anghenion gwahanol ac mae'n drosedd gadael plant o unrhyw oedran ar eu pennau eu hunain os yw'n eu rhoi mewn perygl. Dim ond rhieni fydd yn deall anghenion eu plentyn yn llawn ac os yw'n briodol iddynt gael eu gadael adref ar eu pennau eu hunain i hunanynysu. Mae cyngor pellach ar gael.

Gall cyflogai ofyn am absenoldeb rhiant neu amser i ffwrdd i ofalu am ddibynyddion. Mater i'r cyflogwr ei esbonio yw telerau cais o’r fath a gwneud trefniadau rhesymol, a all gynnwys oriau neu leoliad hyblyg. O ystyried yr amgylchiadau eithriadol ac os bydd rhieni'n teimlo y byddai'n anniogel gadael plentyn ar ei ben ei hun, dylai'r rhieni siarad â'u cyflogwr i ofyn am amser i ffwrdd ar gyfer y sefyllfa frys hon.

Pryd fydd staff yr ysgol yn cael y brechiad?

Yng Nghymru, rydym yn gweithio i amserlen flaenoriaethu’r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI). Y JCVI yw'r corff arbenigol sy'n cynghori pob un o bedair llywodraeth y DU, ac mae'r amserlen flaenoriaethu ar gyfer brechu yr ydym yn gweithio iddi yr un fath â'r amserlen ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r JCVI wedi nodi mai'r blaenoriaethau cyntaf ar gyfer y rhaglen frechu fydd atal marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19, a diogelu staff a systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd staff ysgolion a gweithwyr allweddol eraill yn cael eu himiwneiddio yn dibynnu ar ba gategori oedran a risg y maent yn perthyn iddo. Cyhoeddir y rhestr flaenoriaethau ar y wefan.

Rwy'n gweithio mewn ysgol arbennig. A fyddaf yn cael y brechiad?

Bydd staff ysgolion sy'n gweithio mewn ysgolion arbennig neu ysgolion prif ffrwd ac sy’n darparu gofal personol i rai o'n plant mwyaf agored i niwed sydd ag anghenion meddygol cymhleth, yn cael eu cynnwys fel rhan o'r rhestr flaenoriaethau, ynghyd â gweithwyr gofal cymdeithasol, wrth gyflwyno'r brechlyn.