Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i ddysgu ac addysgu mewn ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gweithrediadau ysgol

Pa gamau sydd ar waith i sicrhau bod ysgolion yn ddiogel i ddysgwyr a staff?

Rhaid i ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda'u hawdurdod lleol ddilyn y canllawiau rhesymol, sy'n nodi'r gofynion ar gyflogwyr i gynnal asesiadau risg. I gael canllawiau ychwanegol, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Ar lefel rhybudd sero, bydd mwy o hyblygrwydd i benderfynu beth sydd ei angen i reoli risgiau. Fodd bynnag, nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac mae’n dal yn bwysig lleihau'r rhyngweithio agos rhwng unigolion i helpu i reoli lledaeniad y feirws.

A all fy mhlentyn fynychu'r ysgol os oes ganddo annwyd?

Os oes gan blentyn symptomau ysgafn tebyg i annwyd dylent barhau i fynd i'r ysgol, os yw'n gallu gwneud hynny.

Y tri phrif symptom o COVID-19 y dylech fod yn ymwybodol ohonynt yw:

  • peswch cyson newydd
  • twymyn neu dymheredd uchel
  • wedi colli eich synnwyr blasu neu arogli, neu wedi sylwi ar newid ynddynt

Os bydd eich plentyn yn datblygu un o'r symptomau hyn dylent ddilyn y canllawiau hunanynysu a dylech wneud cais am brawf coronafeirws.

Mae cadw pellter yn anodd iawn i blant iau ac i rai ag anawsterau dysgu - sut y gallwn ddisgwyl eu cadw rhag cymysgu â'u cyfoedion a'u staff addysgu?

Disgwylir i ysgolion leihau'r rhyngweithio agos rhwng pob unigolyn lle bynnag y bo modd. Dylai ysgolion hefyd annog dysgwyr hŷn i gadw pellter lle bo hynny'n bosibl.

Dylai'r holl staff gadw at y mesurau cadw pellter cyn belled ag y bo modd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl er enghraifft wrth weithio gyda dysgwyr iau.

A oes unrhyw gymorth ar gael i'r gweithlu addysg?

Mae cymorth ar gael i'r gweithlu addysg drwy'r Bartneriaeth Cymorth Addysg, sef yr elusen sydd wedi ymrwymo i gefnogi iechyd a lles staff addysg.

Mae’r Bartneriaeth wedi bod yn datblygu adnoddau digidol i ddarparu cymorth pellach i staff addysg yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Mae'r rhain yn seiliedig ar themâu allweddol, fel gorbryder, galar ac ynysigrwydd. 

Mae cymorth emosiynol cyfrinachol hefyd ar gael 24/7 drwy'r Bartneriaeth ar gyfer pob aelod o staff addysg. Ffoniwch eu llinell gymorth cwnsela ar 08000 562561 neu ewch i wefan y Bartneriaeth. Gall y Bartneriaeth hefyd ddarparu cymorth ariannol drwy ei gwasanaeth grantiau.

Pan fo staff yn darparu cymorth unigol neu gymorth grŵp i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA), a all ysgolion ad-drefnu'r amserlen gymorth er mwyn lleihau'r rhyngweithio agos rhwng unigolion?

Mae dyletswyddau a rhwymedigaethau statudol awdurdodau lleol ac ysgolion mewn perthynas ag AAA yn aros yn ddigyfnewid ac mewn grym, gan gynnwys y ddyletswydd i drefnu darpariaeth fel y nodwyd mewn datganiad. Bydd hyn yn parhau pan fydd y Ddeddf ADY yn dechrau cael ei gweithredu, gan nad yw plant â datganiadau yn trosglwyddo i'r system ADY yn y flwyddyn gyntaf o weithredu.

Yn unol â chanllawiau blaenorol, byddem yn annog dull ymarferol a hyblyg o sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu. Dylid ystyried hyn fel rhan o unrhyw asesiad risg. Er enghraifft, gall fod yn briodol amserlennu a threfnu cymorth un i un dros gylch hirach, er mwyn cynnal lefelau cyffredinol o gymorth wrth leihau'r rhyngweithio agos rhwng unigolion.

Er na chynghorir ysgolion i gynnal grwpiau cyswllt o fis Medi ymlaen, rydym yn cydnabod y bydd rhai ysgolion am deilwra'r ddarpariaeth ar gyfer rhai disgyblion ag anghenion addysgol arbennig o ganlyniad i anghenion iechyd penodol a nodwyd fel rhan o'r broses asesu risg.

Dylai ysgolion barhau i ymgynghori â rhieni a gofalwyr ynghylch anghenion cymorth penodol, gan ddefnyddio eu disgresiwn yn hyblyg wrth gytuno ar y ffordd ymlaen i ddysgwyr penodol.

Beth yw'r trefniadau ar gyfer prydau ysgol am ddim?

Disgwyliad Llywodraeth Cymru yw y bydd darpariaeth arlwyo ysgolion/awdurdodau lleol yn dychwelyd i drefniadau cyn COVID-19, oni bai bod amgylchiadau a allai atal hyn. Dylai dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu sy’n cael eu hamddiffyn wrth bontio, gael pryd o fwyd am ddim bob dydd y byddant yn bresennol. Bydd disgwyl i ddysgwyr eraill dalu am eu prydau o hyd.

Gall awdurdodau lleol wneud cais am dreuliau ychwanegol yr eir iddynt wrth ddarparu prydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy'n hunanynysu drwy Gronfa Caledi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, hyd at uchafswm o £3.90 y disgybl y dydd. Bydd disgwyl iddynt ddangos eu bod wedi gwrthbwyso eu hawliadau yn erbyn cyllidebau presennol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, hyd at ddiwedd 2021-22. Unwaith eto, gall awdurdodau lleol hawlio hyd at uchafswm o £3.90 y disgybl y dydd o Gronfa Caledi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

A ellir cynnal gweithgareddau dan oruchwyliaeth i blant?

Gellir. Nid oes cyfyngiad ar nifer y plant a'r plant ifanc sy'n gallu mynychu'r gweithgareddau hyn, ond dylai trefnwyr fod yn ymwybodol o'r lle sydd ar gael. Mae dyletswydd ar drefnwyr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal mewn modd sy’n lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

A ellir cynnal gwersi Addysg Gorfforol ymarferol?

Gellir - mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i benderfynu sut y darperir addysg gorfforol, chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan weithio o fewn y mesurau sydd ar waith yn yr ysgol. Dylid blaenoriaethu gweithgarwch awyr agored lle bynnag y bo modd.

A ellir cynnal gemau chwaraeon rhwng ysgolion?

Gellir cynnal digwyddiadau a reoleiddir dan do ac yn yr awyr agored yn awr. Mae hyn yn cynnwys gemau chwaraeon tîm.

Os ydych yn ystyried trefnu gêm chwaraeon, sicrhewch fod y trefniadau hyn yn cael sylw yn yr asesiadau risg perthnasol a'ch bod yn cymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Dylech hefyd sicrhau eich bod yn nodi unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol ar gyfer y gamp dan sylw.

Rwyf i fod i fynd ar brofiad gwaith yn fuan fel rhan o fy nghwrs ysgol neu goleg - a fydd hynny'n dal i fynd yn ei flaen?

O fis Medi ymlaen, penderfyniad lleol fydd hwn ac ysgolion a cholegau fydd yn gyfrifol am ei wneud, gyda chefnogaeth swyddogion iechyd cyhoeddus ac awdurdodau lleol, yn dibynnu ar lefel y risg a nodwyd yn lleol. Bydd eich ysgol neu goleg yn gallu rhoi gwybod i chi a all eich profiad gwaith fynd yn ei flaen bryd hynny.

A ddylai ysgolion a cholegau fod yn cynnal nosweithiau rhieni a nosweithiau agored?

Rhaid i awdurdodau lleol, cyflogwyr ac ysgolion amddiffyn pobl rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau rhesymol i amddiffyn staff, dysgwyr ac eraill rhag COVID-19 yn y lleoliad.

Mae'n ofyniad cyfreithiol y dylai ysgolion/lleoliadau gynnal asesiad risg, fel y nodir yn ein canllawiau. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i ystyried y risgiau a'r mesurau rheoli ychwanegol i'w rhoi ar waith os yw digwyddiadau fel nosweithiau rhieni a nosweithiau agored i'w cynnal.

Rwy'n diwtor preifat. A allaf ddarparu gwersi wyneb yn wyneb yn fy nghartref neu yng nghartref disgybl?

Caniateir ichi gynnal sesiynau tiwtora wyneb yn wyneb yn eich cartref eich hun neu yng nghartref rhywun arall.

Byddem yn disgwyl i asesiad risg gael ei gynnal a bod mesurau i ddiogelu'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael eu rhoi ar waith.

Efallai y bydd tiwtoriaid hefyd am ystyried opsiynau dysgu o bell i ddisgyblion.

I bwy y dylwn roi gwybod os ydw i neu fy mhlentyn wedi arddangos symptomau o COVID-19? 

Dylai plant sy'n dangos symptomau Covid-19 aros gartref, a chynghorir rhieni i drefnu prawf a sicrhau y glynir wrth ganllawiau hunanynysu. Os daw'r prawf yn ôl yn gadarnhaol, bydd y system olrhain cysylltiadau yn dechrau ar gyfer yr achos hwnnw.

Nid yw'n ofynnol i blant ddarparu tystiolaeth o unrhyw brawf negyddol wrth ddychwelyd i'r ysgol.

Mae fy mhlentyn wedi cael ei nodi fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â COVID ac wedi cael ei gynghori i gymryd prawf PCR - a all fynychu'r ysgol / gofal plant?

Gall fynychu'r ysgol neu ofal plant.

Argymhellir i blant pum mlwydd oed ac uwch wneud prawf PCR ar ddiwrnod 2 ac 8.

Os yw eich plentyn o dan 5 oed (0-4 oed), nid oes angen profi asymptomatig mwyach. Mae hyn hefyd yn cynnwys profion PCR ar gyfer y rhai sy'n gysylltiadau agos ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8. Fodd bynnag, gall rhieni barhau i gael profion PCR ar gyfer plant o dan 5 oed os ydynt yn pryderu.

Mae fy mhlentyn o dan pum mlwydd oed ac â symptomau beth ydw i’n gwneud?

Os oes gan eich plentyn unrhyw un o’r prif symptomau COVID dylai beidio â mynd i’r ysgol neu leoliad gofal plant. Dim ond pan fod ei holl symptomau wedi stopio y dylai fynd i’r ysgol neu leoliad gofal plant.

Os yw eich meddyg wedi ei argymell neu os ydych yn teimlo ei fod yn angenrheidiol ac er budd eich plentyn gallwch barhau i archebu prawf PCR yn y ffordd arferol.

A fydd athrawon ac ymarferwyr y mae angen iddynt hunanynysu yn dal i gael eu talu ac yn gallu gweithio gartref?

Os na all athrawon neu aelodau eraill o staff fynd i'r gwaith gan fod rhaid iddynt hunanynysu, dylent siarad â'u cyflogwr a chytuno ar drefniadau rhesymol ar gyfer gweithio gartref, os gallant wneud hynny. Bydd athrawon nad ydynt yn gallu mynd i’r gwaith yn cael eu talu fel arfer.

A oes rheidrwydd ar asiantaethau staff cyflenwi i ddarparu canlyniadau profion llif unffordd ar gyfer eu staff?

Mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith na ddylid ystyried y polisi profi ar gyfer ysgolion yng Nghymru fel polisi 'profi i alluogi' neu 'brofi i ddychwelyd' ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb - nid yw'n amod o ddychwelyd i addysg nac yn ofyniad i unrhyw un sy'n dod i safle'r ysgol. Dewis yr unigolyn yn llwyr yw p'un a i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn ai peidio.

A oes adnoddau addas i ddysgwyr sy'n egluro sut mae defnyddio'r profion llif unffordd?

Oes. Gellir cael gafael ar y rhain drwy Fanciau Asedau'r Cynnig Profi.

Olrhain cysylltiadau ysgol

Mae fy mhlentyn wedi cael ei nodi fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â’r coronafeirws ac wedi cael ei gynghori i gymryd prawf PCR - a all fynychu'r ysgol?

Bydd profion PCR yn cael eu cynnig i unrhyw un sy'n cael ei adnabod fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun â’r coronafeirws - nid yw'r rhain yn orfodol ond fe'u hargymhellir. Os nad oes gan eich plentyn symptomau ac nad yw wedi cael cyngor i aros adref/hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, yna gall fynychu'r ysgol. Dylai unrhyw un sy’n profi'n bositif am COVID-19 neu sydd ag unrhyw un o symptomau COVID-19 hunanynysu a pheidio â mynychu'r ysgol.

Os yw fy mhlentyn wedi’i nodi fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun â’r coronafeirws ac nad yw'n cymryd prawf PCR, a oes angen iddo ynysu?

Os nad oes gan eich plentyn symptomau ac nad yw wedi cael cyngor i aros adref/hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, yna gall fynychu'r ysgol. 

A fydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â phlant neu’n eu cyfweld?

Ar gyfer dysgwyr sydd o dan 16 oed, bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn eu cyfweld gyda chynrychiolydd (rhiant neu warcheidwad cyfreithiol). 

Pa wybodaeth fydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn ei chasglu i nodi pobl sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun â’r coronafeirws?

Mewn trafodaeth â'r plentyn (a'i riant neu warcheidwad cyfreithiol) bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn casglu gwybodaeth gan y rhai sydd wedi profi’n positif am eu gweithgarwch a'r lleoliadau y maent wedi ymweld â hwy, gan gynnwys lleoliadau cymdeithasol, clybiau chwaraeon a chlybiau ar ôl ysgol a chludiant yn ystod eu cyfnod heintus ac â phwy y gallant fod wedi bod mewn cysylltiad â hwy. Gofynnir iddynt ddarparu manylion cyswllt, os ydynt yn eu hadnabod, unrhyw un o'r unigolion y nodwyd eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw. Yna bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â'r cysylltiadau agos hyn ac yn darparu cyfarwyddiadau neu gyngor priodol. Efallai y bydd angen i’r gwasanaeth gysylltu â'r ysgol i gael rhai manylion cyswllt. Dyma'r dull y mae swyddogion olrhain cysylltiadau yn ei ddefnyddio ar gyfer gweddill y gymdeithas ac maent wedi datblygu arbenigedd i gefnogi pobl i nodi eu cysylltiadau agos.

Sut bydd olrhain cysylltiadau yn gweithio i blant oedran ysgol gynradd a'r rhai ag anawsterau dysgu?

Ni fydd asesiad unigol o'r holl gysylltiadau yn bosibl gyda phlant iau a fydd yn llai abl i ddweud yn ddibynadwy gyda phwy y maent wedi bod mewn cysylltiad. Felly, bydd olrhain cysylltiadau ar gyfer plant mewn ysgolion cynradd yn canolbwyntio ar grwpiau cyfeillgarwch agos ac unrhyw gysylltiadau cymunedol y mae'r rhiant neu'r gwarcheidwad yn ymwybodol ohonynt.

Gall asesiad unigol o'r holl gysylltiadau hefyd fod yn anodd gyda phlant sydd ag anawsterau dysgu. Bydd olrhain cysylltiadau yn canolbwyntio ar grwpiau cyfeillgarwch agos ac unrhyw gysylltiadau cymunedol y mae'r rhiant neu'r gwarcheidwad yn ymwybodol ohonynt.

Os yw'r plentyn/ei gynrychiolydd yn nodi lleoliad addysg fel lleoliad lle daethpwyd i gysylltiad â’r coronafeirws, yna bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â'r lleoliadau i gynghori y dylid anfon llythyrau rhybuddio a hysbysu wedi'u targedu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni a staff am y sefyllfa a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud.

Beth yw'r broses olrhain cysylltiadau ar gyfer unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol?

Mae canllawiau i bobl, gan gynnwys plant, sy'n wynebu risg uchel iawn o ddatblygu salwch difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â'r coronafeirws, gan fod ganddynt gyflwr iechyd difrifol iawn yn barod, ar gael yma.

Ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth ychwanegol – megis plant sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau – gweithio gyda’r awdurdod lleol yn ogystal â gyda rhieni i benderfynu beth yw’r ffordd orau o barhau i helpu’r plant hyn i aros yn iach.

Beth yw rôl yr ysgol o fewn y broses olrhain cysylltiadau?

Gofynnir i ysgolion gefnogi timau’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu drwy sicrhau bod gwybodaeth graidd ar gael gan gynnwys gwybodaeth am staff, manylion cyswllt plant ac ymwelwyr, cofnodion presenoldeb ac unrhyw wybodaeth am grŵp cyfeillgarwch uniongyrchol dysgwyr. Rôl y gwasanaeth yw nodi pa unigolion sy'n bodloni'r diffiniad o gyswllt agos a phwy, os o gwbl, fyddai’n gorfod hunanynysu. Dim ond pan fydd y sawl sydd wedi profi’n positif yn nodi bod yr unigolyn wedi bod mewn cysylltiad agos ag ef y bydd cysylltiadau ysgol yn cael eu holrhain. Mae’n debygol mai nifer bach o unigolion fyddai fwyaf tebygol o ddal COVID-19 oherwydd natur y cyswllt. Fodd bynnag, gellir cynghori'r ysgol i gymryd ymagwedd ‘rhybuddio a hysbysu’ i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni/gofalwyr a staff am y sefyllfa a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud, yn seiliedig ar gyngor y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu.

Pa gyngor sy’n cael ei roi o dan y dull ‘rhybuddio a hysbysu’?

Mae'r dull rhybuddio a hysbysu yn atgyfnerthu negeseuon allweddol am y risg y mae COVID-19 yn ei hachosi i eraill a'r hyn y gellir ei wneud i leihau'r risg hon, ee, drwy barhau i fod yn wyliadwrus am symptomau newydd, cael trothwy isel ar gyfer ceisio prawf hyd yn oed gyda symptomau ysgafn, ac osgoi cyswllt â theulu a ffrindiau sy'n agored i niwed yn y tymor byr (ee, perthnasau oedrannus neu'r rhai sy'n wynebu risg uwch o haint COVID-19 difrifol). Bydd cysylltiadau a nodwyd hefyd yn cael cynnig profion PCR.

Addysgu a dysgu

Beth yw'r cynlluniau tymor hirach i helpu i ddelio â'r bwlch o ran cyrhaeddiad a dysgu yn sgil y pandemig ac i helpu dysgwyr i ddal i fyny?

Ar 16 Mehefin, cyhoeddwyd ein cynllun adnewyddu a diwygio, yn nodi sut y byddwn yn targedu buddsoddiad ychwanegol o £150 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2021-22 i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr wrth i ni reoli ein hadferiad yn dilyn y coronafeirws.

Mae'r cynllun Adnewyddu a Diwygio yn dwyn ynghyd yr ymyriadau a'r mentrau llwyddiannus a ddefnyddiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn adeiladu arnynt, gan gynnwys cadw a chefnogi mwy na 1,800 o staff cyfwerth ag amser llawn a recriwtiwyd o dan y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.

Mae'r cynllun hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad i les ac iechyd meddwl dysgwyr ac ymarferwyr; yn cefnogi dysgwyr i wneud y cynnydd sydd ei angen arnynt; ac yn mynd i'r afael ag effeithiau addysgol anghydraddoldeb sydd wedi'u hamlygu gan y pandemig. Bydd hyn yn cryfhau sylfeini dysgu wrth i ni symud ymlaen i'r camau nesaf yn ein cenhadaeth genedlaethol.

Mae'r cynllun hwn yn nodi'r fframwaith a'r cyllid sydd ar gael i'n galluogi ni i gydweithio â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i adeiladu ar y cynllun hwn wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y cynllun adnewyddu a diwygio.

Gorchuddion wyneb

Beth yw'r canllawiau presennol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion?

Nid ydym bellach yn argymell defnyddio gorchuddion wyneb yn rheolaidd yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer staff na dysgwyr. Efallai y bydd ysgolion am annog eu defnydd mewn ardaloedd lle mae'n debygol y bydd mwy o gymysgu cymdeithasol, megis mewn ardaloedd cymunedol.

Fel rhan o'u proses asesu risg, bydd ysgolion yn gallu penderfynu a yw'r defnydd o orchuddion wyneb ar gyfer staff neu ddysgwyr uwchradd yn briodol yn seiliedig ar eu hamgylchiadau eu hunain, gyda chefnogaeth swyddogion iechyd y cyhoedd, ac mewn trafodaeth ag awdurdodau lleol.

Dylai dysgwyr mewn ysgolion uwchradd barhau i wisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar drafnidiaeth ysgol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r gofyniad parhaus i bob teithiwr 11 oed a throsodd wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw hyn yn berthnasol i blant iau mewn ysgolion cynradd ac mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Os oes unrhyw un yn dymuno gwisgo gorchudd wyneb am resymau personol unrhyw le yn yr ysgol, dylid caniatáu iddynt wneud hynny. Gall hyn helpu i gefnogi eu lles ehangach, lleihau gorbryder a rhoi sicrwydd ychwanegol i rai unigolion ochr yn ochr â mesurau lliniaru eraill.

Dylai ymwelwyr i’r ysgol holi’r ysgol beth yw eu polisi ar ddefnydd o orchuddion wyneb i ymwelwyr.

Brechiadau

Ble alla i ddod o hyd i wybodaeth am frechiadau?

Yng Nghymru, rydym yn gweithio i amserlen flaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Y Cyd-bwyllgor hwn yw'r corff arbenigol sy'n cynghori pedair llywodraeth y DU, ac mae'r amserlen flaenoriaethu brechu yr ydym yn gweithio iddi yr un fath â'r amserlen ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae rhagor o wybodaeth a diweddariadau ar ein strategaeth frechu ar gael.

Profi

O ble fedra i gael profion llif unffordd?

Gall dysgwyr neu staff ddefnyddio unrhyw brawf sydd ganddynt yn eu tai yn barod. Os nad, gallant archebu ar-lein, casglu o’u fferyllfa neu safle casglu lleol.

Yn ystod y tymor, os ydych yn mynychu neu’n gweithio mewn ysgol, goleg neu feithrinfa, byddwch yn cael profion cyflym drwy eich ysgol, coleg neu feithrinfa.

Mae modd parhau i brofi’n gyson yn ystod gwyliau'r ysgol os hoffech wneud hynny. Gallwch gael gafael ar brofion drwy’r dulliau y sonnir amdanynt yn sut i gael profion llif unffordd.

Nid oes angen i blant oed cynradd ac iau gael eu profi.

Pa mor aml dylwn i gymryd prawf?

Cynghorir chi i gymryd prawf ddwywaith yr wythnos a chofnodi’r canlyniadau.

Sut ydw i’n cofnodi fy nghanlyniadau?

Mae'n bwysig cofnodi canlyniad eich prawf – positif, negatif neu annilys - cyn gynted ag y bo modd.. Gallwch gofnodi eich canlyniadau ar GOV.UK neu drwy ffonio 119. Mae'n golygu bod achosion newydd yn cael eu nodi a’n helpu ni i ddeall sut mae'r profion yn cael eu defnyddio.

Dylai holl staff sy’n cymryd rhan yn y cynllun profi adrodd am unrhyw ganlyniadau gan ddewis ‘mae ar gyfer darparwr addysg’ heblaw os nad yw wedi’i restru. Mae hwn yn cynnwys lleoliadau gofal plant a gofalwyr plant. Ar gyfer staff peripatetig a staff arall sy’n cefnogi addysg a gofal plant, gofynnwn i chi ddilyn yr un daith hunan-adrodd a dechrau teipio eich awdurdod lleol yn y bocs testun, a dewis un ai staff peripatetig neu deithio. Os nad yw’n addas, gofynnwn i chi ddewis ‘Nid yw wedi’i restru’ pan ofynnir ‘Dywedwch wrthym am y gwaith’.

Profi fel cyswllt cartref neu ysgol

Beth yw Diwrnod 2 ac 8?

Ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a colegau sydd wedi dod i gyswllt ag achos positif ar yr aelwyd, mae Diwrnod 2 ac 8 yn cyfeirio at nifer y dyddiau ar ôl i aelod o'r aelwyd brofi'n positif. Er enghraifft, pe byddai aelod o'r aelwyd yn profi'n bositif ar ddydd Llun, dydd Mawrth fyddai Diwrnod 2 a dydd Llun yr wythnos ganlynol fyddai Diwrnod 8.

Oes rhaid i mi wneud 2 brawf ar Ddydd 2?

Argymhellir i ddysgwyr ysgol uwchradd ac addysg bellach sydd o dan 18 i ddefnyddio prawf LFD bob bore am 7 diwrnod os oes aelod o’u haelwyd yn profi’n bositif. Mae hwn yn ogystal â’r prawf PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.

Bydd hwn yn debygol o olygu eich bod yn gwneud prawf LFD yn y bore a phrawf PCR yn hwyrach yn y dydd ar Diwrnod 2.

Nid oes unrhyw brawf yn berffaith felly argymhellir profi yn y ffordd hon i helpu adnabod unrhyw un all fod yn heintus cyn i chi adael y tŷ yn y bore, a defnyddir y PCR oherwydd ei fod yn brawf sensitif iawn, wedi’i berfformio mewn labordy felly gall ddarganfod achos positif all fod wedi’i fethu gan y prawf LFD.

Os yw fy mhlentyn wedi’i nodi fel rhywun sydd wedi dod i gyswllt â rhywun â COVID a ddim yn cymryd prawf PCR, a oes angen iddynt ynysu?

i’r rheiny sydd dan 18 oed hunanynysu os ydynt yn dod i gysylltiad agos â rhywun â COVID

Os bydd eich plentyn yn mynychu ysgol uwchradd neu goleg ac wedi dod i gysylltiad ag achos positif ar yr aelwyd, cynigir PCR ar ddiwrnod 2 & 8. Os ydynt wedi profi’n bositif am COVID yn y 90 diwrnod diwethaf, ni argymhellir iddynt brofi gan ddefnyddio PCR.

Rydw i wedi profi’n bositif ar gyfer COVID o’r blaen. Oes angen i fi gymryd prawf os ydw i wedi cael fy adnabod fel cyswllt?

Nid ydym yn argymell defnyddio profion PCR os nad yw’r person wedi’u cadarnhau yn bositif drwy brawf PCR yn y 90 diwrnod diwethaf.

Os ydych yn ddysgwr mewn ysgol uwchradd a bod aelod o’ch aelwyd wedi profi’n bositif, dylech barhau i ddefnyddio profion LFD nes bod 7 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r aelod o’ch haelwyd brofi’n bositif – hyd yn oed os ydych wedi dioddef o COVID yn y 90 diwrnod diwethaf.

Profion Newidiadau o 11 Hydref

Pam nad yw'r newidiadau o rhan dysgwyr mewn ysgolion uwchradd lle bo aelod o’u haelwyd yn profi’n bositif yn berthnasol i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd hefyd?

Hoffem brofi llai ar blant heb symptomau. Nid yw cyfraddau heintio ymysg plant oedran cynradd mor uchel â phlant oedran uwchradd. Ni fyddai'n briodol nac yn gymesur cynnwys disgyblion oedran cynradd, sy'n anghyfarwydd â threfn ac effaith profion rheolaidd.

Pam na argymhellir profi plant o dan 5 oed bellach?

Mae plant o dan 5 oed yn aml yn pryderu ynghylch y broses brofi, gan olygu y gall fod yn anodd iawn cael sampl, gan achosi gofid i rieni a gofalwyr. Hefyd, nid yw plant o dan 5 oed chwaith yn lledaenu COVID yn yr un modd ag oedolion nac yn yr un modd ag yr ystyrir bod plant ifanc yn lledaenu annwyd a'r ffliw. Mae gan blant gyrff bach, ysgyfaint bach a chapasiti anadl bach. Felly, hyd yn oed os ydynt wedi'u heintio â'r feirws, ni allant ei ledaenu i eraill yn yr un modd ag y byddai person ifanc hŷn neu oedolyn yn ei wneud.

A yw'n ofynnol i mi hunanynysu os ydw i'n cael fy adnabod fel rhywun sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â’r coronafeirws os ydw i’n gweithio gyda dysgwyr sy’n agored i niwed?

Gall pob aelod o staff sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg ac sy'n gweithio'n agos yn gorfforol at ddysgwyr sydd â risgiau clinigol uwch, gymryd profion cyn dychwelyd i'r gwaith. Bydd meini prawf ar gyfer dychwelyd i staff yn cael ei amlinellu mewn rhestr wirio ar gyfer asesu risgiau, a fydd yn cael ei dosbarthu i leoliadau yn uniongyrchol.

Bydd y profion yn cynnwys un prawf PCR ac yna profion LFD dyddiol nes bod 10 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r unigolyn gael gwybod ei fod wedi bod mewn cysylltiad ag achos a gadarnhawyd, neu 10 diwrnod o'r adeg y cadarnhawyd bod aelod o'i aelwyd yn bositif.

A oes angen i fy mhlentyn gymryd 7 prawf llif unffordd os yw wedi’i frechu ac yn dod i gysylltiad ag achos positif ar yr aelwyd?

Oes, gall pobl sydd wedi'u brechu barhau i ddal COVID ac mae modd iddynt drosglwyddo’r feirws yn yr un modd â phobl heb eu brechu.