Mae ysgol yng Nghasnewydd sy'n arwain y ffordd o ran gwella cyfleoedd i blant yn y gymuned leol wedi'i chanmol gan un o Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Aeth y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies i Ysgol Gynradd Millbrook ym Metws i weld drosto'i hun y gwaith mae'r ysgol wedi'i wneud yn rhan o fenter Llywodraeth Cymru, sef Plant yn Gyntaf.
Diben Plant yn Gyntaf yw dwyn ynghyd sefydliadau i gydweithio â'i gilydd i wella deilliannau i blant a phobl ifanc yn seiliedig ar 'le' penodol. Mae ffocws strategol hirdymor wrthi'n cael ei ddatblygu gyda chymunedau i fynd i'r afael â materion lleol, i leihau'r anghydraddoldeb rhwng y plant o'u cymharu â phlant mewn llefydd sydd â mwy o fanteision yn gymdeithasol, a gwella eu cyfleoedd mewn bywyd.
Ym Metws, y 'lle' hwnnw yw Ysgol Gynradd Millbrook. Mae'r ysgol yn gweithio fel canolbwynt ar gyfer ardal arloesi Plant yn Gyntaf. Mae'r ysgol wedi sefydlu ei hun fel cymuned sy'n dysgu ar gyfer plant ac mae ganddi hanes o weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau statudol ac anstatudol i wella deilliannau i blant.
Mae llawer o wasanaethau wedi'u lleoli ar safle'r ysgol gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol Prevent, Heddlu Gwent, yn ogystal â gwasanaethau sy'n cael eu darparu o dan raglenni Llywodraeth Cymru sef Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant:
"Roedd hi'n fraint cael ymweld ag Ysgol Gynradd Millbrook heddiw.
"Fel y Gweinidog Plant, rwyf am sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechreuad gorau posib mewn bywyd. Tra bo addysg yn gwbl hanfodol i ddatblygiad plentyn, yn aml mae angen gwasanaethau arnyn nhw sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
"Dyna'r rheswm pam yr aeth Llywodraeth Cymru ati i ddatblygu Plant yn Gyntaf. Y diben yw rhoi yn eu lle, mewn un lle, y gwasanaethau hynny sydd eu hangen ar blant, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach, i lwyddo.
"Drwy roi plant yn gyntaf, mae Ysgol Gynradd Millbrook yn arwain y ffordd drwy sicrhau bod disgyblion yn datblygu sgiliau gydol oes a bod ganddyn nhw'r sgiliau i'w galluogi i chwarae eu rhan yn nyfodol Cymru."