Mae’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Cwm Glas yn Abertawe i gyflwyno Gwobr Ansawdd Genedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach.
Mae'r clod mawr hwn yn gwobrwyo "ysgolion iach" sy'n cymryd cyfrifoldeb dros gynnal a hybu iechyd pob un sy'n dysgu, gweithio, chwarae a byw ynddi.
Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw'r wobr orau y gall ysgol ei chael drwy Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy'n cael eu rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog:
“Dw i wrth fy modd o gyflwyno'r wobr hon i Ysgol Cwm Glas.
“Mae'r ysgol wedi gweithio'n galed iawn i gyrraedd y safonau gofynnol i hybu iechyd a llesiant ei disgyblion a'r staff.
“Mae pob un yn cael ei annog ac yn cael ei addysgu am y materion sy'n effeithio ar ei iechyd, fel deiet, ymarfer corff a pha mor bwysig yw peidio â smygu
“Dw i'n falch iawn o gyflwyno'r plac hwn i Ysgol Cwm Glas i gydnabod ei hymrwymiad i iechyd a lles ei chymuned. Gwych iawn!”
Dywedodd Mrs Osborne, Pennaeth Ysgol Gynradd Cwm Glas:
"Rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn ers blynyddoedd ar y cynllun hwn ac rydyn ni'n falch iawn o'n llwyddiant. Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb waith caled Mrs Williams a'r tîm o staff rhagorol, yn ogystal â rheolwyr, rhieni a disgyblion Ysgol Gynradd Cwm Glas."
Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn cael ei hasesu'n annibynnol pan fydd ysgol wedi bod yn rhan o’r cynllun am naw mlynedd. Mae'n cael ei rhoi i ysgolion sydd wedi profi eu bod nhw'n rhoi iechyd a lles aelodau ei chymuned wrth galon popeth.
Mae hyn hefyd yn golygu addysgu disgyblion sut i fyw bywydau iach a galluogi disgyblion a staff i reoli pob agwedd ar amgylchedd yr ysgol sy'n dylanwadu ar eu hiechyd.
Mae Ysgol Cwm Glas yn hawlio ei lle fel ysgol rhif 128, a'r ail ysgol yn Abertawe, i ennill gwobr Ansawdd Genedlaethol. Mae 130 o ysgolion yng Nghymru wedi ennill y wobr hyd yma.
Dywedodd Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae hwn yn llwyddiant arbennig i Ysgol Gynradd Cwm Glas! Mae ennill ein prif wobr iechyd wedi golygu llawer iawn o waith caled ac ymrwymiad gan y disgyblion, y staff a’r rhieni fel ei gilydd.
“Mae pawb yng Nghwm Glas yn haeddu’r gydnabyddiaeth bwysig hon am eu hymrwymiad i wneud yn siŵr bod iechyd a llesiant yn rhan annatod o ddiwylliant a gwead yr ysgol.”