Bydd dysgwyr o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol F1 mewn Ysgolion y byd ar ôl i'r faner sgwariog gael ei chwifio a'u gwneud yn bencampwyr Cymru yng nghystadleuaeth y DU.
Gan ddatblygu eu sgiliau STEM, mae cystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn annog dysgwyr i ddylunio a chynhyrchu car F1 bach drwy ddefnyddio meddalwedd dylunio a thechnegau gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur (CAD / CAM). Y nod yw creu'r car cyflymaf posibl, a chaiff y timau eu hasesu hefyd ar sail y gwaith dylunio a'r beirianneg, eu cyflwyniad llafar a'u harddangosfa o'r prosiect.
Dechreuodd Tîm Hypernova, sef chwe disgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, eu taith F1 mewn Ysgolion bedair blynedd yn ôl. Yng nghystadleuaeth y DU eleni, taranodd Hypernova drwy eu cystadleuaeth gan ennill yr amser trac cyflymaf, sef 1.267 eiliad. Fe wnaethon nhw hefyd ennill y Wobr Noddi a Marchnata ar gyfer y Dosbarth Proffesiynol ac fe'u henwebwyd ar gyfer y Wobr Rheoli Prosiect.
Dywedodd Carys, rheolwr prosiect Hypernova:
Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon wir wedi bod yn werth chweil. Mae wedi bod yn hwyl gweithio fel tîm, ac mae wedi fy ngalluogi i i ddysgu sut i addasu i anghenion gwahanol aelodau’r tîm. Mae’r gystadleuaeth hon wedi dangos imi fy mod i’n mwynhau pynciau STEM, yn enwedig yr ochr gyfathrebu. Dw i’n bwriadu astudio meddygaeth, ac oni bai am y profiad hwn, mae’n debygol na fyddwn i wedi ystyried hynny fel gyrfa.
Dyma’r tro cyntaf hefyd imi fynd dramor, a dw i’n teimlo mor gyffrous. Mi fydd yna dimau yn cystadlu o bob rhan o’r byd, a bydd yn braf cysylltu â nhw ynghylch y pynciau rydyn ni’n teimlo’n angerddol yn eu cylch. Ni yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i gystadlu, ac mae’n destun balchder i ni ein bod ni’n gallu hyrwyddo’r iaith a dangos bod Cymru yn gallu gwneud yn dda ym maes STEM.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Dw i'n hynod falch o'n dysgwyr a'r gwaith caled y maen nhw wedi'i wneud ar gyfer y gystadleuaeth hon, a dw i am eu llongyfarch yn galonnog. Mae STEM yn chwarae rhan bwysig iawn yng Nghymru, ac mae hon yn ffordd wych a chyffrous i ddysgwyr wella eu sgiliau. Dw i'n dymuno'r gorau iddyn nhw yn rownd derfynol y byd. Pob lwc!
Mae cystadleuaeth ysgolion uwchradd F1 mewn Ysgolion yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru.