Bydd ysgol gynradd newydd gwerth £5.1m yn rhoi’r dechrau gorau posibl i fywydau plant Maesgeirchen, Bangor meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw.
Roedd y Prif Weinidog yn ymweld â safle’r Ysgol Glancegin newydd sy’n cael ei hadeiladu wrth ochr yr ysgol bresennol. Mae’r ysgol newydd yn cael ei hariannu ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Dechreuodd y gwaith adeiladu yn yr haf, ac mae disgwyl i’r ysgol newydd agor ym mis Medi 2017. Bydd y datblygiad yn sicrhau’r amgylchedd dysgu gorau posib, gan gynnwys gofod dysgu yn yr awyr agored ac ardaloedd chwarae newydd a fydd yn helpu datblygiad plant ar draws pob rhan o’r cwricwlwm.
Bydd yr adeilad newydd hefyd yn darparu gwell amgylchedd ar gyfer gofal bugeiliol i ddisgyblion a theuluoedd.
Yn ystod ei ymweliad, fe gafodd y Prif Weinidog gyfle i gyfarfod rhai o ddisgyblion yr ysgol sydd wedi cyfrannu at y cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae wedi bod yn bleser cael bod yma heddiw ym Maesgeirchen i weld y datblygiad gwych hwn a fydd yn fanteisiol iawn i ddisgyblion, athrawon a rhieni. Mae’n dda gweld canlyniad ein buddsoddiad mewn ysgolion ar lawr gwlad.
“Gyda’r ysgol newydd drws nesa i’r ysgol bresennol, gall y disgyblion gadw llygad ar y datblygiadau, ac roedd yn dda gweld eu bod nhw wedi cyfrannu at y cynlluniau ar gyfer yr ysgol.
“Bydd y disgyblion a’r athrawon yn elwa o’r datblygiad newydd hwn, ond ar ben hynny, bydd y gymuned ehangach yn elwa hefyd gan ei fod yn brosiect adeiladu mawr sy’n creu swyddi a chyfleoedd i gyflenwyr lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:
“Fel Cyngor, rydyn ni’n awyddus iawn i sicrhau bod plant o fewn cymunedau ar draws y wlad, ble bynnag maen nhw’n byw, yn gallu cyrraedd at yr adnoddau addysg gorau posib.
“Felly mae’n wych gweld y gwaith yn symud ymlaen mor dda ar y prosiect i adeiladu’r Ysgol Glancegin newydd. Gyda buddsoddiad o dros £5 miliwn, pan fydd yr ysgol yn agor ei drysau yn 2017, bydd plant yr ardal hon o Fangor yn gallu manteisio ar amgylchedd dysgu modern ac ardal newydd i chwarae a dysgu yn yr awyr agored.”