Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd sbon yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae £3.9 miliwn wedi’i ddyfarnu i Gyngor Caerdydd, tuag at gyfanswm cost y prosiect o £7.8 miliwn, i adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda lle i 420 o ddisgyblion ar Lewis Road, Sblot (Maltings Park). Bydd yno hefyd 80 lle yn y feithrinfa.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n wych o beth bod gennym y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif i ymateb i’r twf hwnnw mewn ffordd sydd wedi’i chynllunio.

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod plant mewn cymunedau ledled y wlad yn cael mynediad at yr adnoddau addysgol gorau posibl. Caiff plant yn yr ardal hon o Gaerdydd fanteisio ar amgylchedd dysgu hollol fodern, ynghyd ag ardal chwarae ac addysgu awyr agored newydd sbon.

“Nid y disgyblion a’r athrawon fydd yr unig rai fydd yn gallu manteisio ar y datblygiad newydd hwn – bydd o fudd i’r gymuned gyfan, gan greu cyflogaeth a chyfleoedd i gyflenwyr lleol.”