Heddiw, wrth ymweld ag Ysgol Feddygol annibynnol newydd Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths fod y paratoadau ar gyfer croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr a fydd yn astudio yno yn mynd rhagddynt yn dda.
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 140 o fyfyrwyr y flwyddyn i astudio yn yr ysgol feddygol a'r bwriad yw i'r 80 cyntaf ddechrau ym mis Medi y flwyddyn nesaf.
Yn ystod ei degawd cyntaf, bydd Ysgol Feddygol newydd y Gogledd yn derbyn cannoedd o fyfyrwyr meddygol ac yn eu hyfforddi drwy lwybr Mynediad Ysgolion 5 mlynedd o hyd a llwybr Mynediad i Raddedigion 4 blynedd o hyd.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau rhagor o gyfleoedd hyfforddi i feddygon cymwys gan eu hannog i aros a gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Bydd y myfyrwyr yn astudio mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf yn Adeilad Brigantia y Brifysgol a'i hystafelloedd efelychu Meddygaeth a Gofal Iechyd ym Mron Heulog, gan gynnwys defnyddio byrddau dyrannu electronig blaengar ar gyfer astudio anatomeg.
Cafodd y Gweinidog gyfarfod â rhai o fyfyrwyr rhaglen bresennol Meddygaeth C21 Gogledd Cymru Prifysgol Caerdydd sy'n cwblhau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor ac yng nghyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ledled y Gogledd. Mae myfyrwyr hefyd yn cwblhau'r drydedd flwyddyn gyfan ym maes Meddygaeth Deulu a hynny mewn cymunedau yn y Gogledd, sy'n drefniant unigryw.
Ym mis Gorffennaf eleni, graddiodd y 17 o fyfyrwyr cyntaf i gwblhau'r rhaglen C21 Gogledd Cymru gyda phob un ohonynt wedi llwyddo yn eu harholiadau y tro cyntaf. Daw llwyddiant y rhaglen bresennol yn sgil cefnogaeth a phartneriaeth agos gydag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, ac mae'n sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer y rhaglen annibynnol, newydd.
Dywedodd y Gweinidog:
Bydd Ysgol Feddygol y Gogledd yn hyfforddi nifer cynyddol o staff meddygol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Mae wedi bod yn wych gweld y cyfleusterau yma heddiw a chlywed am brofiadau'r myfyrwyr sydd eisoes yn astudio ym Mhrifysgol Bangor. Dw i'n gobeithio bydd y myfyrwyr fydd yn dod drwy'r drysau hyn ac yn hyfforddi yn y rhanbarth hefyd yn dewis gogledd Cymru fel eu man gwaith unwaith y byddan nhw wedi graddio. Mae'r cyfleusterau yma yn rhagorol ac mae brwdfrydedd ac ymrwymiad gwirioneddol gan bawb sy'n rhan o'r rhaglen. Mae hyn yn newyddion da i'r myfyrwyr, i bobl y Gogledd ac i'r Bwrdd Iechyd, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i wasanaeth iechyd sy'n darparu gofal mor agos â phosibl at gartrefi pobl.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
Mae Ysgol Feddygol y Gogledd yn gam gwirioneddol ymlaen i'r Brifysgol, gan ychwanegu at ein portffolio presennol o addysg ac ymchwil ar draws disgyblaethau gofal iechyd. Mae'n pwysleisio ein perthynas agos â gwasanaethau iechyd ar draws y rhanbarth, a'n cefnogaeth iddynt. Bydd ein myfyrwyr meddygol newydd yn elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau hyfforddi modern, ein staff addysgu profiadol yn ogystal â chymorth gwych gan staff y gwasanaeth iechyd ledled y Gogledd.
Dywedodd yr Athro Stephen Riley, Pennaeth Meddygaeth Prifysgol Caerdydd:
Mae sefydlu Ysgol Feddygol y Gogledd yn benllanw nifer o flynyddoedd o waith caled. Rydym wedi helpu ein partneriaid ym Mhrifysgol Bangor i gadarnhau dichonoldeb darparu rhaglen hyfforddiant meddygol yn ei chyfanrwydd yn y Gogledd. Wrth i'r paratoadau barhau ar gyfer y garfan gyntaf o fyfyrwyr, byddwn yn parhau i gynghori cydweithwyr a'u harwain wrth i'r ysgol feddygol newydd gwblhau ei thaith i fod yn ysgol annibynnol.
Mae Ysgol Feddygol y Gogledd yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac mae'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr Gofal Sylfaenol ledled y Gogledd.