Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw], mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd ysbyty newydd sbon ar gyfer Cymru yn agor bedwar mis yn gynt na’r disgwyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ysbyty’r Faenor yn agor yn swyddogol ganol mis Tachwedd eleni, yn hytrach na’r dyddiad a fwriadwyd yn wreiddiol, sef mis Mawrth 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £360m i’r cyfleuster newydd yng Nghwmbrân a fydd yn darparu gofal mewn argyfwng a gofal brys. Bydd yn dod â gwasanaethau at ei gilydd a oedd yn arfer cael eu darparu yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni.

Cafodd rhannau o’r ysbyty eu cynnig i’r GIG yn gynnar fel ysbyty maes i gynorthwyo gyda phandemig y coronafeirws.

Mae’r ysbyty wedi’i leoli ar safle 60 erw a bydd yn cynnwys 471 o welyau. Bydd ganddo hefyd gyfleuster asesu arbenigol 24 awr, cyfleusterau gofal dwys, cyfleusterau diagnostig cynhwysfawr, gwelyau cleifion mewnol ar gyfer argyfyngau mawr a llawdriniaethau cymhleth, a theatrau.

Bydd rhestr gyfunol o wasanaethau yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall gyda gofal i gleifion mewnol ac allanol gan gynnwys profion diagnostig, therapïau, triniaeth ar gyfer mân anafiadau a gwasanaethau geni dan arweiniad bydwragedd.

Y nod yw y bydd y rhain yn ymuno ag Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Aneurin Bevan, Ysbyty Cas-gwent a’r Ysbyty Sirol i ddarparu rhwydwaith o ysbytai a all ddarparu’r rhan fwyaf o ofal i’w cymunedau lleol.

Yn ogystal â’r ysbyty ei hun a fydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf, mae wedi helpu i greu dros 600 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd yr ysbyty yn cyflogi dros 3,000 o bobl pan fydd yn agor, gydag oddeutu 600 yn gweithio ar unrhyw adeg benodol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: 

Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi y bydd y Faenor yn agor yn gynt na’r disgwyl. Mae’r ffaith bod hyn wedi’i gyflawni yn dyst i waith caled pawb a gyfrannodd, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae’r dyddiad newydd yn rhoi’r cyfle inni nawr gynnwys y cyfleuster yn y paratoadau at y gaeaf a darparu mwy o gapasiti a chadernid. Gall hefyd fod o gymorth pe bai yna donnau pellach o’r coronafeirws yn y dyfodol.

Mae’r cyfleuster newydd yn enghraifft arall o’r buddsoddiadau allweddol sy’n cael eu gwneud yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, er budd cleifion a staff. Rwy’n sicr y bydd y cyfleuster newydd ardderchog hwn hefyd yn ein helpu i ddenu rhagor o bobl i weithio ym man geni’r Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: 

Rydym yn falch iawn y bydd ein hysbyty newydd yn agor bedwar mis yn gynt na’r hyn a gynlluniwyd. Bydd yn ein helpu i ymateb i bwysau’r gaeaf ac unrhyw ail don bosibl o bandemig COVID-19.

Bydd canoli ein gwasanaethau gofal arbenigol a chritigol yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn cryfhau ein gwasanaethau ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd drwy fod â 75% o ystafelloedd sengl i drin cleifion difrifol wael neu gleifion heintus. Bydd hefyd yn cynyddu capasiti i ddarparu cymorth anadlu i gleifion sydd angen gofal critigol ac yn defnyddio ein hadnoddau staff yn well i ddarparu ansawdd o’r radd flaenaf i’n cleifion.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth yr ydym wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru, ein staff, ein partneriaid a’r cyhoedd wrth inni weithio tuag at agor yr Ysbyty a gwneud newidiadau sylweddol i’r ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau GIG yng Ngwent yn unol â’n cynllun Dyfodol Clinigol hirdymor.