Mae’r ymdeimlad o ysbryd cymunedol wedi cynyddu yng Nghymru ers dechrau’r pandemig, yn ôl ymchwil COVID-19 newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol misol newydd dros y ffôn, gofynnwyd cwestiynau i 1,400 o bobl o bob rhan o Gymru am lesiant, unigrwydd, cyflogaeth, cyllid, tlodi bwyd, apwyntiadau meddyg teulu, gofal cymdeithasol ac addysg i ddarganfod sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu bywydau nhw.
Mae’r canlyniadau diweddaraf yn dangos, er gwaetha’r ansicrwydd na welwyd mo’i debyg o’r blaen yn ystod yr argyfwng, mae’r ymdeimlad o ysbryd cymunedol wedi cynyddu ledled Cymru. Mae rhagor o bobl yn helpu eraill, mae llai o bobl yn teimlo’n unig ac mae pobl yn dal i deimlo’n hapus ar y cyfan.
Dyma rai o ganlyniadau allweddol arolwg mis Mehefin:
- 88% o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol, gydag 87% o bobl yn teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda yn eu hardal leol (+11% ers y llynedd).
- 77% o bobl yn dweud eu bod yn hapus, gyda 37% o bobl yn dweud eu bod yn teimlo’n bryderus.
- 33% o bobl yn gwarchod neu’n helpu teulu, ffrindiau neu gymdogion (+4% ers y llynedd).
- Mae 1 o bob 10 person wedi gwirfoddoli i helpu gyda’r sefyllfa COVID-19 yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf.
- Dywedodd 13% o bobl eu bod yn unig (-3% ers y llynedd).
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:
“Er gwaetha’r ffaith ein bod yn wynebu’r her fwyaf i’n cenhedlaeth ni, rydw i’n falch o weld bod ysbryd cymunedol Cymru wedi parhau i ffynnu yn ystod y pandemig.
“Fe hoffwn i ddiolch i bawb sy’n parhau i gyfrannu at yr arolwg. Mae’r adborth rydyn ni’n ei gael yn werthfawr a bydd yn ein helpu i wneud penderfyniadau wrth inni ddechrau ar ein taith i adferiad.”
Mae canlyniadau llawn yr arolwg ar gael ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol.