Wrth i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid teg er mwyn gwella'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Ym mis Mai, cyhoeddodd Ken Skates mai'r Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd fyddai’n arwain y gwaith ar yr achos o blaid buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a hynny wrth i Lywodraeth y DU fuddsoddi £50 biliwn yn HS2.
Bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn crynhoi'r achos hwnnw yn y Senedd y prynhawn ’ma (dydd Mawrth, 17 Gorffennaf).
Bydd yn dweud wrth Aelodau'r Cynulliad:
"Mae canfyddiadau cychwynnol y gwaith hwn yn gwbl glir. Dyw Cymru ddim wedi cael cyfran deg o'r buddsoddiad yn rheilffyrdd y DU ers amser maith, gan olygu nad ydyn ni'n gweld y manteision economaidd sydd i’w gweld mewn rhannau eraill o'r DU.
"Mae rheilffyrdd Network Rail yng Nghymru yn 11% o'r rhwydwaith, ond dim ond ychydig dros 1% o'r cyfanswm a wariwyd yng Nghymru a Lloegr y mae'n rheilffyrdd ni wedi'i gael.
"Mae hynny wedi arwain at sefyllfa lle nad oes gan drenau ddewis ond teithio'n araf ar Brif Reilffordd De Cymru, at gyfyngiadau ar gapasiti ac ar gyflymder ar hyd llinell Arfordir Gogledd Cymru, prinder gwasanaethau i gymudwyr yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, a gwasanaethau trawsffiniol annigonol yng Ngogledd ac yn Ne Cymru.
"Dw i'n dal i gefnogi HS2, ond dw i hefyd yn galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i wneud y dewisiadau iawn er budd Gogledd Cymru, ac yn pwyso arnyn nhw i liniaru effeithiau tebygol HS2 ar economi De Cymru."
Mae'r gwaith a wnaed gan yr Athro Barry yn tynnu sylw at y ffaith fod seilwaith hen, aneffeithlon ac annibynadwy yn cyfyngu ar nifer y gwasanaethau, a hefyd ar eu cyflymder a’u hansawdd.
"Mae'r cyfyngiadau hyn yn arwain at lai o alw, yn cyfyngu ar dwf economaidd, ac yn arwain at gostau uwch i deithwyr ac i drethdalwyr.
"Bydda i'n parhau i amlinellu gweledigaeth ehangach ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd llwyddiannus − rhwydwaith a fydd yn ein helpu i fodloni'n rhwymedigaethau o ran yr amgylchedd a'n cyfrifoldebau o ran Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, i gyflawni'r amcanion yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, ac i wireddu ymrwymiad Llywodraeth y DU i greu economi gytbwys.
"Mae'r gwaith a wnaed yn dangos y bydd gwerth o leiaf £2 biliwn o fanteision i ddefnyddwyr uniongyrchol, a hynny drwy leihau amserau teithio i'r rheini sy'n teithio ar y rheilffyrdd. Bydd manteision ychwanegol hefyd yn sgil llai o dagfeydd ar y ffyrdd a bydd hynny, yn ei dro, yn arwain at welliannau amgylcheddol a gwelliannau o ran diogelwch."
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
"Mae llwyddiant gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn dibynnu ar seilwaith effeithlon a dibynadwy a fydd yn gallu cludo pobl mewn ffordd fwy effeithlon. Rydyn ni'n edrych 'mlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau gwelliannau a fydd yn diwallu anghenion yng Nghymru a thros y ffin."
Dywedodd Mark Barry, Athro ar Ymarfer ym maes Cysylltedd ym Mhrifysgol Caerdydd:
"Dyw rheilffyrdd Cymru ddim wedi symud o'r ail gêr. Mae'r tanfuddsoddi a welwyd ers tro o gymharu â'r DU yn ei chyfanrwydd yn golygu nad y’n nhw'n addas at y diben.
"Dyw hi’n fawr o syndod fod llai o bobl yn dewis defnyddio'r trên yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Mae hynny'n golygu bod rheilffyrdd yn gweithio mewn ffordd lai effeithlon, bod y cymhorthdal fesul teithiwr yn uwch a bod mwy o dagfeydd ar y ffyrdd. Mae'n llesteirio'n twf economaidd a’n gwaith i wella ansawdd aer ac i leihau carbon."