Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw [dydd Iau, 6 Mehefin], bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn cadeirio cyfarfod cyntaf Bord Gron y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyhoeddiad y mis diwethaf am amserlen newydd ar gyfer cyflwyno'r SFS, cyfarfod y Ford Gron fydd y cyfle nesaf i weithio ar y cyd ar ddyluniad yr SFS ar ôl yr ymgynghoriad diweddar.

Mae cynrychiolaeth eang o'r diwydiant ffermio, ffermwyr, y gadwyn gyflenwi ehangach, a'r sectorau milfeddygol, natur, coedwigaeth a bwyd ar y Ford Gron. 

Pwrpas y grŵp yw datblygu ymhellach y dull partneriaeth sydd ei angen i gwblhau dyluniad a gweithrediad yr SFS, gan adeiladu ar gamau blaenorol o gyd-ddylunio ac ymgysylltu. Bydd mewnbwn o'r Ford Gron yn helpu i lywio opsiynau cyn i Weinidogion Cymru lunio cynllun terfynol a gweithredu penderfyniadau. 

Fel rhan o'r cyfarfod cyntaf, gofynnir i'r Ford Gron gytuno ar gamau i gynnull Panel Adolygu Tystiolaeth ynghylch Atafaelu Carbon. Bydd y Panel Adolygu yn rhannu canlyniadau’r adolygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth o unrhyw gynigion pellach a gwahanol ar gyfer atafaelu carbon gyda’r Ford Gron Weinidogol i’w hystyried.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig: 

"Mae gweithio mewn partneriaeth â'r diwydiant ffermio a rhanddeiliaid eraill yn allweddol er mwyn gallu gwireddu ein nod cyffredin bod gan ffermio yng Nghymru ddyfodol hir, llwyddiannus a ffyniannus.

"Drwy'r Ford Gron, rwy'n bwriadu gweithio'n ddi-oed i nodi'r meysydd y gallwn gytuno arnyn nhw er mwyn gallu canolbwyntio wedyn ar y materion sydd angen mwy o sylw.

"Mae'n amlwg iawn bod nifer o feysydd yr ydym yn cytuno arnyn nhw. Gallwn adolygu'r rhain a symud ymlaen at yr agweddau sydd angen ychydig mwy o sylw a'u trafod ymhellach, gan gynnwys y materion mwy dadleuol.

"Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Ford Gron am eu hamser a'u hymrwymiad – mae hwn yn ddull partneriaeth yr wyf yn awyddus i'w feithrin wrth inni weithio i ddarparu Cynllun sy'n gweithio yn y tymor hir.

"Rwy'n bwriadu symud ymlaen i sicrhau ein bod yn datblygu Cynllun sy'n cefnogi diwydiant amaethyddol cynaliadwy a chydnerth yng Nghymru."