Neidio i'r prif gynnwy

Gallai gweithlu'r GIG, y cyflenwad o feddyginiaethau ac ymchwil feddygol oll gael eu bygwth gan Brexit, yn ôl rhybudd gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Mr Gething yn dweud wrth y Cynulliad yn hwyrach heddiw (dydd Mawrth 26 Mehefin) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraethau y DU a’r Alban i sicrhau cyfnod pontio mor esmwyth â phosib, ond rhybuddiodd y bydd angen rhoi sylw i nifer o faterion ar fyrder er mwyn osgoi niweidio'r GIG yng Nghymru.

Dywedodd: "Mae gwladolion yr Undeb Ewropeaidd yn rhan bwysig iawn o weithlu'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i bob un o'r gweithwyr deimlo bod croeso iddynt a bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi wrth ddarparu gwasanaethau sydd er budd pobl Cymru a’r cyfraniad maen nhw’n gwneud i ein cymunedau. 

Byddwn yn parhau i bwyso'n galed am ganiatáu statws preswylio parhaol i bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ynghyd â'u teuluoedd. Mae'n rhaid i ni hefyd gael sicrwydd y bydd modd i ni barhau i recriwtio staff meddygol o Ewrop trwy systemau cyflym a dibynadwy.

Mae degawdau o gydweithio a chysoni safonau ar feddyginiaethau a thechnolegau meddygol wedi arwain at fanteision amlwg i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Byddai unrhyw gyfyngiadau ar fasnach, gwiriadau tollau a thariffau masnach yn debyg o effeithio ar y meddyginiaethau sydd ar gael, gan arwain o bosib at oedi mewn cyflenwadau o gyffuriau a brechlynnau a chostau uwch i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.”

Amlinellodd yr Ysgrifennydd Iechyd hefyd fanteision a phwysigrwydd parhau i gydweithio gydag Ewrop ar reoli clefydau, safonau diogelwch bwyd ac ymchwil feddygol.

Ychwanegodd:  "Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd sylw o'r pryderon hyn. Byddwn yn parhau i gydweithio yn adeiladol er mwyn sicrhau bod pob un sy'n cael ei effeithio yn cael gymaint o sicrwydd â phosib ynglŷn â'i hawliau a'i statws yn y dyfodol. Bydd nifer o'r peryglon iechyd a gofal cymdeithasol rwy'n tynnu sylw atyn nhw yn cael eu lliniaru neu eu dileu yn llwyr os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llwyddo i sicrhau Brexit synhwyrol, wedi eu seilio ar realiti. Fel arall, mae'n bosib y bydd effaith gwirioneddol, hirdymor ar iechyd a llesiant unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws Cymru."