Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cafodd staff GIG Cymru yn y Gorllewin y cyfle i drafod materion sy'n bwysig iddyn nhw gyda'r Ysgrifennydd Iechyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn digwyddiad Cwrdd â'r Cabinet, tro gweithwyr iechyd rheng flaen yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro oedd hi i gael y cyfle i ofyn cwestiynau am y gwasanaeth iechyd i Mr Gething.   

Fe wahoddwyd staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn yr ardal i'r sesiwn holi ac ateb a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn Sir Gaerfyrddin. 

Dywedodd Mr Gething:

"Roedd yn bleser mawr cwrdd â chynifer o weithwyr iechyd rheng flaen yn ystod fy ymweliadau â gwahanol rannau o Gymru. Yn sgil llwyddiant y digwyddiad cyntaf, lle cwrddais â staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym mis Mawrth, roeddwn am adeiladu ar y trafodaethau hynny drwy gynnal rhagor o ddigwyddiadau Cwrdd â'r Cabinet. 

"Dw i'n awyddus i roi'r cyfle i staff rheng flaen gwrdd â mi wyneb yn wyneb i ofyn cwestiynau a thrafod y materion yn y gwasanaeth iechyd sy'n bwysig iddyn nhw.”

Mae Cwrdd â'r Cabinet yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau Cyfarfod Carwyn lle mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyfarfod â phobl ledled Cymru i glywed eu barn a'u syniadau.