Yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2024, cafodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob rhan o GIG Cymru eu gwobrwyo am eu gwaith arloesol, eu cydweithrediad a'u harweinyddiaeth i wella gofal iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Bellach yn ei 19eg blwyddyn, mae'r gwobrau'n dod â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd ynghyd, i gydnabod a dathlu eu gwaith.
Cafodd traean o'r gwobrau eu hennill gan staff y GIG o fyrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg. Fe'u hanrhydeddwyd am ymarfer arloesol gan gynnwys:
- treialu gwasanaeth ymyrraeth i sicrhau gwell canlyniadau a helpu pobl i wella eu diabetes math 2 trwy reoli eu pwysau a rheoli maeth yn well
- gweithio i wella iechyd meddwl a llesiant staff a chleifion ar draws byrddau iechyd Cymru drwy godi proffil llesiant y tîm, a sefydlu grŵp addysgu am y menopos ac ymarfer corff mewn campfa ysbyty
- creu adnodd hyfforddi cost-effeithiol ar-lein, a ddefnyddir ledled y DU, i wella diogelwch staff a chleifion wrth drin silindrau a nwyon meddygol
- arweinyddiaeth effeithiol i ddarparu rhaglenni addysg diabetes a rhaglen atal diabetes Cymru gyfan sy'n weithredol ar draws pob bwrdd iechyd
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:
Llongyfarchiadau mawr i holl weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd GIG Cymru a enillodd wobrau yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU eleni!
Rwy'n falch iawn o weld yr holl dalent ac arferion arloesol sydd gennym yn ein gweithlu yng Nghymru yn cael eu cydnabod a'u dathlu.
Dylai'r enillwyr fod yn falch iawn o'u hunain. Mae ehangder y dalent yn dangos cyfraniad gwerthfawr ac ymroddiad y proffesiynau hyn i gadw pobl yn iach a gwella canlyniadau yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Ruth Crowder, Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru:
Mae gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn aelodau hanfodol o'r tîm ym mhob gwasanaeth ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.
Maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed i gynnig gwasanaethau arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac o ansawdd uchel ac mae'n wych gweld eu proffesiynoldeb yn cael ei gydnabod yn y gwobrau hyn.
Dywedodd Dirprwy Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru dros Iechyd, Dr Delia Ripley:
Mae'r Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd yn gyfle gwirioneddol i daflu goleuni ar y gwaith hanfodol ac arloesol a wneir gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd.
Yn ogystal â chydnabod a gwobrwyo ymarfer proffesiynol o ansawdd uchel, mae'r gwobrau hyn yn rhoi llwyfan i'n proffesiynau yng Nghymru ddangos gwerth ac effaith eu sgiliau arbenigol a sbarduno gwelliannau mewn gofal cleifion.