Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi lansio'r gwaith o adeiladu ysbyty newydd gwerth £350m, gyda'r cyfleusterau a'r offer diweddaraf, yng Nghwmbrân.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd mai enw'r ysbyty newydd, a arferai gael ei adnabod fel y Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol, fydd Ysbyty Prifysgol y Faenor.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y cyllid ar gyfer yr ysbyty newydd 470 o welyau ym mis Hydref 2016, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn disgwyl i'r ysbyty agor i gleifion yn y gwanwyn 2021. 

Mae Ysbyty Prifysgol y Faenor yn rhan allweddol o'r strategaeth uchelgeisiol Dyfodol Clinigol, a lansiwyd yn 2004, i foderneiddio gwasanaethau iechyd yng Ngwent. Ar ôl cael ei adeiladu, bydd y cyfleuster yn trin cleifion yn ardal Gwent y mae arnynt angen gofal brys cymhleth ac acíwt , a bydd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer darparu asesiadau arbenigol 24 awr, gofal dwys, diagnosteg gynhwysfawr, gwelyau cleifion mewnol ar gyfer achosion difrifol brys a llawdriniaeth gymhleth, a theatrau.

Er y bydd yr ysbyty'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau yng Ngwent, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddo hefyd chwarae rôl ranbarthol bwysig yn y De drwy fod yn rhan o'r rhwydwaith ysbytai acíwt pwysig sy'n darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy, gan sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.

Dywedodd Vaughan Gething: 

"Mae'n bleser mawr gen i fod yma heddiw i nodi dechrau ar y gwaith o adeiladu ysbyty cwbl fodern yng Ngwent.

"Mae'n bleser gennyf hefyd gyhoeddi mai Ysbyty Prifysgol y Faenor fydd enw'r ysbyty hwn a fydd yn casglu gwasanaethau cymhleth a mwy acíwt ynghyd ar un safle. Bydd hyn yn gwella ansawdd y gofal a roddir i'r cleifion mwyaf sâl." 

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: 

"Mae Ysbyty Prifysgol y Faenor yn rhan bwysig o'n Strategaeth Dyfodol Clinigol, ac mae pawb sy'n gysylltiedig â'r Bwrdd Iechyd yn teimlo'n hynod gyffrous bod y gwaith bellach wedi dechrau ar y cyfleuster hollol fodern hwn. Bydd yn ein helpu i greu amgylchedd gofal gwell o lawer yn ogystal â mynediad prydlon at ofal brys, gan sicrhau bod cleifion yn cael y canlyniadau gorau o'u gofal. 

"Rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych gan bobl leol sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd gan eu bod yn deall y manteision a ddaw o gael yr ysbyty hwn a model gofal iechyd newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. 

"Hoffwn ddiolch i'n staff am eu gwaith caled i sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt hwn, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n staff, ein cymunedau lleol, a Gleeds a Laing O’Rourke i gael ysbyty newydd y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo."