Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi £13.586 miliwn o gyllid i brynu ambiwlansys newydd yn lle’r rhai sy’n gweithredu ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd 111 o gerbydau newydd yn cael eu prynu yn lle rhai o'r hen gerbydau yn fflyd bresennol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Bydd y cerbydau newydd hyn yn cynnwys 71 ambiwlans ar gyfer achosion brys, 33 cerbyd cludiant di-frys, a saith cerbyd brys arbennig i ymateb i ddigwyddiadau difrifol. Byddant yn cael eu defnyddio ledled Cymru.

Bydd yr holl gerbydau newydd yn cael eu dewis ar sail eu nodweddion 'glanach, gwyrddach’. Byddant yn cydymffurfio â safonau diweddaraf Euro 6 ar gyfer allyriadau, gan ddefnyddio injans V6 sy'n effeithlon o ran tanwydd i leihau'r effaith ar yr amgylchedd a'r gymuned.

Dywedodd Mr Gething:

"Dw i wrth fy modd yn cael cyhoeddi'r cyllid hwn fel rhan o'n hymrwymiad i uwchraddio fflyd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Byddwn ni'n ei ddefnyddio i brynu cerbydau mwy modern ac effeithlon sy’n wyrddach yn lle rhai o'r ambiwlansys hŷn sydd gan y gwasanaeth ar hyn o bryd.

Bydd y cerbydau newydd yn fwy dibynadwy, yn perfformio'n well ac yn costio llai i'w rhedeg, a fydd yn sicrhau gwerth am arian ar gyfer cyllid cyhoeddus. Byddan nhw hefyd yn cynnwys y systemau cyfathrebu a'r offer diweddaraf, i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer pobl Cymru.

Un peth dw i’n arbennig o falch yn ei gylch yw'r ffaith y bydd yr holl gerbydau cludiant di-frys yn cynnwys paneli solar i droi goleuni'r haul yn drydan. Mae defnyddio paneli solar yn lle trydan o'r prif gyflenwad yn golygu na fydd angen gosod llawer o fannau gwefru. Bydd hyn yn lleihau'r trydan rydyn ni'n ei ddefnyddio, yn ogystal â'r risgiau iechyd a diogelwch sy'n cael eu peri gan wifrau rhydd."

Dywedodd Louise Platt, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

“Gan ein fflyd ni y mae peth o’r cyfarpar gorau a mwyaf modern yn y DU, a bydd yr arian yn ein galluogi i barhau i gael cerbydau newydd wrth i’r hen rai ddod i ddiwedd eu hoes waith.

“Mae’n hanfodol cael cerbydau modern er mwyn inni allu parhau i ddarparu’r driniaeth gofal gorau posibl i gleifion. Mae hefyd yn allweddol ar gyfer ein staff, sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u diwrnod gwaith allan yn y gymuned.

“Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei chymorth parhaus.”