Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi cymeradwyo £1.2m i ddatblygu achos busnes ar gyfer gwelliannau i wasanaethau mamolaeth yng Nglangwili.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn caniatáu i’r Bwrdd Iechyd ddechrau ar y cynlluniau i wella mynediad i'r ysbyty i gleifion ynghynt tra'n gwella uned babanod newydd-anedig a ward geni’r safle ar yr un pryd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Mae'n bleser cyhoeddi'r cyllid hwn heddiw, fydd yn caniatáu i'r Bwrdd Iechyd ddatblygu cynlluniau i wella’r cyfleusterau yng Nglangwili. 

"Mae cynnal trafodaethau â'r cyhoedd yn rhan bwysig o'r broses hon ac rwy'n mawr obeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i gael dweud eu dweud ar y cynigion.

"Ry'n ni eisiau i bobl y Gorllewin gael mynediad at wasanaethau mamolaeth a newydd-anedig o'r radd flaenaf. Bydd y cyllid hwn yn mynd yn bell wrth gyflawni'r uchelgais honno."    

Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl cael yr achos busnes erbyn yr haf.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Steve Moore:

"Ry'n ni’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r cymorth hwn inni sy'n ein galluogi i symud i'r cam nesaf yn y prosiect datblygu mawr hwn. I ni, mae hwn yn gam pwysig ymlaen wrth ddarparu gwell cyfleusterau i'r teuluoedd a'n staff sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth a gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Glangwili. 

"Byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda chleifion, staff, rhanddeiliaid a'r cyhoedd i ddatblygu a phrofi'r achos busnes terfynol er mwyn sicrhau bod gennym ni'r achos cryfaf i wella amgylchedd yr ysbyty. Byddai hynny'n sicrhau ein bod yn gallu bod yr un mor falch o'n adeilad a'n cyfleusterau ag yr ydyn ni o'n staff gweithgar. Ar yr un pryd, rydyn ni hefyd yn gweithio ar y cynlluniau cynnar ar gyfer trydydd cam y prosiect hwn i gael cyfleusterau newydd i wasanaethau plant yr ysbyty. Mae'r ymrwymiad hwnnw'n parhau'n flaenoriaeth inni hefyd."