Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfu'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething grŵp mamau ifanc heddiw i glywed gan iddynt eu barn a'u profiadau o gymorth gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Vaughan Gething:  

"Mae Llywodraeth Cymru'n credu mewn rhoi cymorth i rieni  a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl i'w bywydau.

“Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i roi Rhaglen Plant Iach Cymru ar waith i sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau iechyd cyffredinol i blant hyd at saith oed. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys mesurau atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ogystal â chyngor i helpu gyda magu plant a gwneud dewisiadau i fyw'n iach.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n cael clywed beth yw'r materion sydd o bwys i bobl y Gogledd ac rwy'n falch o gael y cyfle i gael sgwrs gyda'r grŵp hwn a chlywed beth yw eu barn a sut brofiadau maen nhw wedi'u cael."