Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi croesawu adroddiad newydd sy'n dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o bydredd dannedd ymysg plant 11 a 12 oed yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd yr adroddiad gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae'n dangos y gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o bydredd dannedd ymysg plant, o 45% yn 2004/05 i 30% yn 2016/17. 

Yn 2008/09, lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch Cynllun Gwên i wella iechyd y geg ymysg plant ac mae wedi bod yn treialu dull ataliol wrth ofalu mewn practisau deintyddol yng Nghymru. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Rwy'n falch iawn o weld y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lleihau pydredd dannedd ymysg plant. Mae'n amlwg bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn yr ymgyrch Cynllun Gwên a mynediad at wasanaethau deintyddol ataliol yn cael effaith go iawn ledled Cymru. 

Fodd bynnag, ni allwn fodloni ar hynny. Rydyn ni wedi ailwampio ein rhaglen atal i gynnwys mwy o help i blant ifanc iawn a'u rhieni, ac rydyn ni hefyd yn dwysáu camau atal ar gyfer oedolion hŷn." 

Ychwanegodd Prif Swyddog Deintyddol Cymru, Colette Bridgman: 

"Mae pydredd dannedd yn annymunol iawn. Mae'n gallu bod yn brofiad poenus, yn ddrud i'w drin ond eto mae modd ei atal i raddau helaeth. Mae ymchwil wedi dangos bod pydredd dannedd yn aml yn dechrau'n gynnar, felly ymyrryd yn gynnar fydd yn cael yr effaith fwyaf. Mae'r dystiolaeth bellach yn glir y gall buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau atal a rhaglenni sydd wedi'u targedu at y boblogaeth leihau nifer yr achosion o bydredd dannedd. 

Mae'n bwysig bod pob plentyn ifanc yng Nghymru yn cael cymorth i frwsio'i ddannedd gyda phast dannedd fflworid amser gwely, ac ar un achlysur arall bob dydd. Bydd peidio ag yfed na bwyta unrhyw beth melys awr cyn mynd i'r gwely hefyd yn helpu i ddiogelu dannedd rhag pydru."