Neidio i'r prif gynnwy

O dan delerau Cronfa Triniaethau Newydd Llywodraeth Cymru, bydd rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau y bydd Perjeta ar gael o fewn 60 diwrnod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) heddiw wedi argymell i Perjeta (pertuzumab) fod ar gael fel mater o drefn. Wrth baratoi ar gyfer argymhelliad NICE, mae GIG Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda chynhyrchwr y feddyginiaeth, Roche, i ddod i gytundeb er mwyn sicrhau y bydd ar gael. 

O dan delerau Cronfa Triniaethau Newydd Llywodraeth Cymru, bydd rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau y bydd Perjeta ar gael o fewn 60 diwrnod. 

Mae Perjeta yn driniaeth i bobl lle mae math HER2-positif o ganser y fron wedi dychwelyd ond nad oes modd ei drin, neu os ydyw wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff. 

Dywedodd Vaughan Gething: 

"Rwy'n falch y bydd Perjeta (pertuzumab) ar gael fel mater o drefn ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i bobl sy'n dioddef o ganser datblygedig y fron. Mae Cronfa Triniaethau Newydd blaenllaw Llywodraeth Cymru, sy'n werth £80 miliwn, yn mynd ati i sicrhau bod mwy o feddyginiaethau ar gael yn gyflymach nag erioed. Ar gyfartaledd, mae meddyginiaethau newydd bellach ar gael 10 diwrnod yn unig ar ôl eu hargymell. Felly, mae pobl sy'n dioddef o gyflyrau lle mae bywyd yn y fantol yn cael y meddyginiaethau diweddaraf yn gyflymach o lawer pan fo'u hangen arnyn nhw.”  

Gallai’r cyhoeddiad fod o fudd i hyd at 50 o fenywod y flwyddyn yng Nghymru.Dywedodd Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Cysylltiol Rhwydwaith Canser Cymru, Dr Catherine Bale: 
“Mae hyn yn newyddion i’w groesawu’n fawr i’n menywod sydd â chanser datblygedig y fron a fydd bellach yn cael y cyfle i elwa ar y driniaeth effeithiol hon sy’n gallu ymestyn bywydau a chynnal eu hansawdd bywyd. Mae sicrhau bod triniaethau effeithiol ar gael yn amserol i bobl Cymru yn parhau’n flaenoriaeth, ac mae’r Gronfa Triniaethau Newydd yn gwireddu hyn i gleifion.”