Neidio i'r prif gynnwy

Adeiladwyd y ganolfan diolch i bron i £4 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Adeiladwyd y ganolfan diolch i bron i £4 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. 

Gwnaed y newidiadau i'r gwasanaethau yn ardal Blaenau Ffestiniog ar ôl cynnal trafodaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu ei gynlluniau a'i wasanaethau ar gyfer y ganolfan newydd. 

Mae practis meddygon teulu Blaenau Ffestiniog, sydd dan reolaeth y Bwrdd Iechyd, wedi symud i mewn i'r ganolfan newydd. Mae'r model Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol arloesol yn defnyddio cymorth y gymuned gofal sylfaenol ehangach yn unol â strategaeth gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru. Mae'r tîm yn cynnwys un meddyg teulu cyflogedig gyda chymorth meddygon locwm, uwch-ymarferydd nyrsio parhaol, fferyllydd a ffisiotherapi cyhyrysgerbydol.  

Bydd y ganolfan newydd hefyd yn gwella gofal sylfaenol a chymunedol yn yr ardal gan ddod â gwasanaethau yn agosach i gartrefi cleifion. Bydd yn:

  • Uno gwasanaethau gofal lliniarol dan arweiniad meddyg ymgynghorol, clinigau cleifion allanol a nyrsys arbenigol, a sesiynau clinigau anadlol i gleifion allanol dan arweiniad meddyg ymgynghorol dan yr un to
  • Gwella gwasanaethau plant yn yr ardal drwy ddarparu mwy o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed
  • Darparu canolfan bydwreigiaeth barhaol a chlinigau cynenedigol
  • Cynyddu sesiynau lleferydd ac iaith pediatrig
  • Darparu sesiynau pediatregydd ymgynghorol a phediatregydd cymunedol i gleifion allanol
  • Darparu gwasanaeth nyrsys ysgolion ac ymwelwyr iechyd
  • Cynnig lle i ddeintydd cymunedol gyda'r potensial o ddenu deintydd cyflogedig gan y GIG.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Bydd Canolfan Goffa Ffestiniog yn hanfodol bwysig ar gyfer iechyd a llesiant pobl Blaenau Ffestiniog yn y dyfodol, ac roedd yn bleser cael bod yn yr agoriad swyddogol heddiw.

"Dyma fodel pwysig ar gyfer gwasanaethau sylfaenol a chymunedol y byddai modd i ni ei ddilyn o bosib mewn cyfleusterau eraill sy'n rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru."