Bydd staff GIG Cymru yn cael cyfle i drafod materion sy'n bwysig iddyn nhw gyda'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, mewn digwyddiad yn Wrecsam heddiw.
Gweithwyr Gwasanaeth Iechyd ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y Gogledd-ddwyrain yw'r ail grŵp o staff i gael y cyfle i holi Mr Gething ynghylch y gwasanaeth iechyd yn ystod un o ddigwyddiadau Cwrdd â'r Cabinet.
Cynhelir y sesiwn holi ac ateb yn Sefydliad Meddygol Wrecsam
Dywedodd Vaughan Gething:
"Un o'r pethau gorau ynghylch bod yn Ysgrifennydd Iechyd Cymru yw cael cyfarfod â staff y Gwasanaeth Iechyd ar hyd a lled Cymru bob wythnos. Dw i bob amser yn edmygu eu hymroddiad a'u hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd sydd yn aml iawn yn achub bywydau pobl.
"Mae'n bleser mawr gen i ymweld â'r Gogledd heddiw a rhoi cyfle i staff rheng flaen gyfarfod â mi i ofyn eu cwestiynau, er mwyn inni allu trafod y materion yn y gwasanaeth iechyd sy'n bwysig iddyn nhw.
"Y gwir plaen ydy na fyddai ein Gwasanaeth Iechyd yn gallu gwneud ei waith heb y staff hwn. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda nhw yn hollol glir. Mae angen inni barhau i weithio gyda'n gilydd er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei ddatblygu mewn modd sy'n diwallu anghenion pobl, nawr ac yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae Cwrdd â'r Cabinet yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau Cyfarfod Carwyn lle mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyfarfod â phobl ledled Cymru i glywed eu barn a'u syniadau.
Dywedodd Dr Peter Higson, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Mae'n bleser gennym groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Wrecsam ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae'r galwadau ar y Gwasanaeth Iechyd yn fwy nag erioed o'r blaen, a bob dydd mae ein staff yn rhoi o'u gorau i ofalu am bobl y Gogledd.
“Mae cael croesawu Ysgrifennydd y Cabinet yma wrth iddo roi o'i amser i ddod i gyfarfod â'n staff wyneb yn wyneb yn dangos bod ein gwaith yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi ar y lefel uchaf, a dw i'n siŵr y bydd fy nghydweithwyr yn falch o'r cyfle hwn i ofyn eu cwestiynau'n uniongyrchol i Mr Gething."