Bydd ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed, pleidleisio electronig a chynrychiolaeth gyfrannol ymhlith y cynigion a gyhoeddir heddiw.
O dan gynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad, byddai pobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau i gynghorau - o dan bwerau a drosglwyddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Cymru.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn edrych i'r dyfodol pan fydd disgwyl i'r DU adael yr UE yn 2019, ac yn gofyn a ddylai pob dinesydd o dramor sy'n byw yng Nghymru gael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol.
Mae gwahanol opsiynau i'w gwneud yn haws i bobl bleidleisio a moderneiddio'r system bleidleisio hefyd yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad. Mae hyn yn cynnwys pleidleisio electronig mewn gorsafoedd pleidleisio ac o bell, gorsafoedd pleidleisio symudol a phleidleisio mewn mannau eraill ac eithrio gorsafoedd pleidleisio megis archfarchnadoedd, llyfrgelloedd lleol, canolfannau hamdden a gorsafoedd trên.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn a fyddai modd pleidleisio ar ddiwrnodau eraill yn hytrach na dydd Iau yn unig.
Byddai newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i'r system bleidleisio ei hun, wrth i bob cyngor gael yr opsiwn o ddefnyddio system y Cyntaf i'r Felin neu system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Byddai angen i gynghorau ymgynghori â thrigolion lleol cyn penderfynu pa system i'w defnyddio.
Yn dilyn Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cyhoeddi manylion y Bil Llywodraeth Leol, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i 22 o gynghorau Cymru weithio fesul rhanbarth mewn meysydd fel datblygu economaidd, cynllunio defnydd tir yn strategol a thrafnidiaeth strategol.
Caiff y gwasanaethau hyn eu cynnal mewn tri rhanbarth mawr, sef: Y Gogledd, y Canolbarth a'r De-orllewin, a'r De-ddwyrain. Bydd lle i weithio ar lefel is-ranbarthol hefyd fel rhan o'r grwpiau mwy hyn.
Byddai hefyd yn ofynnol i gynghorau weithio'n rhanbarthol ar wasanaethau eraill fel gwella addysg, gwasanaethau cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol ac agweddau eraill ar gynllunio defnydd tir, ond byddai ganddynt fwy o hyblygrwydd o ran sut y byddant yn cydweithio.
Byddai angen cynnal rhai swyddogaethau penodol yn rhanbarthol, er enghraifft, byddai'n rhaid i wasanaethau cymdeithasol gyd-fynd â ffiniau byrddau iechyd lleol.
Byddai Pwyllgorau Cydlywodraethu, yn cynnwys aelodau etholedig o bob awdurdod lleol, yn cael eu sefydlu ar gyfer pob un o'r tair ardal ranbarthol i oruchwylio'r gwasanaethau.
Fel rhan o berthynas newydd, mwy tryloyw rhwng pobl a'u cynghorau, bydd hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarlledu eu cyfarfodydd.
Yn ogystal â'r uchod, cynhelir adolygiad trylwyr hefyd o gynghorau tref a chymuned. Cynhelir yr adolygiad seiliedig ar dystiolaeth gan banel wedi'i gadeirio gan y Cyn-aelodau Cynulliad, Gwenda Thomas a Rhodri Glyn-Thomas. Bydd yr adolygiad yn ystyried beth sydd angen newid er mwyn i lywodraeth ar y lefel mwyaf lleol weithio'n dda a chyflawni canlyniadau. Mae disgwyl i'r adolygiad ddechrau yn ystod yr haf, a phara am flwyddyn.
Heddiw, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Mark Drakeford, yn cymryd rhan mewn gweithdy i annog pobl ifanc i bleidleisio, gyda phrosiect Dysgu i Fyw gan Llamau, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Elusen digartrefedd yw Llamau ar gyfer y bobl ifanc a'r menywod mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Dywedodd Mark Drakeford:
"Heddiw, rwy'n cyhoeddi Bil a phecyn llawn diwygiadau a fydd yn newid y ffordd y mae cynghorau'n gweithio a'r ffordd y caiff eu haelodau eu hethol. Rydym am ei gwneud yn haws i bleidleisio ac yn haws i gael yr hawl i bleidleisio.
"Does dim rheswm pam fod pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu priodi, talu trethi, ac ymuno â'r fyddin ond ddim yn gallu pleidleisio yn ein hetholiadau. Does dim rheswm pam, yn yr unfed ganrif ar hugain, ein bod yn gallu gwneud cynifer o'n tasgau dyddiol ar-lein, ond ddim yn gallu pleidleisio ar-lein. Dyna pam ein bod yn amlinellu nifer o wahanol syniadau i foderneiddio'r system etholiadol a galw ar y cyhoedd i rannu eu syniadau gyda ni hefyd.
"Ar lefel ehangach, os ydym am sicrhau newid gwirioneddol a hirdymor yn ein cynghorau, yna mae'n rhaid inni newid y ffordd y maen nhw'n gweithio. Rydw i wedi siarad ac ymgynghori'n eang â chynghorau am y ffordd orau o wneud hyn, ac mae bellach gennym Fil Llywodraeth Leol a fydd yn gwella gwasanaethau drwy gydweithio systematig gorfodol ar lefel ranbarthol ac adeiladu perthynas newydd rhwng dinasyddion a'u cynghorau.
"Edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda'r llywodraeth leol ar y Bil, ac rwy'n annog pawb i leisio'u barn am y pecyn sylweddol ac arloesol hwn o ddiwygiadau etholiadol rydym yn eu cyflwyno heddiw."
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Jess Blair:
"Mae'n bryd inni gael trafodaeth am sut y gallwn wneud pethau'n wahanol o ran pleidleisio a chynnwys pobl mewn gwleidyddiaeth. Mae'r ymgynghoriad ar ddiwygiadau etholiadol yn gam ymlaen sy'n cael ei groesawu, ac mae'n cwmpasu ystod eang o bethau y credwn y gallai wella'r ffordd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio yng Nghymru.
"Mae trafod a ddylid rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed yn y ddadl hon yn ymwneud â dangos pa fath o ddemocratiaeth rydym am fod yn rhan ohoni - un sy'n cynnwys y bobl ifanc mewn penderfyniadau am eu dyfodol, ac sy'n sicrhau etholfraint deg.
"A gwyddom ei fod yn gweithio. Cymerodd Albanwyr 16 ac 17 oed ran amlwg a brwdfrydig iawn yn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, gyda 75% yn pleidleisio a 97% yn dweud y byddent yn pleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol.
"Yr wythnos ddiwethaf, lansiwyd ein prosiect, Lleisiau Coll, sy'n edrych ar beth sy'n rhwystro pobl rhag pleidleisio yng Nghymru. Felly, rydym wrth ein boddau bod hyn yn digwydd ac yn credu ei fod yn gyfle pwysig i gael trafodaeth am sut y gallwn greu democratiaeth iachach."
Dywedodd Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau:
"Rydyn ni'n llawn cyffro ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru i adfywio'r broses ddemocrataidd yng Nghymru, ac estyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed.
"Rydyn ni'n gweithio gyda phobl ifanc ddigartref a menywod sy’n agored i niwed ledled Cymru. Mae pobl ifanc ddigartref ymhlith y rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan bolisi'r llywodraeth, ond yn aml, y nhw sy'n cael eu hanghofio. Mae'n hynod o bwysig i ni ein bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu mynegi eu barn, er mwyn newid y pethau sy'n bwysig iddyn nhw.
"Dim ond drwy wrando ar safbwyntiau a barn y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru y gallwn wneud newid arwyddocaol, gwirioneddol ar eu cyfer. Mae nifer y bobl ifanc 18-25 oed a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol diweddar yn dangos bod gan bobl ifanc wir ddiddordeb mewn siapio polisïau eu gwlad ac mae angen i ni roi sylw i hynny."