Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau, Carl Sargeant, ei ymrwymiad i fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch Aelodau'r Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Ar 25 Tachwedd byddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a Diwrnod y Rhuban Gwyn. Yn 2014, daeth Llywodraeth Cymru yn sefydliad Rhuban Gwyn, ac mae’n fraint imi cael bod yn llysgennad am gynifer o flynyddoedd.

"Mae'r siwrne wedi bod yn faith, ond mae deunaw mis eisoes wedi mynd heibio ers i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 gael Cydsyniad Brenhinol, ac mae'r gwaith o'i weithredu yn mynd rhagddo'n dda.

"Ni allwn bwysleisio pa mor fawr yw'r dasg o roi'r Ddeddf ar waith. Mae gennym ni ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sy'n arwain at achosion o drais a cham-drin.

"Mae angen inni sicrhau bod mwy o gydweithio yn digwydd rhwng y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau rhanddeiliaid, gan sicrhau bod y rhai sy'n dioddef a'r rhai sy'n goroesi yn flaenllaw i bopeth a wnawn.

“Mae'n rhaid i ni barhau i beidio byth ag esgusodi nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. I gefnogi hyn, mae ein hymgyrch 'gwneud safiad' wedi cael ei ail-lansio, a byddwn yn annog cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan a hyrwyddo'r ymgyrch.

"Dylai pob un ohonom fod yn falch dros ben o'r hyn sydd wedi'i gyflawni dros y deunaw mis diwethaf, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Y gobaith yw na fydd angen y gwasanaethau hyn ar neb yn y dyfodol, ond hyd nes y bydd hynny'n digwydd, rhaid inni sicrhau bod darpariaeth ar gael i helpu pobl, a bod y ddarpariaeth honno yn addas ac yn diwallu anghenion."

Bu Ysgrifennydd y Cabinet yn annerch y Cynulliad cyn mynd i wylnos yng ngolau cannwyll yn adeilad y Pierhead. Bydd hefyd yn siarad yn y Gynhadledd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ddydd Mercher ac yn mynd i'r gwasanaeth Cynnau Cannwyll i gofio am y rheini sy'n dioddef trais a cham-drin domestig yn dawel bach, a hynny yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Gwener.

Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru a Cadw yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, drwy arddangos llun o Ruban Gwyn ar adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ac ar gestyll Caerffili, Caernarfon a Chonwy nos Wener.