Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant wedi ymuno â phlant yn Abertawe i ddathlu deng mlynedd o raglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet ei wahodd i Bicnic Tedis ar y thema Disney yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ynghyd â thua 3,000 o blant a'u teuluoedd sydd wedi cael cymorth gan Dechrau'n Deg. Roedd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau megis triciau syrcas, chwarae anniben a gwneud masgiau yn ogystal â gweithgareddau i annog bwyta'n iach, imiwneiddio a diogelwch tân. 

Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru, ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed. Mae'n targedu rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae'n darparu gofal plant rhan-amser o safon am ddim i blant 2-3 oed; gwasanaeth gwell gan Ymwelwyr Iechyd: cefnogaeth wrth fagu plant; a chymorth ym meysydd lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: 

"Cefais amser da iawn yn y picnic tedis. Mae'n enghraifft wych o'r modd y mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sy'n byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru drwy weithgareddau y mae pawb yn eu mwynhau ond sydd hefyd yn helpu plant i ddatblygu ac yn rhoi cyngor a chymorth. 

"Mae Dechrau'n Deg wedi bod yn rhaglen lwyddiannus iawn dros y degawd diwethaf, gan helpu nifer cynyddol o deuluoedd bob blwyddyn a chyfanswm o dros 38,000 yn 2015-16.

"Rwy'n hynod o falch o weld y gwahaniaeth y mae'r rhaglen wedi'i wneud i fywydau teuluoedd dros y ddeng mlynedd ddiwethaf. Mae athrawon wedi bod yn dweud wrthym ni ers peth amser eu bod yn gallu gweld yr effaith gadarnhaol y mae Dechrau'n Deg yn ei chael ar blant, wrth eu paratoi ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd sy'n eu hwynebu wrth iddynt dyfu. 

“Ynghyd â rhaglenni eraill fel Teuluoedd yn Gyntaf a'n rhaglen flaenllaw, y Cyfnod Sylfaen, rydyn ni'n rhoi'r dechrau gorau posibl i blant yng Nghymru.”