Mae'r Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi croesawu ffigurau sy'n dangos bod 79% o holl dai cymdeithasol yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru ar 31 Mawrth 2016
Mae'r Safon yn ceisio sicrhau bod yr holl gartrefi a gaiff eu darparu gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn ddiogel ac yn cynnwys cyfleusterau modern.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £108 miliwn bob blwyddyn i helpu pob landlord cymdeithasol i fodloni a chadw'r Safon erbyn 2020. Hyd yma, mae gwerth £452 miliwn o wariant ar y prosiect wedi cael ei olrhain, ac mae 85% o'r gwariant hwnnw wedi cael ei ail-fuddsoddi yng Nghymru. Mae'r buddsoddiad hefyd wedi helpu dros 777 o bobl i gamu i fyd gwaith neu hyfforddiant, ac wedi darparu gwerth 19,920 o wythnosau o hyfforddiant.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Bydd Safon Ansawdd Tai Cymru yn sicrhau bod dros 220,000 o aelwydydd yng Nghymru yn cael cartref sy'n ddiogel ac yn gynnes. Mae hyn hefyd yn hanfodol wrth i ni fel Llywodraeth fynd ati i gyflawni nifer o'n hamcanion eraill, gan gynnwys gwella iechyd a lles y genedl, a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddi a fydd yn helpu i drechu tlodi.
"Mae ein hystadegau yn dangos bod y buddsoddiad parhaus rydyn ni yn ei wneud yn ein tai cymdeithasol yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol.
"Rydyn ni wedi gweld llawer o gynnydd, gan ddod â ni yn nes at gyflawni ein targed o sicrhau bod pob tŷ cymdeithasol yn cyrraedd ein safonau ansawdd uchel erbyn 2020. Llongyfarchiadau i’r landlordiaid cymdeithasol ar eu llwyddiannau hyd yma, ond mae gwaith i'w wneud o hyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i wella eu stoc o dai."