Neidio i'r prif gynnwy

Croesawodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, ffigurau sy'n dangos bod 86% o’r holl dai cymdeithasol wedi bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 31 Mawrth 2017.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod Safon Ansawdd Tai Cymru yw sicrhau bod pob cartref sy'n cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn rhai diogel ac yn cynnig amwynderau modern. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £108 miliwn bob blwyddyn i helpu'r holl landlordiaid cymdeithasol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

"Bydd Safon Ansawdd Tai Cymru yn sicrhau bod gan fwy nag 220,000 o aelwydydd yng Nghymru gartref sy'n ddiogel ac yn glyd.

"Mae hefyd yn hollbwysig o ran ein helpu ni gyflawni nifer o'n nodau eraill fel Llywodraeth gan gynnwys gwella iechyd a lles y genedl. Mae buddsoddi mewn gwella ac adeiladu cartrefi hefyd yn gallu arwain at greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn ein cymunedau ac yn ein helpu i feithrin cymdeithas ffyniannus."

Hyd yn hyn, gwelwyd gwariant o £702 miliwn ac mae 82% o'r gwariant hwnnw wedi ei ailfuddsoddi yng Nghymru. Mae'r buddsoddiad hefyd wedi helpu dros 1407 o bobl i gael swydd neu hyfforddiant, gan ddarparu'r hyn sy'n cyfateb i 36,983 wythnos o hyfforddiant.

“Mae'r ystadegau yn dangos bod ein buddsoddiad parhaus yn ein stoc o dai cymdeithasol yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol. Rydym wedi gweld cynnydd da, sy'n ein helpu i gyrraedd ein targed o sicrhau bod ein holl dai cymdeithasol yn cyrraedd ein safonau ansawdd erbyn 2020. Rwy'n llongyfarch landlordiaid cymdeithasol am yr hyn y maent wedi'i gyflawni hyd yma, er bod rhagor o waith i'w wneud o hyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda landlordiaid i wella'u stoc tai.”