Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer pecyn cynhwysfawr i gynorthwyo addysgwyr cartref ac i helpu awdurdodau lleol i...
Bydd cefnogaeth i addysgwyr cartref yn cynnwys cymorth â chofrestru ar gyfer arholiadau; cael yr un cynigion iechyd â phlant mewn ysgolion; mynediad at Hwb, platfform dysgu digidol Cymru; edrych ar gyfleoedd i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref ddysgu Cymraeg a chefnogaeth gan Gyrfa Cymru.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg hefyd wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymgynghori ynghylch defnyddio deddfwriaeth bresennol i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata i'w helpu i nodi plant nad ydynt ar gofrestr ysgol, nad ydynt mewn addysg y tu allan i’r ysgol ac nad ydynt yn derbyn addysg addas. Ar yr un pryd, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgynghori ynghylch canllawiau statudol a fydd yn pennu'r trefniadau ar gyfer rhedeg y gronfa ddata a sut y bydd yn cael ei rheoli.
Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried pa bartneriaid fydd yn gallu cyfrannu at ddarparu'r gronfa ddata fwyaf cyflawn, fel byrddau iechyd lleol, a ph’un a ddylai fod yn ofynnol i ysgolion annibynnol roi gwybod i awdurdodau lleol am y plant sy'n eu mynychu.
Ni ellid defnyddio'r pwerau uchod i orfodi rhiant i gofrestru bod ei blentyn yn cael ei addysgu yn y cartref. Fodd bynnag, byddai'r pwerau'n ei gwneud yn bosibl i'r awdurdod lleol lunio cronfa ddata weddol gyflawn o blant nad ydynt ar gofrestr unrhyw sefydliad dan ofal yr awdurdod lleol nac unrhyw ysgol annibynnol.
Bydd y canllawiau statudol yn amlinellu'r trefniadau y bydd disgwyl i awdurdodau lleol eu rhoi ar waith i nodi plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, ac i asesu pa mor addas yw'r addysg honno.
Er mwyn gallu asesu a yw'r addysg yn addas, ni fyddai'n afresymol i'r awdurdod lleol weld y plentyn. Mater i'w benderfynu gan yr awdurdod lleol fydd hwn a bydd nifer o ffactorau'n dylanwadu ar y penderfyniad, gan gynnwys y cyd-destun ac amgylchiadau pob plentyn unigol.
Bydd y canllawiau statudol yn darparu cyngor clir i awdurdodau lleol ar y mater hwn.
Bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn cyhoeddi manylion pellach mewn datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru'r prynhawn yma.
Wrth gyhoeddi'r cynlluniau heddiw, dywedodd Kirsty Williams:
"Rydw i'n parchu dewis rhieni i addysgu eu plant yn y cartref yn llwyr ac nid yw unrhyw beth rydw i'n ei ystyried neu'n ei gynnig yn newid hynny. Mae gan rieni lawer o resymau gwahanol, dilys, a chymhleth weithiau, dros ddewis y llwybr hwn, ac mewn rhai sefyllfaoedd dyma'r dewis gorau ar gyfer y plentyn.
"Ond rhaid pwyso a mesur hyn yn erbyn hawl plant i gael addysg addas. Drwy sefydlu cronfa ddata a gefnogir gan ganllawiau statudol, bydd awdurdodau lleol yn gallu asesu a yw plentyn yn derbyn addysg addas, a ph'un a yw addysgwyr cartref yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, os yw'r plentyn yn derbyn ei addysg yn y cartref.
"Rydw i'n gwybod bod yr help y mae teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref yng Nghymru wedi ei gael gan awdurdodau lleol yn y gorffenno wedi bod yn amrywiol, a bod dim cefnogaeth o gwbl oddi wrth Lywodraeth Cymru. Dw i eisiau newid hynny.
"Dyma pam rydyn ni'n datblygu pecyn o gymorth addysgol sy'n cynnwys sicrhau bod Hwb ar gael i blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, help gyda chofrestru ar gyfer arholiadau, ac edrych ar opsiynau i deuluoedd sy'n addysgu plant yn y cartref ddysgu Cymraeg, a chynnig clir o help oddi wrth Gyrfa Cymru.
"Mae pwyso a mesur hawl y plentyn i gael addysg addas ochr yn ochr â dewis rhieni i addysgu yn y cartref yn wastad yn mynd i fod yn her, ond rydw i'n credu bod y cynlluniau y byddwn yn ymgynghori arnynt yn gam call a chymesur ymlaen."