Aeth yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Carl Sargeant i ymweld â chanolfan Un Sir Gâr yn Llanelli heddiw i weld sut mae’r ganolfan wybodaeth yn helpu pobl leol i gael gwaith.
Gyda phartneriaeth o fudiadau lleol yn gyfrifol am ei rhedeg, gan gynnwys Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Sir Gâr, mae’r ganolfan yn cynnig un lleoliad i bobl gael cymorth a gwybodaeth am gyflogaeth, gwirfoddoli, prentisiaethau neu hyfforddiant ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Bydd cynghorwyr profiadol sydd â gwybodaeth helaeth am yr holl gyfleoedd a gwasanaethau sydd ar gael, yn gallu helpu i ddod o hyd i lwybr personol ar gyfer pob cleient yn ôl eu sgiliau, eu profiad a’u hanghenion. Mae cymorth ar gael iddynt hefyd ar hyd yr adeg.
Dywedodd Carl Sargeant:
“Mae’r cyfan rydw i wedi’i weld yma heddiw wedi creu cryn argraff arna i. Mae’n amlwg fod y Ganolfan yn arwain y ffordd o ran cydweithio llwyddiannus.
“Mae’n dda gweld cynifer o wahanol fudiadau yn cydweithio i helpu pobl leol ddod o hyd i waith neu hyfforddiant a fydd, yn ei dro, yn helpu’r economi lleol.”