Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Carl Sargeant wedi talu teyrnged i staff y Gwasanaethau Brys ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Tra bydd y gweddill ohonon ni’n agor ein hanrhegion o gwmpas y goeden ac yn mwynhau ein cinio Nadolig gyda’n teulu bydd nifer o staff y Gwasanaethau Brys ymhell o’u teuluoedd yn cadw ein cymunedau’n ddiogel.

“Mae’n ddiwrnod fel pob diwrnod arall iddyn nhw pan fyddan nhw’n gweithio rownd y cloc i wasanaethu’r cyhoedd. Mae’r gweithwyr proffesiynol ymroddedig hyn yno i helpu pobl sydd mewn angen, i achub bywydau ac i’n diogelu ni i gyd bob munud a phob awr o’r dydd, bob dydd o’r flwyddyn. Rydw i am ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad Ddydd Nadolig a phob diwrnod arall o’r flwyddyn.”