Heddiw ymwelodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant â datblygiad Cymdeithas Tai Unedig Cymru yn yr Hen Orsaf Dân ym Margoed, i weld sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.
Bydd y 22 o fflatiau a thai newydd yn ein helpu i gyrraedd ein targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi newydd yn ystod tymor y llywodraeth hon.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Mae tai’n gymaint fwy na dim ond brics a mortar. Cafodd ei brofi bod cael cartref addas mewn cymuned ddiogel yn cael effaith bositif ar iechyd a lles, a bod hynny’n helpu i wella cyfleoedd bywyd pobl. Dyna’r rheswm pam mae darparu cartrefi diogel a chlud yn un o’n prif flaenoriaethau, a’n bod wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 yn rhagor o dai newydd yn ystod tymor y llywodraeth hon.
"Mae buddsoddi arian cyhoeddus mewn adeiladu ac adnewyddu cartrefi yn helpu i greu ac i gynnal swyddi a chyfleoedd hyfforddi, gan roi hwb i’r economi leol a’r economi genedlaethol.
"Mae cyrraedd y targed uchelgeisiol hwn yn dipyn o her, ond rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr ein bod yn llwyddo. Mae angen inni gyflymu’r broses o adeiladu tai, ac rydyn ni’n credu y gall partneriaethau tymor hir ein helpu i wneud hynny. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr cyfraniad ein landlordiaid cymdeithasol a’r berthynas gadarnhaol ac adeiladol sydd rhyngon ni, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda nhw er mwyn gwella bywydau tenantiaid."