Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Mark Drakeford yn ymweld â Noord-Holland heddiw er mwyn llofnodi Datganiad o Gyfeillgarwch a Chydsafiad gyda’r rhanbarth pwysicaf yn economaidd yn yr Iseldiroedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Athro Drakeford yn cyfarfod Gweinidog Rhanbarthol Noord-Holland dros Faterion Ewropeaidd, Cees Loggen ac fe fydd y ddau gyda'i gilydd yn llofnodi datganiad sy'n mynegi dymuniad i gynnal cyfeillgarwch cryf rhwng Cymru a Noord-Holland, ac ymrwymiad i gydweithio mewn meysydd o fuddiant cyffredin ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. 

Yna bydd yn cynnal trafodaethau gyda Mr Loggen a Chomisiynydd y Brenin yn Noord-Holland, Mr Johan Remkes, sef cynrychiolydd swyddogol y llywodraeth ganolog yn nhaleithiau'r Iseldiroedd. 

Datblygwyd y Datganiad o Gyfeillgarwch a Chydsafiad yng nghyd-destun Datganiad Caerdydd Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol, a lofnodwyd gan dros 20 o arweinwyr rhanbarthol ac awdurdodau lleol yr UE fis Tachwedd diwethaf, ac sy'n gosod blaenoriaethau ar gyfer cydweithio rhwng rhanbarthau'r UE yn y dyfodol ar ôl Brexit. 

Bydd Mr Drakeford hefyd yn ymweld â phrosiect i amddiffyn yr arfordir yn yr ardal, ac yn cyfarfod Mr Luc Kohsiek, Llywydd Bwrdd Dŵr Noord-Holland i drafod eu dull o reoli dŵr ac atal llifogydd arfordirol. 

Bydd taith yr Ysgrifennydd Cabinet yn dod i ben gydag ymweliad â'r '3D Print Canal House' - prosiect ymchwil a datblygu ymarferol lle mae tîm rhyngwladol o bartneriaid o amrywiol sectorau'n cydweithio ar argraffiad 3D o dŷ camlas maint llawn yn Amsterdam. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid: 

"Mae'r Datganiad o Gyfeillgarwch a Chydsafiad gyda Noord-Holland yn dangos eto ein dyhead i feithrin ein perthynas â'r rhanbarth, ac yn cefnogi ein hymdrechion ehangach i gryfhau'r berthynas â rhanbarthau Ewropeaidd tu hwnt i Brexit. 

"Gellid dweud mai Noord-Holland yw’r dalaith bwysicaf yn economaidd yn yr Iseldiroedd, ac mae'r ymweliad hwn yn gyfle i rannu syniadau sydd o fudd i’r ddwy ochr, yn arbennig mewn perthynas â seilwaith a chydweithio ar brosiectau ymchwil ac arloesi."

Dywedodd Gweinidog Rhanbarthol Noord-Holland dros Faterion Ewropeaidd, Cees Loggen: 

“Mae angen i bobl y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd barhau i gysylltu, cydweithio a  dysgu oddi wrth ei gilydd. Gobeithio bydd nifer o ranbarthau’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn esiampl Cymru a Noord-Holland a chyd-lofnodi’r datganiad.”