Mae Mark Drakeford yn cychwyn ar ddeuddydd o ymweliad â Bilbao yng Ngwlad y Basg heddiw.
Mae gan Lywodraeth Gwlad y Basg enw da am ei dyfeisgarwch wrth edrych ar drethi, datblygu economaidd a masnach, cynlluniau cymdeithasol, cludiant a seilwaith - gan gynnwys y cynllun isafswm incwm a buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfarfod Pedro Azpiazu, Gweinidog y Trysorlys a'r Economi Gwlad y Basg; Arantxa Tapia, y Gweinidog Datblygu Economaidd a Chystadleurwydd a Beatriz Artolazabal, y Gweinidog Cyflogaeth a Pholisïau Cymdeithasol. Bydd yn ymweld â Phorthladd Bilbao ac yn gweld y rheilffordd trenau cyflym sy'n gwasanaethu'r ardal.
Dros y degawd diwethaf, mae perthynas Cymru â Gwlad y Basg wedi closio'n raddol gyda mwy a mwy o weithgarwch ar y cyd ar lefel llywodraeth - drwy gydweithio mewn rhwydweithiau Ewropeaidd - ac ar lefel sefydliadol.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Gwlad y Basg ei strategaeth ryngwladol ddiwygiedig: Estrategia Basque Country 2018-20, sy'n cynnwys Cymru fel un o'r pum rhanbarth Ewropeaidd uchaf eu blaenoriaeth i Wlad y Basg.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
"Mae Cymru a Gwlad y Basg eisoes yn mwynhau ac yn elwa ar berthynas gydweithredol ar draws meysydd amrywiol.
"Wrth i ni gyflwyno ein trethi newydd ym mis Ebrill a gweithio i ddatblygu trethi eraill, mae'r ymweliad hwn yn gyfle defnyddiol i rannu arfer da a dysgu o syniadau blaengar Gwlad y Basg am bolisi a gweinyddiaeth trethi, polisïau cymdeithasol a rhaglenni buddsoddi, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith. Mae hefyd yn gyfle i drafod perthynas strategol y rhanbarth gyda Llywodraeth Sbaen mewn perthynas â materion cyllidebol.
"Bydd yr ymweliad â'r rheilffordd trenau cyflym yn helpu gyda'n cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru.
"Rydyn ni'n awyddus iawn i gryfhau ein cysylltiadau â Gwlad y Basg, ac rwy'n edrych ymlaen at gael gweld sut i ddwysau'r cydweithrediad rhwng ein rhanbarthau."