Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford y bydd cymunedau lleol y mae tirlenwi yn effeithio arnynt yn elwa ar gynllun grant newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), sy'n cyflwyno treth gwarediadau tirlenwi newydd i ddisodli'r dreth dirlenwi yng Nghymru pan fydd yn cael ei datganoli ym mis Ebrill 2018, heddiw yn cyrraedd cyfnod tri yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant a fydd, os bydd y Bil yn cael ei basio, yn gosod y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi newydd ar wyneb y bil.

Mae'r diwygiad yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi cynllun cymunedau a'i dargedu at weithgareddau sy'n hyrwyddo neu'n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol cymunedau sy'n agos at safleoedd tirlenwi a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei ariannu drwy ddefnyddio rhywfaint o'r refeniw a godir drwy dreth gwarediadau tirlenwi. Bydd penderfyniad ynghylch y swm i'w ddyrannu yn cael ei wneud yn yr hydref.

Mae ymarfer caffael i benodi un corff dosbarthu a fydd yn cynnal y cynllun wedi dechrau. Rhagwelir y bydd yr hysbysiad contract yn cael ei lansio ddiwedd mis Gorffennaf, ac mae disgwyl i'r contract gael ei ddyfarnu erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweinyddu trefniadau llywodraethu cyffredinol y cynllun.

Dywedodd yr Athro Drakeford:  

"Ymhen blwyddyn, bydd y trethi Cymreig cyntaf ers bron 800 mlynedd yn cael eu cyflwyno. Mae hon yn garreg filltir hanesyddol yn nhaith ddatganoli Cymru wrth inni ddod yn gyfrifol am godi ein cyllid ein hunain i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

"Rydw i wedi ymrwymo'n llawn i gael cynllun cymunedau newydd pan fydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chyflwyno ym mis Ebrill. Mae'r manteision y mae'n eu darparu i gymunedau gerllaw safleoedd tirlenwi a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn amlwg ac yn niferus.

"Bydd y cynllun grant newydd yn canolbwyntio ar dri maes – bioamrywiaeth, gwelliannau amgylcheddol a lleihau gwastraff. Bydd yn helpu i wella ein hamgylchedd ac yn sicrhau bod cynifer o gyllid â phosibl yn cyrraedd y prosiectau cymunedol hynny y bydd gwaredu gwastraff i safleoedd tirlenwi yn effeithio arnynt fwyaf.

"Bydd manylion y cynllun yn cael eu cyhoeddi ar wahân ond mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer ei gyflwyno. Byddaf yn cyhoeddi'r swm a fydd yn cael ei roi i'r cynllun yn yr hydref."

Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yw'r trydydd o gyfres o dri Bil i sefydlu trethi newydd yng Nghymru – cyfres o ddeddfwriaeth hanfodol bwysig i baratoi ar gyfer cyflwyno'r trethi Cymreig cyntaf ers bron 800 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi mynd ati'n gydweithredol i gael cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y Bil, gan gytuno ar welliannau na chynigiwyd gan y llywodraeth i ddatblygu'r ddeddfwriaeth ymhellach.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid: 

“Y Bil hwn yw'r trydydd darn o ddeddfwriaeth i sefydlu trethi newydd yng Nghymru. Bu'n bwysig iawn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Cynulliad i ddatblygu consensws er mwyn inni gael deddfwriaeth gref i helpu i baratoi'r ffordd i drosglwyddo pwerau trethi yn ddidrafferth."