Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cynnal digwyddiad yn Nantgarw fydd yn denu sefydliadau a busnesau o bob rhan o'r De i drafod buddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'r cyfarfod 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' yn cael ei gynnal yn sgil cyhoeddi papur o'r un enw gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.

Mae'r papur yn cynnig ffordd symlach, newydd a llai biwrocratig o gefnogi cymunedau yng Nghymru a helpu i ddatblygu'r economi. Mae am sicrhau na fydd Cymru'n colli dimai o'r £370m y mae'n ei gael ar hyn o bryd trwy gronfeydd strwythurol yr UE bob blwyddyn.  Bydd am weld Llywodraeth y DU yn ychwanegu swm cyfwerth at gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae'r papur yn gwrthod y syniad o Gronfa Ffyniant Brydeinig fydd yn cael ei rheoli gan San Steffan ac am fynnu bod penderfyniadau ynghylch buddsoddi rhanbarthol yn aros yng Nghymru. Ymhlith y cynigion y mae:

  • symleiddio'r rheolau, gweinyddiad a systemau cronfeydd buddsoddi rhanbarthol
  • datblygu cynlluniau ar gyfer rhanbarthau Cymru o dan arweiniad partneriaethau o awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau yn yr ardaloedd hynny
  • targedu buddsoddi rhanbarthol yn y mannau lle mae ei angen fwyaf

Bydd y digwyddiad yn gyfle i drafod y cynigion ar gyfer buddsoddi yn ein rhanbarthau yn y dyfodol ar ôl i'r rhaglenni Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd presennol ddod i ben.

Dywedodd Mark Drakeford:

“Dechrau'r broses oedd cyhoeddi 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'.  Rydym am weithio gyda chymaint o bobl, sefydliadau a busnesau â phosib yn y broses hon i ddyfeisio math newydd o bolisi buddsoddi rhanbarthol fydd yn gwneud y gorau o botensial pob rhan o Gymru."

Y digwyddiad hwn yw'r ail o ddau gyfarfod i ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch buddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit. Cynhaliwyd y cyntaf ym Mhrifysgol Bangor wythnos ddiwethaf (18 Ionawr) lle anerchodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, fforwm o arweinwyr busnes a chynghorau o'r Gogledd.

Ychwanegodd Mark Drakeford:

"Nid cymryd lle'r rhaglenni Ewropeaidd yw ein hunig fwriad. Dyma gyfle i feddwl yn wahanol a gweithio'n wahanol mewn ffordd sy'n dod â pholisïau ar draws portffolios a sefydliadau ynghyd.

"Bydd hynny'n golygu alinio'n agosach â'n gwaith ar ddiwygio llywodraeth leol; rhanbartholi polisi datblygu economaidd a blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru a nodwyd yn 'Ffyniant i Bawb'."