Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn cynrychioli Cymru fory (13 Ionawr) yng Nghynhadledd Economaidd Killarney.
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn ymuno â phanel o ffigurau gwleidyddol, academyddion amlwg ac arweinwyr busnes Iwerddon, gan gynnwys Arlene Foster, Arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd a Micheál Martin, Arweinydd Fianna Fáil i drafod Brexit a'r heriau sy'n codi yn ei sgil i fusnesau, y materion cyfreithiol fydd yn codi, sut fydd yn effeithio ar wleidyddiaeth yn y dyfodol a'r effaith y bydd yn ei chael ar fywyd bob dydd.
Bydd y gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i drafod cysylltiadau masnach rhwng Cymru a'r Iwerddon ar ôl Brexit, a'r cynnydd sy'n digwydd gyda'r rhaglen Iwerddon Cymru 2014-2020 sy'n darparu €100m o fuddsoddiad i'n busnesau a'n cymunedau.
Dywedodd Mark Drakeford:
"Rydyn ni'n gwerthfawrogi'n perthynas ag Iwerddon ac wedi ymrwymo i gadarnhau'r cysylltiad hwnnw y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, yn sgil y cysylltiad agos, gwerthoedd cyffredin a chysylltiadau masnach a diwylliannol rhwng ein dwy genedl.
"Fel cenedl agored, rydyn ni am gynnal ac adeiladu ar ein rhwydweithiau rhyngwladol drwy barhau i gymryd rhan mewn rhaglenni cydweithredol.
"Rydyn ni'n ystyried rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn rhai gwerthfawr iawn, gan gynnwys ein rhaglen drawsffiniol gyda'n cymdogion agosaf. Dyma ffordd dda o ddod o hyd i atebion gwirioneddol i heriau cyffredin sy'n croesi ffiniau.
“Rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn cynnal, ac nid yn colli'r partneriaethau ardderchog, creadigol a adeiladwyd dros y môr gydag Iwerddon.”