Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynigion heddiw i gael gwared ar ddedfryd o garchar fel cosb am beidio â thalu’r dreth gyngor.
Bydd rheoliadau’n cael eu cyflwyno yn gynnar yn 2019 fel na fydd pobl bellach yn cael eu carcharu am ddyledion treth gyngor yng Nghymru. Bydd hyn yn dibynnu ar ganlyniad ymgynghoriad sydd i’w gynnal am 12 wythnos.
Yn wahanol i fathau eraill o ddyledion sifil, mae gan y llysoedd bŵer i anfon pobl i’r carchar am hyd at dri mis am beidio â thalu’r dreth gyngor. Cynhaliwyd adolygiad barnwrol yn ddiweddar yn sgil achos menyw o Ben-y-bont ar Ogwr. Dangosodd hwn faint o bobl oedd yn cael eu hanfon i’r carchar am ddyledion treth gyngor, a hynny’n anghyfreithlon mewn rhai achosion.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Fy marn i yw nad yw mynd i ddyled yn drosedd. Mae cosbi drwy garcharu yn ymateb hen ffasiwn ac anghymesur i fater dyled sifil.
“Mae cost ychwanegol sylweddol i’r pwrs cyhoeddus o anfon unigolion i’r carchar ac nid yw'r fath gamau yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r rhesymau dros y swm sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol nac i leihau'r ddyled. Mewn llawer o achosion, mae'n gwneud y sefyllfa’n waeth.
“Rhaid inni hefyd ystyried yr effaith hirdymor ar les a rhagolygon dyfodol pobl sydd wedi cael eu carcharu, a'r effaith ar eu teuluoedd. Mae hyn yn cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus eraill hefyd, gan y bydd angen i’r sawl sydd wedi’i garcharu a’i deulu gael mwy o gefnogaeth, o bosibl."
Mae achosion o ddyledion treth gyngor wedi cynyddu yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu budd-dal y dreth gyngor ym mis Ebrill 2013. Er mwyn lleddfu effaith y penderfyniad hwn, datblygodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sef Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Er mwyn annog mwy o aelwydydd i fanteisio ar y Cynllun Gostyngiadau, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch ar y cyd ag awdurdodau lleol a chyrff trydydd sector i godi ymwybyddiaeth o’r gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael.
Ychwanegodd yr Athro Drakeford:
“Ni all Llywodraeth Cymru gymryd camau mewn perthynas â gweithrediad y llysoedd, gan nad yw’r cyfrifoldeb dros hyn wedi'i ddatganoli.
“Ond mae gennym bwerau i ddiwygio'r drefn orfodi bresennol drwy ddileu'r pŵer i anfon pobl i garchar yng Nghymru am beidio â thalu’r dreth gyngor. Rwy'n credu mai dyma’r peth iawn i'w wneud ar hyn o bryd.
“Mae yna gamau gorfodi eraill, mwy priodol, y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i fynd ar ôl dyledion sifil.”
Yr ymgynghoriad hwn ynglŷn â dileu’r gosb o garchar am beidio â thalu’r dreth gyngor yw’r cam nesaf yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach.