Heddiw, bydd Mark Drakeford yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i arweinwyr byd busnes am y cynlluniau i Gymru geisio pwerau newydd ar gyfer cyflwyno treth ar dir gwag.
Wrth siarad mewn Brecwast a fydd yn cael ei gynnal yn Ysgol Fusnes Caerdydd, bydd yn rhoi'r diweddaraf am y broses o dreialu Deddf Cymru 2014, sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig syniadau newydd ar gyfer trethi mewn meysydd lle mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli.
Cafodd treth ar dir gwag ei ddewis o restr fer o bedwar syniad ar gyfer trethi newydd i dreialu Deddf Cymru, yn dilyn dadl gyhoeddus ynghylch syniadau ar gyfer trethi newydd y llynedd.
Byddai modd defnyddio teth ar dir gwag i annog pobl i beidio ag ymgymryd â'r arfer o "fancio tir" ac i ddatblygu safleoedd gwag yn amserol er mwyn bodloni'r cynnydd yn y galw am dai yng Nghymru.
Wrth annerch y gynulleidfa o lunwyr polisi, ymarferwyr busnes a rhanddeiliaid eraill, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn dweud:
“Rydyn ni'n gweithio ar hyn o bryd ar y broses o drosglwyddo pwerau o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni’n gobeithio dechrau trafodaethau â Thrysorlys ei Mawrhydi yn ystod y misoedd sydd i ddod, a'r nod yw cael y pwerau yn y Flwyddyn Newydd. Ar ôl hynny, byddwn yn gallu dechrau ar ddatblygu polisi yn fwy ffurfiol.
“Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod ein polisi trethi yn cael ei ddatblygu mewn modd agored a thryloyw a dyna pam rydyn ni wedi - ac rydyn ni'n parhau - i gael trafodaethau adeiladol â rhanddeiliaid.
“Dim ond drwy gydweithredu fel hyn y gallwn ni gyflawni ein hamcanion heb roi baich diangen ar ddatblygwyr a thirfeddianwyr cyfrifol.”
Nid yw cael treth ar dir gwag yn syniad newydd. Mae treth ar eiddo wedi cael ei defnyddio i annog datblygiad ac adfywiad ledled y byd. Mae ardoll ar safleoedd gwag yng
Ngweriniaeth Iwerddon yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer y ffordd y gallai codi treth ar dir gwag weithio yng Nghymru.
Fodd bynnag, byddai treth ar dir gwag yng Nghymru yn cael ei datblygu yn benodol i ofynion unigryw Cymru.