Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn disgrifio uchelgais i weld Cymru yn un o'r arweinwyr ym maes datblygu ynni'r môr.
Bydd yn gwneud araith bwysig yng nghynhadledd ac arddangosfa Ocean Energy Europe yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin, lle bydd gan Lywodraeth Cymru stondin fasnach a bydd 16 o gwmnïau o Gymru yn cael eu cynrychioli.
Ocean Energy Europe yw un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr ynni'r môr yn Ewrop, ac mae'n gyfle i gwmnïau godi eu proffil a rhwydweithio gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol, buddsoddwyr, ac entrepreneuriaid dylanwadol yn y sector.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid:
“Rydyn ni'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod Cymru yn un o'r arweinwyr ym maes ynni'r môr, gyda'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu gan y tonnau a'r llanw yn rhan bwysig o’n huchelgais i greu economi carbon isel.
“Ein nod ydy cynhyrchu 70% o ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae'r sector ynni morol yn gallu chwarae rôl sylweddol yn ein hymdrechion i fwrw'r targed hwn, a bydd hyn yn cyd-fynd yn agos gyda Chynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru.
“Dros y 18 mis diwethaf, mae'r UE a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn nifer o brosiectau ynni morol, gan gynnwys gwaith caniatâd Morlais, Ardaloedd Prawf Ynni'r Môr yn Sir Benfro, Bombora Wavepower a Marine Power Systems, yn ogystal â pharhau i gefnogi Ynni Môr Cymru.
“Mae hyn i gyd yn creu seiliau cadarn i'n huchelgais i sicrhau diwydiant ffyniannus sy'n dod â swyddi sy'n talu'n dda a chyfleoedd busnes. Rydyn ni'n awyddus i barhau i ddenu datblygwyr o bob rhan o'r byd i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan ddyfroedd Cymru.”
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn gwneud ei araith bwysig am 9am ym mhrif awditoriwm Canolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin.