Neidio i'r prif gynnwy

Bydd £160m o arian ychwanegol ar gael i lywodraeth leol a’r gwasanaeth iechyd dros y ddwy flynedd nesaf yn sgil y Gyllideb derfynol, sy’n cael ei gosod heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd awdurdodau lleol yn cael £20m o arian ychwanegol yn 2018-19 a £40m yn 2019-20 i gefnogi gwasanaethau lleol. Bydd manylion pellach ar gael yn y setliad llywodraeth leol terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi yfory (dydd Mercher 20 Rhagfyr).

A bydd swm ychwanegol o £50m y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i GIG Cymru yn 2018-19 a 2019-20 i hybu’r gwaith sydd ar y gweill i drawsnewid gwasanaethau, gofal sylfaenol a’r Gronfa Gofal Integredig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: 

“Mae’r Gyllideb derfynol yn nodi carreg filltir arwyddocaol ar lwybr datganoli gan fod Cymru, am y tro cyntaf, yn dod yn gyfrifol am godi cyfran o’i refeniw ei hun drwy ddwy dreth ddatganoledig newydd, i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

“Rwy’n falch o allu darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus – meysydd ry’n ni’n gwybod bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. Bydd yr arian hwn yn helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Maen nhw wedi cael trafferth ymdopi oherwydd y toriadau cyson i’n cyllideb ers 2010-11, diolch i raglen Llywodraeth y DU o gyni ariannol.”

Mae’r Gyllideb derfynol yn cynnwys dyraniadau cyllid refeniw a wneir yn sgil y cyllid canlyniadol a geir drwy Gyllideb y DU. Gan mai cyfnod byr sydd rhwng Cyllideb Hydref Llywodraeth y DU a chyhoeddi Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyhoeddi penderfyniadau cynnar ynghylch dyraniadau cyllid cyfalaf ychwanegol yn y gwanwyn.

Mae eisoes wedi cyhoeddi trothwy cychwynnol uwch o £180,000 ar gyfer prif gyfradd breswyl y dreth trafodiadau tir. Bydd hyn yn golygu y bydd degau o filoedd o brynwyr tai, gan gynnwys y rhai sy’n prynu am y tro cyntaf, yn cael eu heithrio rhag talu’r dreth ar eiddo wrth brynu tŷ o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, 

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu darparu’r hwb ychwanegol hwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru. Ry’n ni wedi gwrando ar y pryderon a godwyd gan lawer o’n cynghorau, ac wedi cymryd camau i fynd i’r afael â rhywfaint o’r pwysau mewn meysydd pwysig fel digartrefedd ymhlith pobl ifanc.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, 

“Mae’r buddsoddiad ychwanegol yn y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi cyfle gwirioneddol imi ddarparu cyllid wedi’i dargedu er mwyn bwrw ymlaen â newidiadau i wasanaethau iechyd, a hynny drwy integreiddio, rhoi mwy o ffocws ar ofal sylfaenol a gwneud newidiadau strategol i wasanaethau a leolir mewn ysbytai.”