Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun newydd hwn yn cefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio pan fydd gwastraff yn cael ei waredu drwy safleoedd tirlenwi.

Daw’r cynllun i rym ar 1 Ebrill, pan fydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chyflwyno yng Nghymru. Bydd cyfanswm o £1.5 miliwn ar gael i brosiectau bob blwyddyn am y pedair blynedd nesaf, gan ddefnyddio’r cyllid a fydd yn cael ei godi drwy’r dreth ddatganoledig newydd.

Bydd y cynllun yn ariannu prosiectau amgylcheddol a chymunedol sy’n hybu bioamrywiaeth, yn lleihau gwastraff ac yn cyfeirio gwastraff oddi wrth safleoedd tirlenwi, ynghyd â gwelliannau amgylcheddol eraill, mewn ardaloedd hyd at bum milltir o amgylch safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cydnabod y gall gwaredu gwastraff gael effaith negyddol ar gymunedau.

“Bydd yr arian a roddir drwy’r cynllun hwn yn gwella’r amgylchedd yn uniongyrchol i’r rhai sy’n byw gerllaw safle tirlenwi, drwy helpu i wrthbwyso effaith anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi.

“Bydd grantiau o rhwng £5,000 a £50,000 ar gael i brosiectau mewn dau gylch cyllido bob blwyddyn, a bydd un prosiect yn cael hyd at £250,000 y flwyddyn.”