Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi Nodyn Cyngor Caffael a fydd yn parhau â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU yn ehangach.
Mae'r Nodyn Cyngor yn adeiladu ar argymhellion Adroddiad Dur Tasglu Tata Steel ym mis Ionawr 2016, a nododd gaffael cyhoeddus fel maes i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU. Bydd yn rhoi eglurder i sector cyhoeddus Cymru ynghylch y camau y dylid eu cymryd i agor cyfleoedd is-gontractio i gyflenwyr dur Cymru a'r DU.
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Rydym yn cyhoeddi'r Nodyn Cyngor fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi hyfywedd hirdymor y diwydiant cynhyrchu dur yng Nghymru. Mae hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw'r diwydiant dur i economi Cymru a'r DU o ran darparu swyddi cyflogau uwch sy'n gofyn am lawer o sgiliau – yn uniongyrchol ac yn y gadwyn gyflenwi – ac fel buddsoddwr allweddol ym meysydd addysg bellach, ymchwil a datblygu.”
Mae'r Nodyn Cyngor yn annog cyrff y sector cyhoeddus i benderfynu pa rai o'u caffaeliadau sy’n brosiectau ‘mawr’ lle mae dur yn debygol o fod yn elfen hanfodol. Awgrymir y gallai'r rhain gynnwys y canlynol, ymysg eraill:
- Prosiectau seilwaith - fel rheilffyrdd a ffyrdd;
- Prosiectau adeiladu - fel adeiladu neu adnewyddu carchardai, ysbytai, prifysgolion, tai, canolfannau cymunedol, pontydd ac ysgolion;
- Amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Ychwanegodd yr Athro Drakeford: “Dyma enghraifft arall o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd i gyflenwyr lleol wneud cais am gontractau cyhoeddus, un ai'n uniongyrchol neu drwy'r gadwyn gyflenwi, ac mae'n rhan o'n pecyn cymorth ehangach i'r sector dur yng Nghymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at ein polisi parhaus i gefnogi arferion busnes moesegol drwy ddefnyddio polisi caffael cyhoeddus.
"Rydyn ni eisoes yn gweld canlyniadau'r Nodyn Cyngor Caffael dur cyntaf a gyhoeddwyd yn 2016 ar brosiect Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod 89% o'r bariau atgyfnerthu dur sy'n cael eu defnyddio i adeiladu'r ffordd yn dod o Gymru."
Mae'r Nodyn Cyngor Caffael - Cefnogi cyrchu dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith mawr yng Nghymru ar gael ar y dudalen isod: Cefnogi cyrchu dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith mawr yng Nghymru (PAN)