Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw wedi cyhoeddi Cyllideb ddrafft i gynnal gwead cymdeithas Cymru a chreu Cymru well.
Dyma'r Gyllideb gyntaf i gynnwys refeniw o gyfraddau treth incwm Cymru wrth i ni ennill pwerau rhannol i osod ac amrywio treth incwm am y tro cyntaf.
Datganoli treth incwm yn rhannol o 6 Ebrill 2019 ymlaen yw'r cam nesaf yn hanes datganoli yng Nghymru, yn dilyn llwyddiant cyflwyno'r trethi Cymreig cyntaf ers bron i 800 mlynedd - y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi - ym mis Ebrill 2018.
Datblygwyd Cyllideb ddrafft amlinellol 2019-20 mewn cyfnod o gyni di-baid ac yng nghysgod yr ansicrwydd parhaus sy'n gysylltiedig â Brexit.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag effeithiau gwaethaf y cyni, ac fe fydd yn parhau i wneud hynny. Dydy'r Gyllideb ddrafft hon ddim yn eithriad.
"Hon fu'r Gyllideb anoddaf i mi hyd yma. Gyda llai o arian, mwy o alw a chwyddiant cynyddol, rydyn ni wedi gweithio'n galed i wasgu pob ceiniog bosib i'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl."
Mae Cyllideb ddrafft amlinellol 2019-20 yn adeiladu ar y cynlluniau a gyhoeddwyd llynedd ac yn adlewyrchu ail flwyddyn cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae cynlluniau refeniw Llywodraeth Cymru yn cynnwys:
- Dros £500m ychwanegol i iechyd a gofal cymdeithasol – mae hyn yn cynnwys £220m i ateb bwlch Nuffield a £287m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau, cyflog a pherfformiad
- Dros £50m ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn 2019-20, gyda £30m ohono yn cael ei ddyrannu o gyllid iechyd a gofal cymdeithasol
- £15m gyfer ysgolion
- Pecyn o £12.5m o fesurau i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant.
Roedd awdurdodau lleol yn wynebu gostyngiad cyllid o £43m yn 2019-20. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i leihau hyn drwy wella swm y cyllid y mae'n ei ddarparu'n uniongyrchol i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw. Mae hefyd wedi medru adfer cyllid i nifer o grantiau a gwneud nifer o benderfyniadau cyllid eraill a fydd o fantais uniongyrchol i lywodraeth leol, sy'n gyfanswm o £84m.
Ym mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £266m o fuddsoddiadau cyfalaf newydd wrth gyhoeddi adolygiad canol cyfnod Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae'r Gyllideb ddrafft amlinellol yn adeiladu ar y cyhoeddiadau cyfalaf hynny ac yn cynnwys:
- £78m ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol dros dair blynedd (£26m y flwyddyn o 2018–19 i 2020–21)
- £60m dros dair blynedd ar gyfer cynllun adnewyddu ffyrdd awdurdodau lleol er mwyn atgyweirio'r difrod a achoswyd gan gyfres o aeafau caled a'r tywydd poeth dros yr haf eleni
- Bron i £43m dros ddwy flynedd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu depo trenau Ffynnon Taf
- £35m ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol
- £25m i greu saith hyb strategol ar draws Cymoedd y De, yn unol â chynllun y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De Ein Cymoedd, Ein Dyfodol (£9m yn 2019–20 ac £16m yn 2020-21)
- £15m dros ddwy flynedd i ariannu'r Rhaglen Newid Gydweithredol a'r rhaglen ailgylchu gwastraff er mwyn helpu i gynnal gwaith da Cymru o ran rheoli ac ailgylchu gwastraff
- £7m dros ddwy flynedd i sefydlu Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn unol â chynllun y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De Ein Cymoedd, Ein Dyfodol
- £4.5m ychwanegol i gefnogi cynlluniau i ddarparu 19 o ganolfannau iechyd a gofal integredig newydd.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Mewn cyfnod o ansicrwydd, rydyn ni'n parhau i ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'n gwasanaethau cyhoeddus i ateb yr heriau gwirioneddol sydd o'u blaen heddiw, gan weithredu nawr i wella'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Mae'r gyllideb hon yn defnyddio pob ffynhonnell sydd ar gael i ni er mwyn creu Cymru well."
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw newidiadau i gyfraddau a bandiau'r dreth trafodiadau tir yn y Gyllideb ddrafft amlinellol, ond bydd cyfraddau'r dreth gwarediadau tirlenwi yn codi yn unol â chwyddiant, fel y cyhoeddwyd llynedd.
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyhoeddi heddiw ei fod yn bwriadu ymgynghori ar gynlluniau i eithrio pobl dan 25 oed sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor yng Nghymru.
Bydd hefyd yn ymgynghori ar gynigion i drin ysbytai preifat ac ysgolion annibynnol - sydd â statws elusennol ac sydd wedi'u heithrio rhag talu ardrethi annomestig ar hyn o bryd - yr un ffordd ag ysbytai'r GIG ac ysgolion sy'n cael eu hariannu gan y wladwriaeth, sy'n gymwys i dalu ardrethi annomestig.
Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb refeniw un flwyddyn ar gyfer 2019-20 a chynlluniau cyfalaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf - 2019-20 a 2020-21.
Y Gyllideb ddrafft amlinellol yw cam cyntaf y Gyllideb, sy'n dangos o ble y daw cyllid Cymru a sut mae'n cael ei ddyrannu i'r prif adrannau gwario. Bydd y cynlluniau gwario adrannol manwl yn cael eu cyhoeddi ar 23 Hydref, yn unol â phroses newydd y gyllideb a gyflwynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol llynedd.