Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn galw ar bobl Cymru i ystyried o ddifrif pwysigrwydd yr economi sylfaenol – a’r degau o filoedd o bobl sy’n cael eu cyflogi ynddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth agor cynhadledd ddau ddiwrnod ar arloesi cymdeithasol yn yr economi sylfaenol a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd yn pwysleisio’r angen i sicrhau gwelliannau er mwyn cynyddu cyflogau a gwella rhagolygon gyrfa.

Ond bydd yr Athro Drakeford hefyd yn tynnu sylw at nifer y cymunedau yng Nghymru sy’n teimlo’n ansicr a’u bod ar y cyrion - teimladau sy’n cael eu gwaethygu gan y posibilrwydd o Brexit ‘caled’.  

Yr economi sylfaenol yw'r rhan o'r economi sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol i gymunedau. Yn cynllun gweithredu ar yr economi, Ffyniant i Bawb,   rydym yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’n ei chwarae wrth inni fynd ati i greu Cymru ffyniannus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pedwar sector sylfaenol lle y gallwn sicrhau'n manteision gorau drwy weithio'n fwy effeithlon ar draws y Llywodraeth. Y sectorau dan sylw yw twristiaeth, bwyd, manwerthu a gofal. 

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Mae dros 40% o'n gweithlu'n cael eu cyflogi yn yr economi sylfaenol, sy’n nifer enfawr o swyddi. Ac er eu bod yn swyddi sy'n cael eu cysylltu'n rhy aml â chyflogau isel a rhagolygon gwael o ran gyrfa, gallwn weld hynny fel dadl dros edrych o ddifrif ar yr economi sylfaenol a sicrhau gwelliannau. 

“Nid oes modd dianc rhag y ffaith bod rhai o’n cymunedau'n teimlo'n ansicr. Hefyd, er y bu cynnydd diamau yn yr economi ers datganoli – mae rhannau o Gymru sy'n parhau i deimlo eu bod ar y cyrion, a'u bod yn cael eu hanghofio hyd yn oed. Wrth gwrs, mae'r posibilrwydd o orfod wynebu Brexit caled a pheryglon diffyg cytundeb yn gwaethygu'r ansicrwydd hwnnw. 

Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) sydd wedi trefnu'r gynhadledd hon, a fydd yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau a thrafodaethau panel o dan arweinyddiaeth gwahanol academyddion, gwneuthurwyr polisi, a chynrychiolwyr etholedig. 

Bydd y digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at enghreifftiau o’r arferion gorau rhyngwladol, a bydd yr ail ddiwrnod yn cynnwys trafodaeth panel gyda nifer o Aelodau'r Cynulliad yn cymryd rhan.

Aeth yr Ysgrifennydd Cyllid yn ei flaen i ddweud:

“Nawr mwy nag erioed o'r blaen, rhaid inni gryfhau sylfeini ein heconomi, a hefyd datblygu lleoedd y gall pobl ymfalchïo ynddynt a lle y gallan nhw deimlo'n ddiogel. Mae'r economi sylfaenol bron mewn sefyllfa unigryw i'n helpu i gyflawni’r nod hwn."